Busnesau o bob maint yng Nghymru yn cael elwa ar £121m o arian ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
giles thorley and ken skates

Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, heddiw ei fod yn neilltuo £121 miliwn o arian ychwanegol fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu busnesau o bob maint i ddatblygu a buddsoddi yn y dyfodol er mwyn wynebu heriau Brexit.

Banc Datblygu Cymru fydd yn darparu'r arian sylweddol hwn a chaiff £16.2m ohono ei neilltuo fel microfenthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 o faint ar gyfer busnesau hen a newydd, £50m fel cronfa dwristiaeth i wella'n henw da fel cyrchfan o safon byd ar gyfer ymwelwyr a £55m ar gyfer eiddo masnachol i annog datblygwyr busnesau bach a chanolig i fuddsoddi yng Nghymru ac yn y farchnad fasnachol.  

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

Mae'r wythnosau a'r misoedd sy'n dilyn yn gwbl dyngedfennol i ddyfodol economi Cymru ac mae'n dda gen i ddweud ein bod, ar ôl llawer iawn o waith caled gan Lywodraeth Cymru, yn camu i'r dyfodol gyda'n marchnad lafur mewn cyflwr rhagorol.    "Mae lefelau cyflogaeth yng Nghymru'n uwch nag erioed, mae mwy o fusnesau nag erioed yn rhan o'n heconomi ac mae'n cyfraddau anweithgarwch economaidd am y tro cyntaf erioed yn is na chyfartaledd y DU. Ond rydyn ni'n deall hefyd na fydd hyn o reidrwydd yn ein harbed rhag yr ansicrwydd a'r heriau fydd yn ein hwynebu wrth adael yr UE. 

Oherwydd Brexit, pa beth bynnag ei ffurf, bydd yn rhaid i lawer gwmnïau newid eu ffordd o wneud busnes yn sylfaenol ac rydyn ni'n ystyried pob opsiwn posib ac yn mobileiddio pob adnodd i sicrhau bod busnesau o bob maint ac ym mhob rhan o'r wlad, yn cael manteisio ar y cyllid all fod ar gael iddyn nhw addasu a llwyddo. 

Mae'r 121m ychwanegol hwn yn rhan allweddol o hynny. Bydd yn hwb sylweddol i gronfeydd ariannu'r banc datblygu, sydd bellach wedi tyfu yn eu gwerth i hanner biliwn o bunnau ac sy'n boblogaidd ymhlith busnesau ac yn gweithio er lles ein heconomi. Bydd yn adeiladu ar waith da'r Banc Datblygu, Busnes Cymru a sefydliadau eraill i sicrhau bod gan fusnesau o Gymru a'r rheini sydd am fuddsoddi yma y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i lwyddo a sicrhau bod Cymru ar ôl Brexit yn dal i fod yn lle deniadol i fusnesau, gweithwyr ac ymwelwyr."

Meddai Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru:

"Mae cyllid hygyrch yn ffactor pwysig o ran sicrhau bod busnesau mewn sefyllfa gref i ddelio ag unrhyw ansicrwydd yn ystod Brexit, a dyna pam rydym yn falch ein bod wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau'r arian ychwanegol hwn.

Bydd yr arian newydd yn ategu'r pecynnau ariannu presennol sydd ar gael gan Banc Datblygu Cymru, gan ddod â chyfanswm ein cyfalaf sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru i fwy na £450m, gan wneud yn siŵr bod gan fusnesau Cymru'r hyn sydd eu hangen arnynt i lywio'r cyfnod hwn yn ddiogel. Er gwaetha’r ansicrwydd, rydym yn gwybod bod perchnogion busnesau yn wydn ac yn ystwyth a dyma neges glir iawn ein bod yma i’w chefnogi, a sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn lle deniadol a chystadleuol i fod yn entrepreneur."