Cwmni CX Cymreig yn mynd yn fyd-eang gydag arian cyllido gan Fanc Datblygu Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Bydd Vizolution, sydd â'i bencadlys ym Mhort Talbot yn ehangu yng Ngogledd America a De America yn dilyn rownd ddiweddar o arian cyllido.

Mae'r cwmni technoleg sy'n arwain y farchnad wedi sicrhau cyfanswm o £10 miliwn gan fuddsoddwyr newydd, sef Santander Consumer Finance a’r Royal Bank of Scotland. Mae Banc Datblygu Cymru hefyd wedi ail-fuddsoddi £2m, ochr yn ochr â chyllid pellach gan fuddsoddwyr presennol ac unigolion preifat. Bydd y rownd ddiweddaraf hon o gyllid yn cael ei defnyddio i ddatblygu cynhyrchion newydd i wella swit o ddatrysiadau profiad cwsmer Vizolution ac ymestyn ei ôl troed byd-eang.

Ac yntau wedi cael ei sefydlu yn 2013, mae swît ddigidol pob-sianel Vizolution yn caniatáu i gwsmeriaid ac asiantau ryngweithio dros y ffôn neu ar-lein i rannu, arddangos, cyfnewid, cwblhau, gwirio a llofnodi dogfennau fel pe baent wyneb yn wyneb, ac mae'n gweithio heb orfodi cwsmeriaid i lawr lwytho unrhyw feddalwedd neu apps. Gyda swyddfeydd yn Toronto, Bryste a Llundain, mae'r cwmni bellach yn cyflogi bron i 140 o bobl.

Fe'i defnyddir gan 30 o fentrau byd-eang o'r diwydiannau gwasanaethau ariannol, telathrebu a chyfleustodau, gan gynnwys HSBC, Santander, RBS ac O2 (Telefonica), fel arfer mae ei datrysiadau patent Meddalwedd fel Gwasanaeth yn cyflawni dros 40% o gynnydd mewn trawsnewidiadau gwerthu, gostyngiad o 50% mewn amseroedd trafodion, lefelau uchel o foddhad cwsmeriaid (> 80% NPS), gwell cydymffurfiad a chostau is.

Dywedodd Scanes Bentley, Cadeirydd Vizolution: "Rydym wrth ein bodd bod Banc Datblygu Cymru yn parhau i fod yn gefnogwyr i Vizolution ac yn parhau i gredu yn yr hyn a wnawn. Mae eu buddsoddiad, cymorth a'u harweiniad dros y blynyddoedd wedi golygu llawer ac wedi bod yn rhan fawr o'n llwyddiant. Edrychwn ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd llwyddiannus o weithio gyda'n gilydd."

Dywedodd Dr Philip Barnes, Swyddog Buddsoddi Mentrau Technoleg, Banc Datblygu Cymru: "Rydym bob amser yn chwilio am gwmnïau sydd â'r potensial i gefnogi nid yn unig twf Cymru, ond hefyd yn cael effaith ar y llwyfan byd-eang. Rydym wedi bod yn fuddsoddwyr yn Vizolution ers iddo gael ei lansio ac rydym wedi parhau i gefnogi twf y cwmni i gyd-fuddsoddi ochr yn ochr â'r buddsoddwyr presennol a'r rhai diweddaraf yn ystod pob cam. Mae ein hail-fuddsoddiad, ochr yn ochr â Santander Consumer Finance, RBS a HSBC yn dyst i'n crediniaeth ni yn ansawdd eu cynnyrch, y brand, ac, yn bwysicaf oll, eu tîm nhw."