Busnesau bach ar lwybr carlam gyda chyllid gan Fanc Datblygu Cymru

Nicola-Edwards
Rheolwr Cronfa
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Mae Tafarn o’r 18fed Ganrif, bar tapas Sbaeneg a siop fwyd Affricanaidd ymhlith y 73 o fusnesau Cymreig sydd wedi cyrchu dros £1.3 miliwn o fenthyciadau micro llwybr carlam gan Fanc Datblygu Cymru yn y flwyddyn ariannol hyd yma (mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021). 

Gall busnesau bach, masnachwyr unigol a mentrau cymdeithasol sydd wedi bod yn masnachu yng Nghymru ers dros ddwy flynedd wneud cais am fenthyciad micro llwybr carlam o hyd at £25,000 gan Fanc Datblygu Cymru. Gellir gwneud penderfyniadau ar fenthyciadau cwsmeriaid cymwys o fewn dau ddiwrnod gwaith. 

Mae’r ffigur o £1.32 miliwn yn cynrychioli cynnydd o fwy na 30% o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2020 pan roedd cyfanswm benthyciadau llwybr carlam yn £986,000, sy’n dangos awydd busnesau bach am gyfalaf twf i’w fuddsoddi wrth i’r economi adfer ar ôl pandemig Covid-19. 

Mae benthyciad trac cyflym o £25,000 wedi helpu Cutting Edge Mechanics sy’n seiliedig yng Nghaerfyrddin i fanteisio ar gyfleoedd gwerthu newydd drwy bryniant stoc a threlar. Fe’i sefydlwyd yn 2016 gan y perchennog Alun James, mae'r busnes yn stociwr ac yn atgyweirydd offer arbenigol ar gyfer tyfu coed a garddio.  

Meddai Alun: “Cododd y cyfle i gymryd delwriaeth newydd. Roedd yn symudiad gwych i ni ond roedd angen buddsoddi mewn stoc newydd a threlar er mwyn manteisio ar y cyfle. Mae £25,000 yn llawer o arian i ddod o hyd iddo fel busnes bach felly roedd cael penderfyniad cyflym ar fenthyciad gan Fanc Datblygu Cymru yr union beth oedd ei angen arnom. Roedd yn broses hawdd a syml a oedd yn golygu ein bod wedi gallu gosod yr archeb gyda'r delwyr a chytuno i brynu trelar newydd yn gyflym. Roedd y gwasanaeth rhagorol yn golygu y gallem baratoi ar gyfer y tymor newydd ac edrychwn ymlaen yn awr at dyfu’r busnes ymhellach.”  

Mae Ele's Little Kitchen yn gwmni arlwyo wedi'i leoli yng Ngorseinon sy'n darparu bwyd traddodiadol Sbaenaidd. Mae’n cael ei redeg gan Elena Pardo sy’n hanu’n wreiddiol o Murcia, cafodd y busnes ei sefydlu gyntaf adref er mwyn darparu ar gyfer partïon, digwyddiadau busnes a phriodasau. Mae benthyciad trac cyflym o £8,000 gan y Banc Datblygu wedi galluogi Elena i adleoli i dŷ bwyta newydd ar y Stryd Fawr, Gorseinon. Mae'r bar tapas poblogaidd bellach yn cynnig bwyd parod ar glud a gwasanaeth danfon. 

Meddai Elena: “Rwy’n teimlo’n angerddol ynghylch coginio ac yn caru bwyd Môr y Canoldir. Mae ein cyfrinach yn seiliedig ar flasau Sbaenaidd traddodiadol gyda thro modern ac mae mor braf nawr cael ein bar tapas bach ein hunain yma yng Ngorseinon. Mae’n wir gwireddu breuddwyd diolch i gefnogaeth y Banc Datblygu.” 

Mae siop fwyd Affricanaidd SunBim Foods wedi'i lleoli yng nghanol Casnewydd. Mae’r perchennog Sunday Omuju yn gwerthu amrywiaeth eang o gynhyrchion bwyd Affricanaidd, y mae rhai ohonynt bellach yn cael eu gwneud ar y safle ar ôl iddo sicrhau benthyciad trac cyflym o £12,000 gan y Banc Datblygu a ddefnyddiwyd i brynu popty diwydiannol fel y gall cwsmeriaid nawr fwynhau nwyddau wedi’u pobi’n ffres.  

Dywedodd Sunday: “Mae ein busnes teuluol yn mynd o nerth i nerth wrth i ni fuddsoddi yn ein cynnyrch a’r amrywiaeth o fwyd ffres y gallwn ei gynnig i’n cwsmeriaid. Mae mynediad at gyllid wedi bod yn bwysig iawn i ni gan na allem fuddsoddi yn y busnes heb gymorth y Banc Datblygu. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn eu bod wedi gwneud y broses ymgeisio mor hawdd a chyflym. Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr.”  

Mae Elaine Molloy a Peter Maull yn berchen ar Dafarn y Waen, sy’n dafarn o'r 18fed ganrif ger Llanelwy. Mae benthyciad trac cyflym o £20,000 gan y Banc Datblygu wedi cael ei ddefnyddio i helpu i arallgyfeirio incwm drwy drawsnewid y dafarn boblogaidd ond anghysbell yn llety gwesty bwtîc gyda thybiau poeth. Mae maes carafanau bychan hefyd wedi cael ei greu. 

Dywedodd Elaine: “Ni fyddem byth wedi goroesi’r 18 mis diwethaf heb sôn am fod yn meddwl am dwf a llwyddiant yn y dyfodol oni bai am y benthyciad gan y Banc Datblygu. Mae'r arian wedi ein galluogi i arallgyfeirio a diogelu'r busnes at y dyfodol gyda buddsoddiad yn ein llety. Rydym wedi creu cyrchfan ddeniadol a fydd yn sicrhau goroesiad hirdymor Tafarn y Waen fel sefydliad hanesyddol, gwledig.” 

Dywedodd Nicola Edwards o Fanc Datblygu Cymru: “Gan ddarparu cymorth cymunedol a chymdeithasol mawr ei angen, mae ein benthyciadau llwybr carlam yn sicr yn gwneud gwahaniaeth mawr i fusnesau bach a masnachwyr ar hyd a lled Cymru gyda llawer yn dweud wrthym eu bod yn gwerthfawrogi’r symlrwydd yn fawr ac effeithlonrwydd ein proses ymgeisio ynghyd â chyflymder derbyn yr arian.” 

“Nawr, yn fwy nag erioed, mae busnesau angen mynediad cyflym a hawdd at gyllid cynaliadwy a hyblyg i’w helpu i fuddsoddi yn y dyfodol. Mae'r rhai ym maes arlwyo a lletygarwch wedi cael amser arbennig o anodd dros y ddwy flynedd ddiwethaf tra bod llawer o bobl fasnach yn chwilio am gyllid i'w helpu i wella a thyfu. Mae’n destament i ymroddiad ac uchelgais perchnogion busnes ar draws pob sector yng Nghymru fod cymaint wedi dod ymlaen i gael y cyllid sydd ei angen arnynt i fuddsoddi yn eu busnesau, cynyddu a chyflymu twf.” 

Mae Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru gwerth £30 miliwn yn cael ei hariannu’n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru. Mae benthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 ar gael gyda thelerau ad-dalu yn amrywio rhwng blwyddyn a deng mlynedd.