Cadeirydd Banc Datblygu Cymru yn derbyn OBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin

Gareth-Bullock
Cadeirydd
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Mae Gareth Bullock wedi derbyn OBE am wasanaethau i economi ariannol Cymru yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin 2023 sy’n cydnabod cyflawniadau a gwasanaeth pobl ledled y DU, o bob cefndir. 

Mae gan Mr Bullock mwy na 45 mlynedd o brofiad yn y gwasanaethau ariannol, a ganddo nifer o swyddi bwrdd, gan gynnwys InformaPLC, Tesco PLC, Tesco Personal Financial Group Ltd, Spirax-Sarco Engineering PLC, Fleming Family & Partners Ltd, Cymdeithas Bancwyr Prydain a Global Market Group. Cyf (Tsieina). Roedd hefyd yn Ymddiriedolwr y Cyngor Prydeinig o 2012 i 2018. 

Wedi’i benodi i’w rôl fel Cadeirydd yn 2015, pan oedd y sefydliad yn gweithredu fel Cyllid Cymru, bu’n goruchwylio trosglwyddiad llwyddiannus i fod yn Fanc Datblygu Cymru yn 2017. Ers ei benodi, mae’r sefydliad wedi tyfu o gyfradd fuddsoddi flynyddol o £45 miliwn i’r swm uchaf erioed o £124 miliwn a gyhoeddwyd gan y Banc yn gynharach y mis hwn. Ar ddiwedd ei gynllun corfforaethol 5 mlynedd cyntaf, cafodd y sefydliad gyfanswm effaith economaidd o fwy na £1 biliwn. 

Ymddeolodd yn 2010 o Fwrdd Standard Chartered plc lle bu’n gyfrifol am Affrica, y Dwyrain Canol, Ewrop a’r Americas yn ogystal â chadeirio Rheoli Risg ac Asedau Arbennig. 

Dywedodd Mr Bullock: “Rwy’n falch o fod wedi derbyn Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i economi ariannol Cymru. 

“Er ei bod yn sicr yn anrhydedd bersonol wych, rwy’n cydnabod yn llwyr fod y wobr yn bennaf oherwydd llwyddiant y Banc Datblygu. Wrth gwrs, mae’r llwyddiant hwnnw wedi’i seilio’n llwyr ar waith caled, creadigrwydd ac ymroddiad ein tîm. 

“Mae’n braf cael fy nghydnabod am rôl rwy’n ei mwynhau cymaint. Mae bod wrth galon arloesi yn y ffordd yr ydym yn darparu cyllid sy’n gweithio i bobl, busnesau a chymunedau Cymru wedi bod yn fraint.” 

Dywedodd Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru, Giles Thorley: “Rydym i gyd wrth ein bodd bod Gareth wedi cael ei gydnabod am ei waith caled a’i ymroddiad. Mae ei arweinyddiaeth a’i angerdd dros weithio mewn partneriaeth â’n rhanddeiliaid, yn enwedig Llywodraeth Cymru, wedi bod yn hollbwysig wrth lunio’r sefydliad dros yr 8 mlynedd diwethaf. 

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch iddo am ei ymrwymiad i’n sefydliad a’i longyfarch ar ran tîm y Banc Datblygu.”