Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Caerdydd i fwynhau blas o Tanzania

Charlotte-Price
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Marchnata
Dechrau busnes
Onja

Mae Caerdydd ar fin cael profiad bwyta newydd gydag agoriad ONJA ar Barrack Lane. Mae micro fenthyciad o £25,000 gan Fanc Datblygu Cymru wedi ariannu’r costau cychwyn yn rhannol.

Mae Justina John, sy'n cyfaddef ei bo hi’n hoff iawn o fwyd, ac yn fam i ddau o fechgyn, wedi defnyddio'r benthyciad gan y Banc Datblygu i ariannu'r gwaith o ail ddodrefnu ei bwyty Affricanaidd newydd a siop tecawê a fydd yn cynnig blas o Tanzania. Disgwylir i ONJA agor ddydd Llun 16 Rhagfyr 2024.

Bydd ar agor ar gyfer cinio a phrydau yn gynnar gyda'r nos o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, ac fe fydd ONJA yn cynnig bwyd dilys ar gyfer bwyta i mewn, danfoniad a tecawê. Bydd gan y bwyty tua 40 o leoedd bwyta.

Magwyd y cyfarwyddwr Justina John yn Tanzania ond mae wedi byw yng Nghaerdydd ers 25 mlynedd. Meddai: “Mae bwyd yn iaith gyffredinol sy’n meithrin heddwch ac yn tanio hapusrwydd. Mae’n dod â phobl ynghyd, waeth beth fo’u statws neu gefndir, gan ein hatgoffa ein bod i gyd yn rhannu cwlwm cyffredin trwy lawenydd a geir wrth rannu pryd o fwyd.

“Fy angerdd yw bwyd. Dwi wastad wedi bod wrth fy modd yn coginio ac mae gen i atgofion melys o fy mhlentyndod, yn helpu fy Mam yn y gegin gartref. Fodd bynnag, ni fu’r amser erioed yn iawn rhywsut i adael swydd ddiogel. Mae’r benthyciad gan y Banc Datblygu wedi rhoi’r hyder i mi gymryd y naid ffydd a dilyn fy mreuddwydion. Rwy’n teimlo fy mod wedi cael fy ngeni i goginio, ac ni allaf aros i rannu blas Tanzania gyda Chaerdydd.”

Mae Charlotte Price yn Swyddog Buddsoddi gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “Mae cariad Justin at fwyd yn heintus. Mae’n wych ei gweld yn dod â phrofiad bwyta unigryw a dilys i Gaerdydd mewn lleoliad mor wych ac rydym yn falch bod ein cefnogaeth wedi ei galluogi i wneud i hyn ddigwydd.”

Daeth y benthyciad ar gyfer ONJA o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn. Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r Gronfa ar gyfer bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau Cymru sydd â thymhorau o hyd at 15 mlynedd.