Bydd partneriaid newydd yn dod â “gwelediad ac arbenigedd gwerthfawr” i Dirnad Economi Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Dirnad Economi Cymru

Bydd dau gorff ymchwil mawr yn ymuno â phartneriaeth ymchwil a arweinir gan Fanc Datblygu i ddarparu mewnwelediadau newydd a safbwyntiau a gefnogir gan ddata ar amgylchedd busnes Cymru.

Mae Dirnad Economi Cymru wedi croesawu ychwanegiad Ysgol Busnes Bangor a’r Ganolfan Ymchwil Menter i’w partneriaeth unigryw.

O dan arweiniad Banc Datblygu Cymru, lansiwyd Dirnad Economi Cymru yn 2018 i gasglu a chynhyrchu dadansoddiad o economi Cymru.

Bydd yr aelodau newydd yn ymuno â phartneriaid presennol Banc Datblygu Cymru, Ysgol Busnes Caerdydd, a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i gynhyrchu adroddiadau a datblygu mewnwelediad pellach i’r materion amser real sy’n effeithio ar economi Cymru.

Mae gan Ysgol Busnes Bangor enw da yn rhyngwladol ym maes bancio a chyllid, ac mae'n cael ei chydnabod fel 'Canolfan Ragoriaeth' Sefydliad Bancwyr Siartredig. Ar hyn o bryd mae hefyd ar y safle uchaf o holl brifysgolion y DU am ymchwil ym maes Bancio.

Y Ganolfan Ymchwil Menter (CYM) yw prif ganolfan ragoriaeth y DU ar gyfer ymchwil i dwf, arloesedd a chynhyrchiant busnesau bach a chanolig (BBaCh), gyda ffocws penodol ar yrwyr twf, arloesedd a pherfformiad BBaChau. Mae ei hymchwil yn helpu i lunio'r polisïau a'r arferion sy'n galluogi BBaChau i ffynnu.

Mae’r CYM wedi bod yn darparu ymchwil annibynnol i lywio polisi ac arfer ar BBaChau ers 2013, gyda’i dîm arwain ac ymchwil craidd wedi’i leoli yn Ysgolion Busnes Prifysgolion Warwick ac Aston.

Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “Rydym yn falch iawn o groesawu Ysgol Busnes Bangor a’r Ganolfan Ymchwil Menter i’n partneriaeth unigryw, fel y gallwn barhau i adeiladu ar ein gwaith o ddarparu mewnwelediadau annibynnol, cryf a dibynadwy i fusnesau, ymchwilwyr a llunwyr polisi ar economi Cymru, ar adeg pan fo ein dealltwriaeth o newidiadau yn yr economi yn holl bwysig.

“Bydd pob un ohonynt yn dod â blynyddoedd o fewnwelediad ac arbenigedd gwerthfawr i'n hallbwn, gan ganiatáu i ni ehangu'r ystod o ddata a dadansoddiadau arbenigol a ddarparwn i bartïon â diddordeb ar economi Cymru, a sut y gellid ei wella.

Dywedodd yr Athro Stephen Roper, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Menter, “Mae tîm CYM yn edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaeth ymchwil Dirnad Economi Cymru. Rydym yn arbenigo mewn darparu gwybodaeth ymchwil gadarn o ansawdd uchel ar fentrau bach a chanolig.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd busnesau bach a chanolig yn holl bwysig ar gyfer adferiad economi Cymru ar ôl cynnwrf y pandemig a’r heriau ariannol diweddar. Gan gydweithio â phartneriaeth ymchwil Dirnad Economi Cymru, byddwn yn canolbwyntio ar ddarparu mewnwelediadau defnyddiol a fydd yn llywio polisïau’r dyfodol ac yn gwella’r amodau ar gyfer BBaChau yng Nghymru.”

Dywedodd yr Athro Bruce Vanstone, Pennaeth Ysgol Busnes Bangor: “Mae Ysgol Busnes Bangor yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Dirnad Economi Cymru ac edrychwn ymlaen at weithio gyda holl bartneriaid DEC i ddatblygu mewnwelediadau unigryw a gwerthfawr i economi Cymru.

“Mae ein hacademyddion wedi’u cyffroi gan y posibilrwydd o gymhwyso eu harbenigedd byd-enwog ymhellach yma yng Nghymru. Mae Ysgol Busnes Bangor yn cael ei chydnabod am ei rhagoriaeth ym maes ymchwil ac yn gyson ymhlith y 50 sefydliad gorau yn y byd am ymchwil bancio (Repec, 2022). Mae ein hacademyddion o safon fyd-eang yn gwneud gwaith ymchwil lefel uchel yn rheolaidd gyda sefydliadau allanol, megis Banc Canolog Ewrop, OECD, Banc y Byd, a Thrysorlys EM.”