Cymorth a chyngor, yn rhad ac am ddim gan Busnes Cymru

Newidwyd:
Cynllunio busnes
man on video call

Yma ym Manc Datblygu Cymru, rydym yn cynnig cefnogaeth i'n cwsmeriaid trwy gyfrwng ein swyddogion portffolio ymroddedig. Rydym yn partneru â sefydliadau eraill i ddarparu cyngor ymarferol a chymorth busnes. Un o'n partneriaid yw Busnes Cymru.

Mae Busnes Cymru yn cynnig ystod o wasanaethau am ddim i gwmnïau o Gymru ac i unig fasnachwyr. Mae’r gwasanaeth a gynigir yn amrywio o ysgrifennu cynllun busnes a rheoli llif arian, i gyngor a hyfforddiant marchnata. Mae hyn yn cynnwys cyngor arbenigol ar gyfer allforion - gan gynnwys gweithdai allforio, tendro - gyda gweithdai ysgrifennu cynigion a gwybodaeth ar sut i restru gyda GwerthwchiGymru ar gyfer tendro sector cyhoeddus a chyngor AD. Mae nhw hefyd yn gallu darparu cefnogaeth arbenigol i gwmnïau sydd am ddod yn fwy cynaliadwy - boed hynny trwy well effeithlonrwydd ynni, lleihau olion troed carbon neu baratoi ar gyfer y dyfodol.

Dyma rai o'n cwsmeriaid a dderbyniodd gefnogaeth gan Busnes Cymru wedi i ni eu hatgyfeirio atynt.

Roedd angen rhywfaint o help ar gontractau cyflogaeth ar Howells Jewellers, sydd wedi'i leoli yn Hwlffordd. Dywedodd perchennog y busnes Peter Howells:

“Roedd angen i mi ddarganfod sut i gynhyrchu contract cyflogaeth wedi’i deilwra ar gyfer fy musnes. Ar ôl cael fy nghyflwyno atynt gan fy swyddog portffolio yn y Banc Datblygu, fe wnaeth Busnes Cymru fy nhywys drwy'r broses gam wrth gam. Fe wnaethant hyd yn oed anfon templed ataf i'w lenwi a wnaeth y broses gyfan hyd yn oed yn haws. Fe wnaethant hefyd fy helpu i gynyddu effeithlonrwydd ynni'r adeilad."

Dywedodd becws CRWST yn Aberteifi fod y gefnogaeth a gawsant gan Busnes Cymru yn ystod pandemig a chyfnod clo Covid 19 wedi eu helpu i arallgyfeirio fel busnes.

“Yn ystod 2020 a’r achosion o COVID-19, roedd cefnogaeth Busnes Cymru yn allweddol wrth ein helpu i ddeall hanfodion sefydlu siop ar-lein. Wrth i'r caffi gael ei orfodi i gau, roedd yn rhaid i ni edrych i mewn i ffrydiau refeniw amrywiol er mwyn cadw ein busnes i fynd. Dyma pryd dechreuon ni archwilio opsiynau e-fasnach. Fe'n cyfeiriwyd at raglen Cywain a gynigiodd gyngor ac arian o ran dylunio ac argraffu pamffledi. Roedd eu cefnogaeth yn werthfawr ac fe wnaethon ni ddysgu gymaint.”

Cyflwynwyd cyfrifwyr siartredig Evens & Co Ltd i Gynghorydd Cynaliadwyedd yn Busnes Cymru gan eu swyddog portffolio. Dywedon nhw:

“Gyda chefnogaeth Busnes Cymru, rydym wedi dechrau ar raglen gynaliadwyedd ac wedi ymrwymo i’r Addewid Twf Gwyrdd i leihau ein hôl troed carbon, gwella amgylchedd gwaith ein staff, a hynny tra’n parhau i gefnogi a chreu swyddi newydd.”

Tony Olley yw Rheolwr Gyfarwyddwr Great Breaks Leisure yn y Bermo, sy'n westy hygyrch sy'n gyfeillgar i'r anabl wedi ei leoli ger glan y môr. Meddai Tony:

“Mae'r atgyfeiriad at Busnes Cymru gan y Banc Datblygu wedi darparu cefnogaeth amhrisiadwy i mi fy hun a'r busnes. Maen nhw wedi fy helpu i gynhyrchu rhagolygon busnes, a'u diwygio i adlewyrchu effeithiau allanol fel pandemig 2020 a'r cyfnod clo. Fe wnaeth fy swyddog portffolio hefyd fy rhoi mewn cysylltiad â Chydlynydd Rhaglen Fentora Busnes Cymru - a gyflwynodd fi at fentor gwych yn ei dro. Rwyf wedi derbyn ystod o gymorth am ddim gan Busnes Cymru, gan gynnwys; cyngor marchnata, cynllunio cadernid, a gwybodaeth ar sut i ail agor yn ddiogel mewn ffordd sy'n ddiogel yng nghyd-destun Covid. Mae'r cysylltiadau rhwng Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru yn ychwanegu gwerth gwirioneddol i'm profiad fel cwsmer i'r Banc Datblygu.”

Yn ogystal â helpu gyda syniadau twf a ffyrdd o weithredu strategaethau newydd ac effeithiol, gall Busnes Cymru hefyd gefnogi cwmnïau gyda grantiau a chyngor cyllid dilynol.

Roedd gan Joshua Davies o JD Print Supplies sydd wedi'i leoli yn Y Barri'r hyn a ganlyn i'w ddweud am Busnes Cymru, wedi iddo gael ei atgyfeirio atynt gan ei swyddog portffolio:

“Gofynnais i fy swyddog portffolio am gyngor ar sut y gallwn newid ein strategaeth busnes a chaffael. Fe wnaethant fy rhoi mewn cysylltiad â Busnes Cymru, a oedd yn gallu fy helpu gyda fy nghynllun busnes, a sicrhaodd arian ychwanegol gan Fanc Datblygu Cymru. Rydyn ni nawr yn cynhyrchu ein cemegolion ein hunain i'w gwerthu i gwsmeriaid, yn hytrach na'u prynu i mewn gan gyflenwr. Roeddwn i wir yn gwerthfawrogi'r atgyfeiriad at Busnes Cymru a'r cymorth a roesant."

Boed hynny trwy chwilio am gyfleoedd twf newydd, gweithio’n fwy cynaliadwy, neu archwilio marchnadoedd rhyngwladol newydd, mae gan Busnes Cymru'r offer i gynorthwyo eich busnes wrth i chi geisio ehangu a thyfu.

I ddarganfod mwy am Busnes Cymru a sefydliadau eraill rydym yn gweithio â nhw, ffoniwch neu e-bostio eich swyddog portffolio.