Cymhorthfa galw heibio rhithwir yn cynnig cefnogaeth fusnes i gwmnïau Sir Fynwy

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Mae Banc Datblygu Cymru, Busnes Cymru a Chyngor Sir Fynwy yn cynnal cymhorthfa galw heibio rhithwir am ddim y mis nesaf. Nod y digwyddiad ar-lein a gynhelir ar 14 Hydref yw helpu busnesau lleol i ddod i wybod am y cyfleoedd arian cyllido a'r cymorth busnes ehangach sydd ar gael yn ystod yr amseroedd heriol hyn.

Mae slotiau apwyntiad 20 munud ar gael rhwng 10:00 a 15:00. Gellir archebu'r rhain trwy gysylltu â Claire Vokes, Swyddog Buddsoddi Banc Datblygu Cymru. Meddai: “Trwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Fynwy a Busnes Cymru, mae gennym yr holl arbenigedd mewn un lle i drafod eich busnes ac unrhyw gefnogaeth y gallai fod ei hangen arnoch. Rydym yn awyddus i siarad â chymaint o fusnesau lleol â phosibl, felly cofiwch gysylltu ag archebu slot ar gyfer ein clinig rhithwir.”

Mae Banc Datblygu Cymru yn cynnig cyllid hyblyg o £1,000 hyd at £5 miliwn. Gall busnesau sefydledig sy'n chwilio am fenthyciadau rhwng £1,000 hyd at £25,000 gael penderfyniad ar gyllid o fewn dau ddiwrnod. Mae cyfraddau llog wedi'u teilwra i bob bargen, ac nid oes unrhyw gosbau am ad-dalu yn gynnar. Mae telerau hyd at 10 mlynedd ar gael.

Dywedodd Miranda Bishop, Cynghorydd Busnes Twf gyda Busnes Cymru: “Mae Busnes Cymru yn cynnig cyngor a chefnogaeth i bobl sydd eisiau dechrau eu busnes eu hunain neu sydd angen arweiniad i dyfu ac ehangu. Yn ystod yr amseroedd heriol hyn, rydym wrth law i helpu busnesau i ail-ddechrau neu i ddod o hyd i ffyrdd o arallgyfeirio a meithrin cydnerthedd ar gyfer y dyfodol.

“Rydym yn falch iawn o gydweithio â Banc Datblygu Cymru a Chyngor Sir Fynwy, i ddarparu'r cymorthfeydd busnes hyn ac estyn allan at gynifer o berchnogion busnes yn yr ardal â phosibl, felly byddwn yn annog pawb sydd eisiau canfod pa gefnogaeth ariannol ac anariannol sydd ar gael iddynt, i archebu slot.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Bob Greenland, Aelod Cabinet dros Fenter yng Nghyngor Sir Fynwy: “Mae eleni wedi bod yn hynod heriol i gynifer o fusnesau, ac mae cynllunio ar gyfer twf yn y dyfodol yn bwysig. Mae'r gweithdai hyn yn gyfle gwych i fusnesau lleol ofyn am gyngor a chefnogaeth, ac rydym yn argymell yn gryf eich bod yn archebu i gael sesiwn un i un."

I archebu slot 20 munud e-bostiwch: claire.vokes@bancdatblygu.cymru