Cyllid o £2 filiwn ar gyfer gwesty boutique newydd yn y Mwmbwls

Alun Thomas
Rheolwr Rhanbarthol
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
oyster wharf

Mae gwaith wedi dechrau ar adeiladu gwesty boutique gydag 16 o ystafelloedd gwely yn Oyster Wharf, y Mwmbwls.

Nextcolour Developments Limited sy’n gyfrifol am y datblygiad diweddaraf, a disgwylir i’r gwesty agor yn 2021. Gyda buddsoddiad o £2 filiwn gan Fanc Datblygu Cymru drwy gyllid gan Gronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru a chefnogaeth gan Croeso Cymru, cynlluniwyd y gwesty 16 ystafell wely gan Lawray Architects a Holly Keeling Interiors, a fu’n gweithio ar The Watergate Hotel yng Nghernyw. Y cwmni Bridgeport 360 o Dde Cymru yw’r contractiwr a benodwyd ar gyfer y prosiect.

Yn rhan o ddatblygiad llwyddiannus Oyster Wharf a agorwyd yn 2016, disgwylir i’r gwesty newydd greu 30 o swyddi newydd ac mae wedi’i ragosod i City Pub Group am 25 mlynedd. Mae gan y Grŵp 47 o dafarndai ledled Cymru a Lloegr ar hyn o bryd, gan gynnwys Chapel 1887 a Pontcanna Inn yng Nghaerdydd.

James Morse yw Cyfarwyddwr Nextcolour. Meddai “Er nad yw’n ymddangos fel pe bai’n gyfnod doeth i fuddsoddi mewn gwesty newydd, rydym yn teimlo’n hyderus bod llawer o alw am westy boutique o ansawdd uchel yn yr ardal, o gofio pa mor gryf yw’r diwydiant twristiaeth yn Ne-orllewin Cymru. 

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Fanc Datblygu Cymru a Croeso Cymru am eu cymorth yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae eu hymrwymiad i barhau â datblygiadau a thwristiaeth yng Nghymru er budd cenedlaethau’r dyfodol yn un i’w ganmol.”

Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Yr Arglwydd Elis-Thomas: “Rwy’n hynod falch bod Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru yn gallu cefnogi’r prosiect hwn – a fydd yn creu gwesty o safon yn yr ardal.  Er bod hwn yn gyfnod anodd, mae’n newyddion gwych bod gan y tîm sy’n gyfrifol am Oyster Wharf y weledigaeth a’r cymhelliant i ddatblygu’r prosiect hwn – ac yn hyderus bod cyfnod gwell ar y gorwel i’r sector.”

Ychwanegodd Alun Thomas o Fanc Datblygu Cymru: “Dyma’r trydydd tro i gronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru fuddsoddi yng ngorllewin Cymru. Llwyddodd Oyster Wharf i adfywio glannau’r Mwmbwls a chreu cyrchfan manwerthu a bwyta i’r gymuned leol a’r rhai sy’n ymweld â rhanbarth Bae Abertawe. Mae’r datblygiad wedi gwella enw da y pentrefi glan môr fel cyrchfan o safon i dwristiaid a phorth i Benrhyn Gŵyr. Bydd y gwesty boutique newydd yn gwella ymhellach y profiad o ansawdd sydd eisoes ar gael ac yn creu 30 o swyddi newydd mawr eu hangen.”

Caiff Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru (CBTC) sy’n werth £50 miliwn ei rheoli gan Fanc Datblygu Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.  Mae benthyciadau rhwng £100,000 a £5 miliwn ar gael a thelerau ad-dalu dros gyfnod o 10 – 15 mlynedd ar gyfer prosiectau twristiaeth sydd angen buddsoddiad cyfalaf, ac mae’n helpu i gynnal a datblygu safle Cymru yn y farchnad dwristiaeth fyd-eang.