Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Cwmni glanhau sy’n seiliedig yng Ngwynedd i ehangu gyda chefnogaeth y Banc Datblygu

Mal-Green
Cynorthwyydd Portffolio (Micro Fenthyciadau)
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Marchnata
Mynydd Cleaning and Maintenance

Mae cwmni glanhau masnachol o Borthmadog gyda chwsmeriaid ar draws gogledd Cymru yn symud i gam nesaf ei gynlluniau twf, diolch i gefnogaeth Banc Datblygu Cymru.

Derbyniodd Mynydd Cleaning and Maintenance fenthyciad o £50,000 gan Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, ar ôl ennill tendrau i gynnal gwasanaethau glanhau ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri a Chanolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai.

Sefydlodd y ffrindiau Jessica Hull a Charlotte Jones y busnes yn gynnar yn 2020, ar ôl i gyfres o swyddi glanhau llwyddiannus olygu eu bod yn gallu cyflogi cwsmeriaid masnachol gyda’u menter eu hunain. Mae'r busnes bellach yn cyflogi 25 o bobl, gyda hanner ohonynt yn llawn amser.

Mae’r busnes yn gwsmer hir-amser i’r Banc Datblygu, ar ôl derbyn micro-fenthyciadau yn 2021 a 2022, a’r ail o’r rhain oedd benthyciad o £30,000 i’w helpu i gymryd awenau gwasanaeth sychlanhau, gan ganiatáu iddynt dorri costau wrth lanhau wrth olchi dillad fel rhan o'u contractau gyda chwsmeriaid.

Ar ôl gweld twf cyflym yn y pum mlynedd diwethaf a darparu gwasanaethau glanhau ar gyfer sefydliadau a busnesau gan gynnwys Cyngor Gwynedd, Read Construction ac Adra – cymdeithas dai fwyaf gogledd Cymru – penderfynwyd bidio am dendrau am waith ym Mharc Cenedlaethol Eryri, a daethant at y Banc Datblygu i holi am fenthyciad i'w helpu i ehangu eu gweithrediadau a rheoli llif arian yn unol â'r cais llwyddiannus.

Dywedodd Charlotte Jones, cyd-berchennog y busnes: “Dechreuodd Jess a minnau’r busnes hefo dim ond un Henry Hoover, dyna’r oll, felly rydym yn falch ein bod wedi cyrraedd y cam lle rydym wedi gallu cymryd gwaith gyda chwmniau fel Parc Cenedlaethol Eryri ac Adra. Mae wedi cymryd ychydig o neidiau mawr i ni gyrraedd lle rydyn ni nawr, ond fe ddechreuodd gyda ni yn sylweddoli y gallem droi glanhau yn fusnes llawn amser.

“Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan Fanc Datblygu Cymru yn ystod oes ein busnes wastad wedi bod yn gryf – maen nhw wedi ein helpu ni o’n dyddiau cynnar i’r pwynt lle rydyn ni nawr. Pryd bynnag rydym wedi bod angen cymorth neu eisiau trafod cyllid newydd, maen nhw bob amser wedi bod ar gael ar ben y ffôn ac yn barod i drafod yr hyn y gallai fod ei angen arnom.”

Dywedodd Malcolm Green, swyddog portffolio yn y Banc Datblygu: “Mae’n bleser gweithio gyda pherchnogion busnes fel Charlotte a Jessica sy’n gwireddu eu huchelgais i redeg busnes llwyddiannus yng ngogledd-orllewin Cymru, gan ddarparu cyflogaeth yn y gymuned leol a gweithio gyda prif gontractwyr a chyflenwyr. Maent wedi dangos agwedd benderfynol gwirioneddol a pharodrwydd i fentro, wrth gydbwyso hynny ag ymrwymiad i'w cwsmeriaid a sicrhau bod eu busnes yn parhau i fod yn un hyfyw.”

Mae Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru ar gyfer bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau Cymru sydd â thymhorau o hyd at 15 mlynedd.