Cyd-fuddsoddiad syndicet yn cefnogi Dog Furiendly, platfform teithio newydd i berchnogion cŵn

Carol-Hall
Rheolwr Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
dog furiendly

Mae Dog Furiendly, platfform teithio i berchnogion cŵn, wedi llwyddo i gael cefnogaeth syndicet profiadol o angylion buddsoddi yn Ne Cymru ac Angylion Buddsoddi Cymru yn dilyn digwyddiad tebyg i Dragons Den ar gyfer cyllid busnes ecwiti.

Mae Dog Furiendly yn blatfform teithio rhad ac am ddim , sy'n rhestru tafarndai, caffis, bwytai, siopau, llety, atyniadau a digwyddiadau sy'n gyfeillgar i gŵn. Gall perchnogion cŵn gofrestru a chreu eu proffil eu hunain, gadael adolygiadau a chymryd rhan yn nheithiau cerdded cŵn a digwyddiadau rheolaidd y gymuned.

Syniad Adele Pember o Flaenau Gwent yw Dog Furiendly. Roedd Adele yn un o 15 o entrepreneuriaid uchelgeisiol a gyflwynodd eu busnesau i banel o bum buddsoddwr angel yn y digwyddiad PitchIt Cymoedd. Ar y panel roedd Andrew Diplock, un o brif fuddsoddwr Angylion Buddsoddi Cymru.  Ar ôl cael cyllid cyfatebol o Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru, bydd yn arwain syndicet o gyd-fuddsoddwyr sy'n gweithio gydag Adele i ddatblygu Dog Furiendly i fod yn wasanaeth TripAdvisor yn y byd cŵn.

Dywedodd Adele Pember: “Ein nod yw grymuso ac ysbrydoli perchnogion cŵn i gynllunio'r trip perffaith iddyn nhw a'u ci yn hyderus. Yn debyg iawn i TripAdvisor, mae Dog Furiendly yn caniatáu i berchnogion cŵn greu rhestr o'u hoff leoedd ac ysgrifennu adolygiadau. Rydym am newid y ffordd y mae perchnogion cŵn yn ymchwilio i'w hanturiaethau ac yn eu cynllunio drwy gyfuno chwilio a'r elfen gymdeithasol.

“Rydym wedi bod yn llawn cyffro ers llwyddiant y gystadleuaeth PitchIt Cymoedd. Bydd y buddsoddiad yn ein helpu i gyflymu ac ehangu datblygiad y busnes ond nid arian yw popeth i ni. Y gwir werth yw arweiniad strategol ein buddsoddwyr a'r gefnogaeth y maen nhw nawr yn ei rhoi i ni wrth i ni ganolbwyntio ar gyrraedd y brig yn y farchnad fyd-eang ar gyfer teithio ac antur.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Lee Waters, sy'n gyfrifol am Dasglu'r Cymoedd: “Gwelais Adele yn gwneud ei chyflwyniad a gallwn weld pam y penderfynodd y buddsoddwr gefnogi'r busnes, gan ei fod yn dangos yn berffaith pam y cefnogodd Tasglu’r Cymoedd y fenter Pitch It. Rydym yn awyddus i roi  cymorth ymarferol i bobl er mwyn sefydlu busnesau arloesol, ac i herio'r canfyddiadau am economi'r cymoedd.

“Mae'r ffaith bod buddsoddwyr profiadol fel Andrew yn cydnabod y gronfa dalent yn yr ardal yn tynnu sylw at y cyfoeth o botensial sydd yno. Bydd ei gyngor a’i arweiniad yn helpu Dog Furiendly i lwyddo.”

Dywedodd y prif fuddsoddwr, Andrew Diplock: “Fel prif fuddsoddwr gydag Angylion Buddsoddi Cymru, roeddwn i wir yn gwerthfawrogi sut y rhoddodd y gystadleuaeth Pitch it Cymoedd gyfle mor anhygoel i fusnesau newydd yn y Cymoedd fel Dog Furiendly. Fel rhywun sy'n gwirioni ar gŵn, cefais fy argyhoeddi'n llwyr gan fodel busnes Dog Furiendly ac mae fy ngreddf wedi bod yn gywir o ran y ffordd y mae Adele a'r tîm wedi dangos brwdfrydedd, egni ac wedi ymateb yn hyblyg iawn yn ystod y pandemig Covid-19.

“Yn hytrach na dod i stop yn ystod y cyfyngiadau symud, mae Adele wedi gweithio’n ddiflino i gryfhau’r brand yn y gymuned perchnogion cŵn gan gynnwys sioe gŵn rithwir a gyrhaeddodd 1.3 miliwn o bobl, gan ddenu dros 3000 o gystadleuwyr a chodi £6,500 ar gyfer 22 o elusennau. Mae hynny'n dyst i'w gallu i addasu'r busnes i ddatblygu ffrydiau refeniw newydd a all barhau i gynyddu y tu hwnt i'r pandemig. Mae hi hefyd wedi defnyddio'r amser i helpu'r diwydiant lletygarwch a hamdden ac mae'n cefnogi eu hymdrechion i annog perchnogion cŵn i ymweld â lleoedd sy'n gyfeillgar i gŵn yn ddiogel yn unol â chanllawiau'r Llywodraeth. Mae'n fusnes gwych gyda gwir botensial ac rwy'n mwynhau'n fawr bod yn rhan ohono.”

Carol Hall yw Rheolwr Rhanbarthol Angylion Buddsoddi Cymru. Ychwanegodd: “Rydym yn gweithio'n galed iawn i ehangu'r gymuned angylion yng Nghymru felly mae'n wych gweld sut mae Dog Furiendly eisoes yn elwa o sgiliau a phrofiad ein syndicet o gyd-fuddsoddwyr. Maen nhw'n gweithio'n galed i ddatblygu brand byd-eang gan ddenu mwy o ymwelwyr i'r cymoedd yn sgil hynny drwy weithio mewn partneriaeth â'r sector twristiaeth a lletygarwch i helpu i hyrwyddo cyrchfannau lleol sy'n gyfeillgar i gŵn. I unrhyw un sy'n gwirioni ar gŵn, mae Dog Furiendly yn syniad gwych wedi'i ategu gan dechnoleg wych sydd yn bendant yn creu cyffro! ”

Wedi'i sefydlu yn 2017, Angylion Buddsoddi Cymru yw prif rwydwaith buddsoddi angylion Cymru ac mae'n rhan annatod o Fanc Datblygu Cymru. Mae ganddo dros 200 o angylion busnes cofrestredig sy'n rhan o rwydwaith eang sy'n ceisio darparu buddsoddiad preifat i fusnesau sy'n tyfu ac yn cychwyn yng Nghymru.

Fel un o'r buddsoddwyr mwyaf gweithgar sydd 'wedi'i gymeradwyo' ar hyn o bryd gydag Angylion Buddsoddi Cymru, mae gan Andrew Diplock bortffolio cynyddol o fuddsoddiadau preifat ac mae'n eiriolwr brwd dros ddatblygu busnesau newydd a busnesau bach a chanolig yng Nghymru. Cyn hynny roedd yn  aelod o Dasglu'r Cymoedd Llywodraeth Cymru ac arweiniodd y fenter PitchIt Cymoedd a drefnwyd gan BeTheSpark.