Cwmni meddalwedd yn sicrhau cyllid o £1.1M

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
open genius

Mae cwmni arloesol OpenGenius o Gymru wedi sicrhau cyllid ariannu o £1.1m.

Gyda chefnogaeth pecyn buddsoddiad ecwiti o £500,000 gan Fanc Datblygu Cymru a £600,000 pellach gan fuddsoddwyr preifat, mae OpenGenius yn edrych ar ehangu yn fyd-eang ac arnofio'r cwmni ar y farchnad stoc.

Mae OpenGenius, sy'n seiliedig yng Nghaerdydd, yn datblygu meddalwedd uwch-dechnoleg ar gyfer arloeswyr a thimau creadigol, ac maen nhw wedi mwynhau cynnydd mewn momentwm dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae'r app rheoli tasg, DropTask, wedi denu sylfaen cwsmeriaid ar hyd a lled y byd, gyda thimau ac unigolion ym Mhrifysgol Harvard, Nike, Ralph Lauren, Coca-Cola a McDonald's, ymhlith eraill, i gyd yn ymuno â'i restr o gleientiaid. Er bod iMindMap yn offeryn Mapio Meddwl i gyd-mewn-un ac yn offeryn meddwl gweledol - defnyddir y feddalwedd ar gyfer syniadau creadigol gan nifer fawr o ddiwydiannau amrywiol; yn amrywio o addysg i gyllid.

Yn 2017, OpenGenius oedd y cwmni cyntaf i gael ei ddewis ar gyfer y rhaglen hyfforddi a rhwydweithio 'cyflymu' rhyngwladol (ELITE) yn y Gyfnewidfa Stoc yn Llundain. Mae'n gynllun sydd wedi eu helpu i ddatblygu eu model busnes graddadwy yn ogystal â meithrin partneriaethau strategol newydd, cynyddu gwerthiant a chodi ymwybyddiaeth o'u brand a'u cynnyrch arloesol.

Mae'r ap DropTask yn dod â strwythur a thryloywder i waith bob dydd trwy ganiatáu i ddefnyddwyr neilltuo tasgau, arddangos cynnydd, a chynyddu cynhyrchedd trwy well cydweithio. Mae iMindMap yn defnyddio technegau dadansoddi ymenyddol a rhyngwyneb defnyddio.

Dywedodd y perchennog a'r sylfaenydd Chris Griffiths: "Mae OpenGenius yn gyffrous ei fod ennill y buddsoddiad hwn, bydd yn chwarae rhan fawr yn natblygiad y cwmni dros y flwyddyn nesaf wrth i ni barhau i ehangu ein sylfaen cwsmeriaid rhyngwladol."

Mae dull gweithredu arloesol y cwmni yn ymestyn y tu hwnt i'w gynhyrchion. Mae eu pencadlys yn y Tec Marina, sy'n weithle creadigol ym Mhenarth. Adeiladwyd yr uned ('cyfatebiad Cymru i Ddyffryn Silicon') yn benodol ar gyfer OpenGenius i feithrin awyrgylch o feddwl agored ac entrepreneuriaeth.

"Rydym yn falch o gael ein lleoli yng Nghymru, ac rydym yn credu'n gryf y gall DropTask helpu pobl i wella eu cynhyrchedd ar hyd a lled y byd. Gyda'r buddsoddiad hwn, gallwn gyflymu datblygiad DropTask, a bod yn fwy ymosodol yn y ffordd yr ydym yn marchnata. Ein bwriad yw arnofio'r cwmni yn y dyfodol agos, ac mae'r buddsoddiad hwn yn ein symud un cam yn nes."

Dywedodd Alexander Leigh, Swyddog Buddsoddiadau Mentrau Technoleg gyda Banc Datblygu Cymru a arweiniodd y trafodiad: "Bydd y buddsoddiad hwn o £1.1 miliwn yn darparu cyfalaf y mae OpenGenius ei angen i fireinio'i lwyfan Meddalwedd Fel Gwasanaeth (MFG) arloesol ymhellach a chyflymu ei gynlluniau ehangu byd-eang.

"Fel buddsoddwr arweiniol, mae'r banc datblygu yn cydnabod pwysigrwydd cyd-fuddsoddiad gan fuddsoddwyr preifat soffistigedig sy'n dod â phrofiad sector sylweddol i'r cwmni.

Mae Chris Griffiths yn fentergarwr Cymreig sy'n cael ei barchu, ac mae o wedi creu sefydliad trawiadol gyda thîm rheoli profiadol sydd bellach â'r gallu i gynyddu ei faint a chreu swyddi o safon uchel yn ei bencadlys yn Tec Marina."

Mae'r buddsoddiad ecwiti diweddaraf hwn gan y banc datblygu yn dilyn nifer o fargeinion menter diweddar sy'n canolbwyntio ar y sector meddalwedd sy'n ehangu yn gyflym yng Nghymru. Mae OpenGenius yn ymuno â chyfres o gwmnïau meddalwedd gyda'r gorau yng Nghymru o fewn portffolio buddsoddi Menter Tech y Banc Datblygu.

Ariannwyd y buddsoddiad hwn gan Gronfa Busnes Cymru a ariennir yn rhannol gan gronfa ERDF, trwy gyfrwng Llywodraeth Cymru. Fe'i crëwyd yn benodol i gefnogi busnesau gyda llai na 250 o weithwyr yng Nghymru a'r rhai sy'n barod i symud yma.