Busnes coffi, jin a chacennau yn ffynnu diolch i ap newydd

Richard-Jenkins
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Coffi Co

Mae dros 20 o swyddi newydd wedi’u creu yn ystod Covid-19 gan fod dros 30,000 o bobl wedi bod yn mwynhau eu coffi arferol diolch i ap newydd gan Coffi Co.

Gyda chymorth parhaus Banc Datblygiad Cymru, mae Coffi Co wedi bod yn masnachu o’i holl siopau yn ystod y cyfyngiadau symud trwy ei ap newydd a gwasanaeth danfon i’r cartref sydd ar gael o bedair siop. Mae dros 30,000 o bobl wedi cofrestru i ddefnyddio’r ap.

Mae Coffi Co hefyd wedi cymryd drosodd yr hen fwyty Carluccios yng Nghei’r Forforwyn i agor Gin & Bake. Ddydd Sadwrn, 4 Gorffennaf 2020 fe agorodd menter ddiweddaraf Justin Carty, yr entrepreneur lleol, ar gyfer bocsys te prynhawn a chacennau wedi’u pobi’n ffres i fynd, a jin ac alcohol i fynd o’r bar.  

Bydd yr ardal eistedd yn y becws byw ac yn yr ardd jin gudd yn agor cyn gynted ag y bydd cyfyngiadau Covid-19 yn caniatáu hynny.  Bydd yr holl fyrddau’n cael eu harchebu ar-lein ymlaen llaw a bydd cyfyngiad amser o ddwyawr ar gyfer pob bwrdd. 

Dywedodd Justin Carty: “Rwy’n credu mai’r hyn sy’n allweddol ar gyfer unrhyw fusnes yw derbyn “nawr” fel ei normal newydd. Fel perchennog busnes, mae’n rhaid i chi addasu i’r sefyllfa bresennol. Erbyn hyn, mae 30,000 o bobl yn defnyddio’r ap ac rydyn ni mewn sefyllfa gadarn fel busnes tecawê, eistedd i mewn, eistedd y tu allan a busnes danfon i’r cartref. 

“Mae’r holl siopau wedi agor eu gerddi a’u terasau erbyn hyn ac rydyn ni’n disgwyl cael mwy o gwsmeriaid nag erioed o’r blaen ym mis Gorffennaf gyda mwy o gynnydd i ddod yn y niferoedd. Os bydd y tywydd yn caniatáu, ein nod yw cael mis Awst llwyddiannus iawn hefyd gyda chymorth cynllun talebau y Llywodraeth, sef bwyta allan i helpu allan.

“Rydyn ni wir yn gobeithio y bydd Coffi Co yn dod allan o Covid-19 mewn sefyllfa gryfach na 2019 ac rydyn ni’n falch ein bod wedi creu 40 o swyddi newydd dros yr haf.”

Ychwanegodd Richard Jenkins, Gweithredwr Portffolio gyda Banc Datblygu Cymru: “Mae Coffi Co yn dod â rhywbeth newydd a gwahanol iawn i Gei’r Forforwyn gyda’u becws byw a’u gardd jin newydd. 

“Mae Justin wedi canolbwyntio ar adeiladu busnes sy’n cyfuno lleoliad gwych sy’n cael ei yrru gan y diwydiant hamdden, amgylchedd croesawgar a’r coffi gorau, cacennau wedi’u pobi’n ffres a jin wrth gwrs. Mae’n profi mai cadernid, ystwythder a bod yn benderfynol yw’r nodweddion llwyddiannus y tu ôl i unrhyw fodel busnes ac rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant iddo.”

Sefydlwyd Coffi Co yn 2014 ac mae ar agor 364 diwrnod y flwyddyn. Agorodd y siop gyntaf mewn dau gynhwysydd cludo ym Mhorth Teigr ym Mae Caerdydd. Erbyn hyn, mae chwe safle gan gynnwys y siop wreiddiol ym Mhorth Teigr, Cei’r Fôr-forwyn, Cathays, Marina Penarth a Phorthcawl.