Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Cwpl yn dod â chanolfan tanc arnofio therapiwtig newydd i Benarth diolch i gefnogaeth y Banc Datblygu

Donna-Strohmeyer
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Marchnata
Dechrau busnes
Rest Space Float Rooms

Mae cwpl yn paratoi i “arnofio” eu busnes nesaf, gan gynnig triniaethau therapiwtig newydd ym Mhenarth, gyda chefnogaeth micro-fenthyciad o £50,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Ryan Chamberlain a Charlotte Gonthier wedi agor eu busnes newydd, Rest Space Float Rooms, ar Cornerswell Road.

Maent yn bwriadu cynnig amgylchedd diogel a meithringar i gwsmeriaid lle gallant ymlacio trwy therapi arnofio, gan ddefnyddio tanciau wedi'u llenwi â dŵr halen Epsom ac wedi'u hinswleiddio rhag golau a sain. Mae'r tanciau'n caniatáu i ddefnyddwyr ymlacio a phrofi ymlacio dwfn a lleddfu straen. Bydd eu gwefan yn caniatáu i gwsmeriaid archebu sesiynau, gan ddangos argaeledd yn fyw ar gyfer pob tanc ac yn ogystal â hynny bydd cwsmeriaid yn gallu archebu sesiynau cerdded i mewn pan fyddant ar gael. Bydd Rest Space Float Rooms hefyd yn cynnal gweithdai addysgol ar iechyd meddwl ac ymwybyddiaeth ofalgar a lolfa ymlacio.

Roedd yr arlwy therapiwtig a ddarparwyd gan y busnes yn arbennig o bwysig i'r cwpl.

Dywedodd Ryan: “Mae therapi arnofio yn dod yn fwyfwy poblogaidd gyda phobl sydd angen seibiant byr, sy'n edrych am y cyfle i drin eu hunain - yn ogystal â'r rhai sy'n chwilio am ryddhad o boen cronig neu bryder.

“Rydym wedi gweld y manteision y gall hyn eu cael fel math o therapi, felly roeddem am ei wneud mor hygyrch â phosibl a dod â’r pris i lawr i unrhyw un sydd am roi cynnig arni. Mae gennym hefyd gynlluniau tymor hwy i weithio gydag elusennau iechyd meddwl a’r GIG i ddarparu cymorth i’r rhai sydd ei angen.

“Roedd y cyfle i sefydlu’r busnes newydd hwn ym Mhenarth yn wych, ac rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu manteisio’n gyflym ar ein gofod newydd a rhywfaint o’r momentwm rydym wedi’i adeiladu gyda’n busnes presennol diolch i’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan Fanc Datblygu Cymru.”

Dywedodd Donna Strohmeyer, Swyddog Buddsoddi gyda’r Banc Datblygu: “Rydym mor falch ein bod wedi gallu cefnogi Ryan a Charlotte i gymryd y cyfle newydd hwn. Mae galw cynyddol am therapi arnofio a thriniaethau tebyg, ac maent wedi gallu gweld bwlch yn y farchnad yn lleol, tra hefyd yn ysgogi'r llwyddiant y maent wedi'i adeiladu gyda busnes presennol i sefydlu eu menter newydd.

“Mae ein micro-fenthyciadau yn bodoli’n union er mwyn cefnogi perchnogion busnesau bach fel Ryan a Charlotte wrth iddynt geisio cymryd cyfleoedd, arallgyfeirio a llogi mwy o staff, ac rydym yn falch ein bod wedi gallu eu helpu.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr amrywiaeth o fuddsoddiadau a ddarperir gan y Banc Datblygu, ewch i bancdatblygu.cymru.