Cronfa bensiwn yn buddsoddi £10 miliwn ym mherchnogion busnes Cymreig

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
succession fund

Mae Cronfa Bensiwn Clwyd wedi cadarnhau buddsoddiad ecwiti o £10 miliwn yng Nghronfa Olyniaeth Rheoli Cymru sy'n £25 miliwn. Dyma'r tro cyntaf i fuddsoddwr ecwiti sefydliadol gefnogi'r gronfa a reolir gan Fanc Datblygu Cymru neu ei ragflaenydd Cyllid Cymru. 

Lansiwyd Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru gyntaf yn 2016 gan Lywodraeth Cymru gyda buddsoddiad cychwynnol o £10 miliwn ochr yn ochr â £5 miliwn o arian etifeddiaeth. Mae'r gronfa'n darparu perchnogion a thimau rheoli uchelgeisiol yng Nghymru gyda'r arian sydd ei angen arnynt i brynu busnesau bach a chanolig eu maint (BBaCh) pan fydd eu perchnogion presennol yn ymddeol neu'n gwerthu. Mae buddsoddiadau ecwiti rhwng £500,000 a £3 miliwn ar gael.

Mae £4.275 miliwn wedi'i fuddsoddi hyd yn hyn, gyda Banc Datblygu Cymru yn cefnogi pryniannau rheoli llwyddiannus Glamorgan Telecom, First Choice Accident Repair Centre, ALS  Managed Service (Holdings)  Limited, Camtronics Vale and Minerva Laboratories (Coltrun Limited).

Bydd y gronfa £25 miliwn bellach yn cefnogi 20 o fusnesau, yn ysgogi ££15 miliwn o gyllid o'r sector breifat ac yn creu / diogelu 1000 o swyddi dros y pum mlynedd nesaf. 

Meddai'r Gweinidog dros yr Economi, Ken Skates: "Rwy'n falch iawn bod Cronfa Bensiwn Clwyd yn buddsoddi ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru yng Nghronfa Olyniaeth Rheoli Cymru. Mae denu buddsoddiad sefydliadol ar lefel cronfa yn gam sylweddol ymlaen yn esblygiad Banc Datblygu Cymru, gan brofi bod busnes Cymru a Chymreig yn gynnig deniadol i fuddsoddwyr." 

Meddai Colin Everett, Gweinyddwr Cronfa Bensiwn Clwyd: "Fel buddsoddwr blaengar a chyfrifol, rydym yn chwilio am gyfleoedd sy'n cyflawni ar berfformiad ac ar amcanion cynaliadwyedd, ill dau. Rydym wrth ein bodd yn gwneud y buddsoddiad hwn a fydd yn cefnogi twf economaidd a chyflogaeth mewn rhan o'r farchnad sy'n hanfodol i iechyd Economi Cymru. Mae'r buddsoddiad hefyd yn tanategu ymrwymiad awdurdodau lleol, fel ein prif gyflogwyr cronfa, i gefnogi twf economaidd yng Nghymru."

Cyflwynodd Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru, Giles Thorley a Chyfarwyddwr Buddsoddi'r Grŵp, Mike Owen, drosolwg o'r buddsoddiad £10m yng Nghronfa Olyniaeth Rheoli Cymru yng nghyfarfod blynyddol Cronfa Bensiynau Clwyd gyda chyflogwyr a chynrychiolwyr aelodau ym mis Tachwedd 2018.

Meddai Mike Owen: "Mae olyniaeth rheoli yn elfen hanfodol o economi fywiog a llwyddiannus. Heb fecanwaith i drosglwyddo cwmnïau i'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes, gall cwmnïau sefyll yn eu hunfan, crebachu, ail-leoli, neu hyd yn oed gau.

"Mae Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru yn anelu at gau'r bwlch hwn yn y farchnad Gymreig trwy ddarparu cyllid i fusnesau lle bydd caffaeliad yn helpu i ddiogelu swyddi o fewn y busnes yng Nghymru; swyddi a fyddai yn cael eu colli pe na ellid dod o hyd i unrhyw brynwr ar gyfer y busnes, neu mewn achosion lle byddai'r busnes fel arall yn cael ei adleoli.

"Dyma'r tro cyntaf yn ein hanes ein bod wedi sicrhau buddsoddiad ecwiti ar lefel cronfa, ac mae'n gam pwysig o ran arallgyfeirio ein ffynonellau ariannu fel model ar gyfer codi arian yn y dyfodol. Bydd y buddsoddiad hwn gan Gronfa Bensiwn Clwyd yn ein galluogi i gefnogi busnesau Cymru i drosglwyddo eu harweinyddiaeth, creu a diogelu swyddi a sicrhau hirhoedledd busnes er budd Cymru fwy ffyniannus."

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr