Busnesau yn dechrau o’r newydd yng nghymru yn cofnodi lefelau buddsoddi record

Giles-Thorley
Prif Weithredwr
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cyllid
Twf
Dechrau busnes
Mentrau tech
Technoleg
Beauhurst and Banc logo
  • Nodwyd 1,215 o gwmnïau twf uchel yng Nghymru, gan godi £882m ers 2011
  • Blwyddyn record o ran buddsoddiadau yn 2020 gyda £129m wedi'i godi gan fusnesau Newydd a rhai sy’n cynyddu eu graddfa a bron i 20,000 o gwmnïau newydd wedi'u hymgorffori
  • Mae 69% o gwmnïau twf uchel Cymru bellach wedi'u lleoli y tu allan i Gaerdydd neu Abertawe

 

4 TACH, CAERDYDD: Mae busnesau sy’n dechrau o’r newydd a rhai twf uchel sy’n cynyddu eu graddfa yn denu’r lefelau uchaf erioed o fuddsoddiad yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd nodedig a ryddhawyd heddiw gan Beauhurst, y platfform ymchwil a noddir gan Fanc Datblygu Cymru, y pumed buddsoddwr mwyaf gweithgar yn y DU.

Mae'r buddsoddiad i fusnesau Cymru wedi bod yn cynyddu'n gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Sicrhaodd busnesau Cymru sy’n dechrau o’r newydd a rhai sy’n cynyddu eu graddfa £129m yn 2020, a oedd yn record i'r wlad. Y tu hwnt i gwmnïau twf uchel, ymgorfforwyd y nifer uchaf erioed o fusnesau yng Nghymru'r flwyddyn honno - 19,453.

Cryfhawyd cadernid busnesau Cymru yn ystod y pandemig gan Gynllun Benthyciadau Busnes COVID-19 Cymru, a welodd Banc Datblygu Cymru yn darparu £92m mewn benthyciadau ychwanegol i gwmnïau o Gymru.

Mae'r ymchwil yn awgrymu bod Cymru yn dod yn sbardun i genhedlaeth newydd o gwmnïau twf uchel. Er bod data'n awgrymu bod y DU yn profi dirywiad cyson mewn cyllid cam cynnar ar gyfer busnesau sy’n dechrau o’r newydd, roedd maint y fargen ar gyfartaledd i gwmnïau Cymru yn 2020 yn £939k. Ers 2011, mae traean (466) o fargeinion wedi'u sicrhau gan gwmnïau o Gymru sy'n codi buddsoddiad am y tro cyntaf.

Nododd yr astudiaeth gynhwysfawr o weithgaredd buddsoddi Cymru rhwng 2011 a 2020 1,215 o gwmnïau twf uchel yng Nghymru, sydd wedi codi £882m ar draws 1,201 o fargeinion dros y deng mlynedd diwethaf.

Technoleg yw'r sector amlycaf ar gyfer cwmnïau twf uchel yng Nghymru, sy'n cynrychioli 28 y cant. Mae'r wlad wedi dod i'r amlwg fel canolbwynt sylweddol ar gyfer cwmnïau meddalwedd-fel-gwasanaeth, gyda busnesau sy’n dechrau o’r newydd a rhai sy’n cynyddu eu graddfa yn codi £145m o gyllid ers 2011. Dilynir technoleg yn agos gan ddatblygu eiddo a thir a phroseswyr bwyd a diod fel y sectorau mwyaf poblogaidd yng Nghymru.

Mae tri o bob deg cwmni twf uchel yng Nghymru wedi'u lleoli yng Nghaerdydd (363). Y lleoliad mwyaf cyffredin nesaf yw Abertawe (106). Mae'r ddwy ddinas yn datblygu màs critigol o fentergarwyr a buddsoddwyr ac yn elwa ar ddeilliannau prifysgol llwyddiannus o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe. Fodd bynnag, mae 69 y cant o gwmnïau twf uchel Cymru wedi'u lleoli y tu allan i Gaerdydd neu Abertawe, sy'n awgrymu bod gweithgaredd mentergarol yn ymledu ledled y wlad.

Dangosodd yr ymchwil hefyd fod gan 19.2 y cant o gwmnïau twf uchel Cymru sylfaenwyr benywaidd, ac mae oedran cyfartalog mentergarwyr yng Nghymru rhwng 30 a 39.

Mae cyfanswm o 210 o gronfeydd wedi cymryd rhan mewn bargeinion yng Nghymru ers 2011, a'r llwyfannau cyllido torfol Seedrs a Crowdcube yw'r rhai mwyaf gweithgar.

Fodd bynnag, mae'r ymchwil yn dangos yr effaith y mae Banc Datblygu Cymru wedi'i chael ar ecosystem busnesau sy’n dechrau o’r newydd a’r rhai sy’n cynyddu eu graddfa yng Nghymru sy'n dod i'r amlwg. Banc Datblygu Cymru yw'r buddsoddwr mwyaf gweithgar yng Nghymru o gryn dipyn, ar ôl bod yn rhan o 391 bargen ers 2011.

Meddai Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru, “Llwyddodd mentergarwyr o Gymru i ddechrau, tyfu a chynyddu graddfa eu busnesau yn ystod y pandemig i greu blwyddyn record ar gyfer buddsoddiad yng Nghymru. Mae'r ymchwil hon yn dangos bod gan Gymru ecosystem o fusnesau yn dechrau o’r newydd a busnesau technoleg sy’n fywiog ac, yng Nghaerdydd, sy’n un o ddinasoedd technoleg mwyaf cyffrous y DU. Bellach mae màs critigol o fusnesau twf cyflym, cynnar gyda sylfaenwyr amrywiol y mae eu hymdrechion yn gwneud Cymru yn beiriant o ddifri ar gyfer y genhedlaeth nesaf o straeon llwyddiant busnesau yn dechrau o’r newydd yn y DU.”

“Mae Banc Datblygu Cymru fel arfer yn cyd-fuddsoddi gyda buddsoddwyr eraill ar bob bargen ecwiti felly rydym yn croesawu amrywiaeth gynyddol o fuddsoddwyr gweithredol yng Nghymru. Wrth i sector busnesau yn dechrau o’r newydd a thechnoleg Cymru ddatblygu aeddfedrwydd, ein gobaith yw bod y nifer iach o fargeinion yn cyfateb i gynnydd cyson yng ngwerth y fargen. Unwaith y bydd maint y fargen yn tyfu, yna bydd cwmnïau twf uchel Cymru yn gallu cyrraedd eu potensial llawn.”

Meddai Henry Whorwood, Pennaeth Ymchwil ac Ymgynghoriaeth yn Beauhurst, “Mae ecosystem fentergarol Cymru yn cystadlu ar lefel ‘uwch na’i phwysau’ mewn rhai metrigau. Mae lefelau cynyddol o fuddsoddiad ecwiti yn gatalydd pwysig ar gyfer twf ledled y wlad ac mae'r cyflenwad o fusnesau twf uchel, arloesol, uchelgeisiol a hanfodol fuddsoddadwy yn tyfu. Fodd bynnag, mae potensial heb ei gyffwrdd o hyd yng Nghymru: hoffwn weld lefelau uwch o weithgaredd yng Ngorllewin Cymru a Gogledd Cymru.”

Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru gan Lywodraeth Cymru i'w gwneud hi'n haws i fusnesau Cymru sicrhau buddsoddiad ecwiti i ddechrau cwmnïau newydd a’u tyfu. Fe'i sefydlwyd yn 2017 ac mae Banc Datblygu Cymru a Chyllid Cymru wedi buddsoddi £1bn yng Nghymru ac wedi creu mwy na 26,000 o swyddi.

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni