Cwmni gofal croen pwrpasol Mam yn ehangu gyda chymorth benthyciad o £45,000 gan Fanc Datblygu Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
bathing beauty

Pan ddatblygodd mab George Jones ecsema difrifol yn blentyn, ni lwyddodd i ddod o hyd i unrhyw gynhyrchion nad oedd yn gwaethygu ei gyflwr felly aeth ati i greu ei chynhyrchion ei hun trwy lansio Bathing Beauty ar fwrdd ei chegin yn 2010.

Nawr, diolch i fenthyciad o £45,000 gan Fanc Datblygu Cymru, mae'r cwmni gofal croen moesegol yn ehangu i ateb y galw cynyddol am ei gynhyrchion.

Bydd yr arian yn caniatáu i George symud i fwy o le yn y canolbwynt cynhyrchu y mae'n ei rentu yng Ngogledd Cymru a buddsoddi mewn peiriannau i wneud y broses yn fwy effeithlon i'w cynhyrchu.

Mae George yn osteopath cymwys gydag 20 mlynedd o brofiad clinigol a dealltwriaeth ddofn o anatomeg a ffisioleg y corff dynol. Sefydlodd ei hystod gofal croen i gyflenwi cynnyrch i olchi a lleithio croen llidiog, sensitif ei mab.

Mae'r busnes yn cael ei redeg o The Source, tri adeilad amaethyddol wedi'u trosi rhwng Dinbych a Rhuthun. Mae'n arbenigo mewn cynhyrchu deunyddiau ymolchi a gofal corff fforddiadwy, effeithiol. Does dim olew cnau, palmwydd na phersawr yn y cynnyrch, maen nhw wedi'u cofrestru naill ai â'r Gymdeithas Fegan neu'r Gymdeithas Lysieuwyr ac fe'u cynhyrchir heb greulondeb. Mae'r deunydd pacio niwtral o ran rhywedd naill ai'n gompostiadwy neu'n ailgylchadwy.

Dechreuodd George gydag un uned yn 2013 yna symudodd i ddwy wrth i'r galw am y cynhyrchion dyfu. Mae hi bellach yn meddiannu tair uned a bydd yn defnyddio'r lle ychwanegol fel rhan o ehangiad y cwmni.

Dywedodd y fam i dri o blant: “Yn gyntaf, fe wnes i greu dau gynnyrch i helpu gyda chroen echrydus o sensitif fy mab. Fe wnes i greu sebon wedi'i brosesu'n oer, ac olew o'r enw Soothe. Mae'r rhain wedi ennill tair gwobr genedlaethol rhyngddynt. Ers hynny, rydw i wedi mynd ymlaen i greu dros 30 o gynhyrchion, pob un wedi'i gynllunio i ateb pwrpas. Rydym wedi tyfu o fwrdd fy nghegin, gan werthu'n uniongyrchol i'r cyhoedd mewn marchnadoedd ffermwyr i sefydliadau cyflenwi fel CADW a'r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol. Mae gennym oddeutu 150 o stocwyr annibynnol.

“Mae pob cynnyrch yn cael ei lunio’n feddylgar i ddatrys problem. Mae pob cam, o greu'r fformwlâu, pecynnu, dylunio, cynhyrchu, lapio ac anfon yn cael ei wneud yn fewnol yn The Source. Rydym mewn adeilad rhestredig gradd-II hardd yn Llangynhafal, sy'n eiddo i gyngor Sir Ddinbych, ac mae'r benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru wedi caniatáu i ni brynu rhai peiriannau newydd. Mae gennym hefyd gaffi ar y safle, eco-siop ac rydym yn cynnal dosbarthiadau fel y gall fod yn fwy o brofiad i'r ymwelydd.”

Dywedodd Gaynor Morris, Swyddog Buddsoddi: “Mae George wedi buddsoddi’n helaeth yn y busnes ers ei sefydlu ac mae ganddi gynllun clir ar gyfer y dyfodol, gan adeiladu ar y cynnydd mae hi wedi’i wneud hyd yma. Bydd y benthyciad yn caniatáu iddi ehangu'r busnes ymhellach i gynhyrchu hyd yn oed mwy o gynhyrchion yn sgil y galw cynyddol. Mae ganddi gynlluniau hefyd i ddefnyddio'r adeilad ar gyfer digwyddiadau a gweithdai."

Dywedodd George fod y benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru wedi bod yn hanfodol wrth ganiatáu iddi ehangu ei busnes.

Meddai: “Rydw i mor ddiolchgar i Gaynor. Mae hi wedi bod mor gefnogol a chymwynasgar ers y dechrau. Edrychaf ymlaen at gael perthynas barhaus â hi oherwydd mae hi wedi bod yn allweddol i'n hehangiad. Mae hi wedi treulio llawer o amser gyda ni ac yn deall yn iawn beth yw pwrpas y busnes."