Buddsoddwyr yn cefnogi X4 wrth i SourceMogul oresgyn yr UD

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
David James

Mae X4 Software Limited sy'n seiliedig yng Nghaerffili wedi sicrhau buddsoddiad dilynol o £175,000 gan Fanc Datblygu Cymru a chefnogaeth buddsoddwyr angylion busnes.

Mae  X4 Software yn masnachu fel SourceMogul. Ac yntau wedi cael ei gyflwyno gan Angylion Buddsoddi Cymru, David James yw'r buddsoddwr diweddaraf i gefnogi'r busnes. Yn flaenorol, arweiniodd Hudman Solutions, busnes datblygu meddalwedd arobryn, ddwy rownd ariannu fel buddsoddwr a Rheolwr Gyfarwyddwr cyn gwerthu’n llwyddiannus i Advanced yn 2017.

Mae meddalwedd SourceMogul’s yn dadansoddi dros 20 miliwn o gynhyrchion yn fyd-eang bob mis i alluogi gweithwyr proffesiynol cyflafareddu ar-lein i wneud penderfyniadau prynu craff, wedi’u haddasu'n bwrpasol. Mae'n awtomeiddio'r chwiliad am gynhyrchion ar draws manwerthwyr ar-lein a darparwyr cyfanwerthu, gan hidlo a chyflwyno cynhyrchion yn unol â manylebau cwsmeriaid, gyda nodweddion wedi'u cynnwys fel cyfrifiannell Enillion ar Fuddsoddiad (EAB) ac amcangyfrifon o werthiannau bob mis.

Gan weithredu o Welsh Ice yng Nghaerffili, dyfarnwyd SourceMogul fel busnes ‘Dechreuol Byd-eang y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru yn 2016 a noddir gan Natwest. Mae gan y cwmni dîm o chwech a disgwylir i ddau newydd ymuno yn fuan.

Dywedodd y sylfaenydd Ed Brooks: “Mae SourceMogul yn addas i bawb, o fasnachwyr profiadol i’r rhai sy’n hollol newydd i gyflafareddu ar-lein, ac mae wedi’i anelu at aelwydydd y DU a’r UD sy’n chwilio am ffrydiau incwm newydd. Mae'n gweddu i'r rheini sydd ag awydd ag amser mentergarol ac sydd â swm cymharol fach o arian i fuddsoddi mewn busnes newydd.

“Mae awtomeiddio a symleiddio’r broses o gyrchu cynhyrchion yn arbed oriau i’n cwsmeriaid, o’i gymharu â chwilota siopau yn gorfforol neu ar-lein. Mewn gwirionedd, mae Cofid-19 wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y galw am y llwyfan digidol yn yr UD a'r DU wrth i'r feddalwedd hawdd ei defnyddio apelio at ddefnyddwyr yn enwedig ar yr adeg hon pan fo bobl yn chwilio am ffynonellau incwm newydd ar-lein.

“Mae cefnogaeth barhaus Banc Datblygu Cymru ochr yn ochr â’n buddsoddwyr angylion yn golygu bod gennym gyfuniad buddugol o gyfalaf gweithio ac arbenigedd i’n tywys gyda’n datblygiad strategol wrth i’r galw am SourceMogul barhau i gynyddu.”

Meddai'r buddsoddwr David James: “Mae gan X4 gynnyrch cyffrous iawn sy’n galluogi defnyddwyr i nodi tueddiadau, bylchau, amrywiadau mewn prisiau yn gyflym ac yn hawdd a bachu cyfleoedd a allai fel arall basio heibio.

“Mae'r potensial byd-eang yn enfawr ac mae gen i bob hyder bod profiad ac uchelgais cyfun y tîm yn golygu bod hwn yn gwmni sydd â dyfodol cyffrous iawn. Rwy'n ddiolchgar iawn i Angylion Buddsoddi Cymru am wneud y cyflwyniad gan fod hwn yn gyfle gwych i gymryd rhan a bod yn rhan o'r daith."

Gwnaeth Banc Datblygu Cymru fuddsoddiad cychwynnol o £100,000 yn 2017. Dywedodd Alexander Leigh o Fanc Datblygu Cymru: “Mae ein buddsoddiad hyd yma bellach yn dod i gyfanswm o £425,000. Mae hyn wedi helpu i ariannu datblygiad SourceMogul a lansio ymgyrchoedd marchnata byd-eang.

“Mae cefnogaeth y buddsoddwyr angylion yn dyst i botensial enfawr y dechnoleg hon a’u cred yng ngallu Ed i gynyddu graddfa’r llwyfan digidol arloesol hwn yn gyflym yn fyd-eang er gwaethaf yr ansicrwydd economaidd ar hyn o bryd. Mae'r buddsoddwyr yn uchel eu parch gydag arbenigedd technoleg. Maent yn cynnig cydweddiad perffaith â thîm SourceMogul a bydd profiad David o arwain ymadawiad mor llwyddiannus ar gyfer Hudman o fudd gwirioneddol.”

Wedi'i sefydlu yn 2017, Angylion Buddsoddi Cymru (ABC) yw rhwydwaith buddsoddi angylion blaenllaw Cymru ac maen nhw'n rhan annatod o Fanc Datblygu Cymru. Mae gan ABC dros 190 o Angylion Busnes cofrestredig mewn rhwydwaith eang sy'n ceisio darparu buddsoddiad preifat ar gyfer busnesau sy'n tyfu ac yn dechrau yng Nghymru