Cyfleusterau newydd a gwell gwasanaethau i breswylwyr gofal

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Richard Easton (the Development Bank) and Mike Davies (Dale Roads) stood in front of Dale Roads entrance

Bydd pobl hŷn mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn elwa o gyfleusterau newydd a gwell gwasanaethau gyda chymorth buddsoddiad o £4 miliwn yn hanner cyntaf 2021 gan Fanc Datblygu Cymru.

Fel rhan o economi sylfaenol Llywodraeth Cymru, mae gwasanaethau iechyd a gofal yn sector allweddol y mae pobl yn dibynnu arno i'w cadw'n ddiogel, yn gadarn ac yn wâr. Amcangyfrifir bod yr economi sylfaenol yn cyfrif am bedair ym mhob deg swydd ac £1 ym mhob £3 sy'n cael ei wario gyda'r galw cynyddol am ofal o ansawdd gan gynnwys cyfleusterau Cleifion Meddyliol Oedrannus arbenigol ledled Cymru.

Mae saith busnes o Gymru sy'n darparu gofal preswyl wedi elwa o fenthyciadau gwerth cyfanswm o £4 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru yn y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Mehefin 2021, gan helpu i ariannu twf a gwelliannau i wasanaethau. Mae hyn yn cymharu â llai na £1 miliwn yn yr un cyfnod y llynedd ac mae'n cynnwys cyllid ar gyfer darparwyr cartrefi gofal sy'n darparu gwasanaethau gofal i'r henoed ac oedolion ag anawsterau iechyd meddwl a dysgu.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: “Rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r sector gofal a gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod gan bobl yng Nghymru fynediad at ofal o’r ansawdd gorau posibl.

“Rydym wedi cefnogi darparwyr cartrefi gofal, sydd wedi wynebu heriau sylweddol dros y 18 mis diwethaf, gyda mwy o gyllid wrth i ni werthfawrogi’r pwysau y mae eu gwasanaethau wedi bod oddi tano. Bydd y cyllid hwn gan Fanc Datblygu Cymru yn gwella’r ystod o wasanaethau a gofal arbenigol sydd ar gael i’r rhai sydd ei angen.” 

Ar hyn o bryd mae gan Padda Care ddau gartref gofal yn Llandybie, Rhydaman ac ym Morriston, Abertawe. Mae'r ddau gartref yn darparu gofal dementia arbenigol sydd wedi'i deilwra i anghenion unigol preswylwyr trwy ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae benthyciad o £1.5 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru yn helpu i ariannu datblygu uned 36 gwely newydd sy'n ffinio â Glanmarlais. Disgwylir iddo agor ddiwedd 2021, bydd yr uned yn darparu gofal Cleifion Meddyliol Oedrannus arbenigol ac yn creu 30 o swyddi newydd. Mae Padda Care hefyd wedi caffael safle yn Llwynhendy, Llanelli ar gyfer datblygu cartref gofal 80 gwely. Disgwylir i'r gwaith ddechrau yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Padda Care Piers Tumeth: “Mae wedi bod yn amser heriol i’r sector gofal ond rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddatblygu ein gwasanaethau a buddsoddi yn ein pobl i sicrhau bod ein gofal dementia personol ac arbenigol yn parhau i gael ei ddarparu.

“Mae'r cyfan rydyn ni'n ei wneud yn seiliedig ar ein hethos o gefnogi a phrynu'n lleol. Rydym yn creu swyddi lleol, yn darparu gofal o'r radd flaenaf i bobl leol tra hefyd yn gweithio gyda busnesau lleol er budd yr economi leol. Rydym wedi partneru gyda'r cwmni adeiladu lleol Sterling o Cross Hands i adeiladu ein cyfleuster newydd yn Llandybie a buom yn gweithio'n agos gyda Peter Lynn and Partners o Lanelli a'n cynghorydd busnes Jamie Reynolds o Cennen Solutions i ddatblygu ein strategaeth fusnes.

“Jamie a’n cyflwynodd i Fanc Datblygu Cymru ac o’r cychwyn cyntaf un, roeddem yn gwybod ein bod wedi dod o hyd i bartner cyllido tymor hir sy’n rhannu ein gwerthoedd a’n hymrwymiad i sicrhau gwerth cymdeithasol ac economaidd i bobl leol, gan gynnwys creu swyddi sy'n talu'n dda ac sy'n rhoi boddhad. Mae'r broses gyfan wedi bod mor syml gyda'r tîm yn y Banc Datblygu wirioneddol yn camu'n ôl i weld y darlun ehangach a chanolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i ni fel busnes sy'n tyfu.”

Mae'r Dale Roads Group yn ddarparwr gwasanaethau gofal hir sefydlog ac uchel ei barch gyda chwe chartref gofal preswyl yn Sir Benfro. Yn ddiweddar, mae'r busnes dan berchnogaeth breifat wedi caffael Cartref Gofal Preswyl Pembroke Haven yn Noc Penfro gyda benthyciad o £1.8 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru.

Mike Davies yw Rheolwr Gyfarwyddwr Dale Roads Group. Meddai: “Mae ein perthynas gyda’r Banc Datblygu yn dyddio’n ôl i 2017. Maent wedi bod yn gefnogol iawn i’n twf; darparu cyllid hyblyg a fforddiadwy sydd wedi ein galluogi i fuddsoddi'n barhaus yn y gofal a ddarparwn ar gyfer ein preswylwyr. Mae caffael Pembroke Haven fel cartref gofal preswyl pwrpasol yn gweddu'n berffaith i'n busnes. Rydym wedi gallu diogelu 43 o swyddi lleol a chynnal y ddarpariaeth o ofal o ansawdd uchel yn y gymuned yng nghanol Sir Benfro.

“Mae buddsoddiad parhaus yn ein sector yn hanfodol os yw darparwyr gofal i fod mewn sefyllfa i gynnig bywyd o ansawdd uchel i breswylwyr gyda safonau gofal rhagorol yn cael eu darparu gan weithlu proffesiynol a llawn cymhelliant.”

Dywedodd Nick Stork, Rheolwr Cronfa Banc Datblygu Cymru: “Rydym yn cefnogi ffocws Llywodraeth Cymru ar ddatblygu’r economi sylfaenol. Wrth i bobl fyw yn hirach a thechnoleg yn trawsnewid ein ffordd o fyw, mae ffyrdd o fyw a disgwyliadau wedi newid.

“Mae adroddiadau’n amcangyfrif y bydd 113% yn fwy o bobl dros 85 oed erbyn 2035, gan danio’r galw am gynnydd ym maint ac ansawdd y gofal gan gynnwys cyfleusterau Cleifion Meddyliol Oedrannus arbenigol. Dyna pam mae angen cynllunio a darparu system iechyd a gofal fodern o amgylch anghenion a hoffterau unigolion, gyda mwy o bwyslais les ac ar gadw pobl yn iach. Dylai pob un ohonom allu heneiddio'n dda a byw mewn cymunedau sy'n gyfeillgar tuag at oedran lle mae pobl hŷn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys a'u parchu.

“Mae ein cefnogaeth i’r sector gofal yn cynnwys benthyciad ac ecwiti i ariannu twf a chaffaeliadau busnes. Eleni rydym yn bendant yn gweld cynnydd yn y galw am gyllid yn y sector hwn gyda nifer cynyddol o ddarparwyr gofal angen ein cefnogaeth i gynyddu eu buddsoddiad mewn staff, creu swyddi a gweithio i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau trwy wario mwy ar y recriwtio, datblygu a chadw staff.”