Busnesau cymdeithasol yn ffynnu wrth i gronfa fenthyciadau gyrraedd yr uchelfannau

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
spit & sawdust

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Mae’r Gronfa Fenthyciadau i Ficrofusnesau Cymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi mentrau bach a chanolig wedi cofnodi’r nifer mwyaf o fuddsoddiadau ym mentrau cymdeithasol Cymru ers dechrau’r cynllun.

Rheolir y gronfa, gwerth £6 miliwn, gan Fanc Datblygu Cymru, ac mae elfen gymdeithasol, gwerth £1 miliwn, yn cael ei rheoli gan dîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru yn WCVA. 

Yn ystod y chwarter a ddaeth i ben fis Mehefin 2018, cofnododd WCVA y nifer mwyaf o fenthyciadau i fentrau cymdeithasol ers dechrau'r rhaglen, heb ôl-ddyledion neu ddyledion 'gwael' ac mae'r portffolio o'r rheini sydd wedi cael benthyciad yn fwy nag erioed. Mae hyn yn golygu mwy o arian yn cael ei ddefnyddio er daioni cymdeithasol ym myd busnes nag erioed o'r blaen. 

Spit & Sawdust 

Agorwyd parc sglefrio a chaffi a gofod celf cymunedol Spit & Sawdust yn nwyrain Caerdydd yn 2014. Nhw oedd yr ymgeisydd llwyddiannus cyntaf i'r Gronfa Fenthyciadau i Ficrofusnesau Cymru gan sicrhau £20,000 ar ffurf buddsoddiad dechrau busnes i'w helpu i roi'r fenter ar waith, sef y buddsoddiad mwyaf a oedd ar gael ar y pryd. Roedd y parc yn llwyddiant ysgubol yn ei flwyddyn gyntaf, gan ragori ar ei darged blynyddol i ddenu 13,000 o ymwelwyr y flwyddyn. 

Pedair blynedd o waith caled yn ddiweddarach, mae gan Spit & Sawdust nawr bedwar aelod o staff llawn amser, rhaglen dreigl o ddigwyddiadau, mae'n cynnig gwasanaethau megis y clwb haf Skate Rats i blant, ac yn cynnal noson i fenywod yn unig unwaith y mis. 

Cynigiodd un o'u prosiectau diweddar (a gynhaliwyd ar y cyd â Tros Gynnal Plant gyda chyllid gan Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm) wersi sglefrfyrddio am ddim i geiswyr lloches a ffoaduriaid o'r ardal leol, gan gynnwys pryd o fwyd wedyn. 

Mae'r caffi ei hun hefyd wedi cael llawer o sylw da, gan weini bwyd cartref sydd o darddiad moesegol a lleol a denu bwydgarwyr o bob rhan o Gaerdydd a'r tu hwnt. 

Fel rhan o'u rhaglen gelf maent yn cynnal sesiynau lluniadu'r byw rheolaidd, yn ogystal â rhaglen arddangosfeydd a digwyddiadau, gyda chyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru

'Fel mudiad dielw ein prif flaenoriaeth yw rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned. Rydym wrth ein boddau o weld pobl o bob oed yn darganfod sglefrio yma, yn gwneud ffrindiau ac yn bod yn rhan o rywbeth,' meddai'r Cyfarwyddwr Nia Metcalfe, 'heb WCVA a'r arian o'r Gronfa Fenthyciadau i Ficrofusnesau Cymru ni fyddai wedi bod yn bosib agor Spit & Sawdust, felly rydym yn ddiolchgar dros ben am eu cefnogaeth.' 

Glyn Wylfa 

Y prosiect diweddaraf i gael benthyciad yw Glyn Wylfa yn y Waun, Wrecsam, caffi a chanolfan i ymwelwyr nid nepell o draphont ddŵr syfrdanol y Waun. 

Daeth yr adeilad i feddiant y fenter gymdeithasol drwy drosglwyddiad ased cymunedol ac yna gwnaed gwaith ailwampio helaeth, gan ei droi'n ganolbwynt ac yn gaffi i'r gymuned, gan gynnwys yr orsaf heddlu leol gyda man cyfarfod i elusennau lleol a grwpiau buddiant, a man swyddfa preifat. 

Mae Glyn Wylfa bellach yn cyflogi 11 o bobl o'r ardal leol yn y caffi ac amcangyfrifir bod dros 35,000 o bobl wedi ymweld â'r lle y llynedd. 

Un o arfau mwyaf proffidiol y fenter yw rhentu'r gofod swyddfa sbâr i fentrau a mudiadau cymunedol lleol. Cafodd Glyn Wylfa £40,000 o'r Gronfa Fenthyciadau i Ficrofusnesau i adnewyddu rhan arall o'r adeilad fel y gallant addasu i dwf un o'r tenantiaid a helpu i gadw'r incwm rhent a'r 14 o bobl a gyflogir gan y tenant. Roedd hyn hefyd yn creu mwy o le i ragor o ddarpar denantiaid o'u rhestr aros hirfaith. 

Mae'r gwaith adeiladu bellach wedi'i orffen, a symudodd y tenantiaid i mewn ar 17 Awst. 'Mae hi wedi bod yn daith hir, ond rydym ar ben ein digon', meddai Brian Folley, Cyfarwyddwr Cyllid Glyn Wylfa, 'cyfrannodd y benthyciad o'r gronfa i ficrofusnesau gan WCVA tua 50% o gost adnewyddu'r adeilad swyddfa newydd. Rydym yn blês iawn gyda'r broses rwydd i ymgeisio am y benthyciad a'r cymorth a'r arweiniad a gawsom.' 

Ai chi fydd nesaf? 

'Mae'r ddau brosiect uchod yn enghreifftiau ardderchog o gryfder sector busnesau cymdeithasol Cymru,' meddai Alun Jones, Pennaeth Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru.

'Mae Spit & Sawdust yn amlwg wedi cael cryn effaith ar gymdeithas yr ardal, ac mae eu cynnydd yn dangos eu bod wedi sefydlu model busnes gwirioneddol gynaliadwy. Maent yn barod i arloesi ac addasu i ateb anghenion y gymuned a chydweithio â mudiadau eraill i wneud hynny.

'Mae Glyn Wylfa wedi troi adeilad segur yn ganolfan hanfodol i'r gymuned, yn atynfa i dwristiaid ac yn gartref i fudiadau a mentrau cymunedol eraill sydd am weithio yn yr ardal. Diolch i'w cais, achubwyd 14 o swyddi a chreu lle i fwy fyth yn eu swyddfeydd.

'Mae'r ddau yma ymhell o fod yr unig grwpiau sydd wedi elwa o fuddsoddiad yn y ffordd hon - mae gennym sawl menter gymdeithasol sy'n creu argraff yn eu meysydd amrywiol ledled Cymru, a dwi'n falch ein bod wedi helpu i wneud hynny'n bosib drwy'r Gronfa Fenthyciadau i Ficrofusnesau.'

Sut y gall y gronfa helpu'ch busnes chi 

Gall y gronfa gynnig benthyciadau hyblyg i fusnesau cymdeithasol ar gyfer y canlynol: 

  • Cyfarpar newydd a allai'ch gwneud yn fwy effeithlon neu gynhyrchiol
  • Llif arian
  • Prynu busnesau bychain
  • Prynu stoc
  • Eiddo newydd
  • Addasu'ch adeilad presennol

 

Rhagor o wybodaeth am y Gronfa Fenthyciadau i Ficrofusnesau Cymru.