CRWST yn agor caffi newydd ar Draeth Poppit yn dilyn cefnogaeth gan y Banc Datblygu

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Osian Jones, Catrin Parry Jones, and Richard Easton standing by the Crwst cafe

Mae CRWST, busnes bwyd poblogaidd o Aberteifi, wedi agor ail gaffi ar Draeth Poppit , Sir Benfro ar ôl sicrhau buddsoddiad dilynol chwe ffigur gan y Banc Datblygu. Mae caffi Traeth Poppit, sydd wedi bod yn masnachu ar sail tecawê yn unig ers mis Ebrill, newydd agor bwyty dan do. 

Wedi’i redeg gan Osian Jones a Catrin Parry Jones, dechreuodd CRWST fel micro-becws nôl yn 2016. Enillodd Osian brofiad fel prif gogydd mewn gwesty moethus 5* yng Nghaerdydd cyn i’r pâr sy’n credu’n gryf mewn bwyd da, benderfynu mentro a dechrau eu busnes eu hunain yn ôl yng Ngorllewin Cymru. Mae CRWST wedi bod yn un o gwsmeriaid y Banc Datblygu ers dechrau 2018. Mae’r caffi newydd ar Draeth Poppit yn cynnig gwasanaethau tecawê ac mae lle i 26 o bobl i eistedd tu mewn erbyn hyn.

Dywedodd Catrin: “Mae hon wedi bod yn freuddwyd i ni erioed, ac allwn ni ddim credu ein bod ni nawr yn agor ein hail gaffi! Ni fyddai’n bosibl heb gefnogaeth y Banc Datblygu – maen nhw wedi ein cefnogi o’r dechrau i’r diwedd. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid i mewn i’r caffi ac i ddangos iddyn nhw beth sydd gennym i’w gynnig.”

Dywedodd Osian: “Rwyf wedi bod wrth fy modd â bwyd erioed ac roeddwn i eisiau creu rhywbeth arbennig yn fy nhref enedigol. Rwy’n teimlo’n ffodus iawn o allu cynnig hyn mewn ail leoliad, ac nid oes unman gwell na’r traeth arbennig hwn! “

Mae’r benthyciad gan y Banc Datblygu wedi helpu i ariannu’r gwaith o adnewyddu’r caffi newydd. 

Richard Easton a Rhian Jones, y swyddogion portffolio, oedd yn gyfrifol am ffurfio’r cytundeb ar ran y Banc Datblygu.  Dywedodd Richard: “Fe agorodd Catrin ac Osian eu caffi cyntaf yn Aberteifi ychydig dros dair blynedd yn ôl ac mae CRWST wedi datblygu enw da am eu bwyd a’u gwasanaeth o’r safon uchaf. Mae’r ffaith eu bod bellach yn agor eu hail gaffi CRWST, yn brawf o’u gwaith caled a’u llwyddiant.  Maent wedi dod o hyd i leoliad gwych ar Draeth Poppit , ac mae’r gwasanaeth tecawê eisoes wedi bod yn boblogaidd iawn gyda’r bobl leol a’r twristiaid. Mae hwn yn gyfle cyffrous iawn i Catrin ac Osian ddatblygu’r brand CRWST ymhellach, ac rwy’n siŵr y bydd y caffi a’r busnes tecawê newydd yn llwyddiannus.” 

Ychwanegodd Rhian: “Yn y Banc Datblygu, rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n cwsmeriaid i ganfod a chefnogi cyfleoedd i dyfu. Roedd gan Catrin ac Osian syniad gwych i ehangu CRWST ac roedden ni’n hapus i helpu. Rydyn ni’n credu mewn creu partneriaethau hirdymor gyda’n cwsmeriaid i’w cefnogi gyda’u dyheadau o ran twf.”

Daeth y cyllid ar gyfer y cytundeb o Gronfa Fusnes Cymru, sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.