Cyngor cyffredinol ar gyfer codi cyllid ecwiti

Portrait of Sophie Vellam
Swyddog Ymgyrchoedd
Newidwyd:
hand holding compass

Gall codi buddsoddiad ecwiti fod yn un o'r pethau mwyaf heriol y mae'n rhaid i fentergarwr ei wneud, ond hefyd, gall fod y peth mwyaf buddiol. P'un a oes angen arian parod arnoch i ddechrau eich busnes, neu os ydych am ehangu eich busnes sefydledig, dylai'r awgrymiadau hyn eich helpu os ydych chi'n newydd i'r arferiad o godi arian.

 

Dechreuwch yn gynnar a pharatowch yn dda

Gall codi cyfalaf ecwiti deimlo fel swydd amser llawn. Yn aml mae'n tynnu sylw sylweddol oddi wrth y busnes craidd, ac mae'n cymryd o leiaf ychydig fisoedd i gwblhau bargen. Ond trwy fod yn baratoi’n dda, gallwch gyflymu'r broses a chynyddu eich siawns o sicrhau'r cyllid sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth os byddwch chi wedi gweithio allan yn gynnar beth yn union rydych chi'n ei ddisgwyl gan fuddsoddwr, yn deall yr hyn maen nhw'n chwilio amdano a'r camau maen nhw'n mynd drwyddynt i gwblhau buddsoddiad, a chreu cynllun busnes cadarn.

Byddwch yn barod i ymwahanu â pheth o'ch ecwiti

Mae llawer o berchnogion busnes yn amharod i weld gostyngiad yn eu canran perchnogaeth. Ond cofiwch nad ydych chi'n rhoi rhan o'ch busnes i ffwrdd; rydych chi'n ei werthu yn gyfnewid am arian gan bobl sydd eisiau eich helpu chi i lwyddo. Meddyliwch amdano fel hyn: a fyddai'n well gennych chi fod yn berchen ar 100% o forgrugyn neu 70% o eliffant? Gall buddsoddiad ecwiti fod y ffordd orau i dyfu eich busnes oherwydd yn gyffredinol gallwch chi godi swm mwy, ac nid oes rhaid i chi wneud ad-daliadau rheolaidd fel y byddech chi gyda benthyciad.

Siaradwch ag eraill sydd wedi gwneud hyn

Yn aml gall y broses o godi arian ymddangos fel rhywbeth brawychus, felly mynnwch gymaint o help a chyngor ag y gallwch. Siaradwch â pherchnogion busnes eraill sydd flwyddyn neu ddwy o'ch blaen ac sydd wedi sicrhau buddsoddiad yn ddiweddar. Mae hyd yn oed yn well os oes gennych rywun yn eich tîm sydd â phrofiad ecwiti. Mae hefyd yn syniad da penodi cyfreithiwr a chyfrifydd sydd â phrofiad gyda'r mathau hyn o fargeinion. Bydd yn costio arian ond mae'n debyg y bydd eu cyngor yn arbed llawer i chi yn y tymor hir.

Byddwch yn realistig gyda'ch prisiad

Nid yw pennu gwerth cwmni yn syml. Mae yna amrywiaeth o ddulliau a does dim un ateb cywir sy'n sefyll ar ei ben ei hun fel petai. Efallai y byddai'n demtasiwn gosod eich prisiad mor uchel â phosibl, ond dylech geisio osgoi hyn. Efallai y bydd prisiad rhy uchel yn dychryn buddsoddwyr neu fod ag anfanteision sylweddol yn y dyfodol, fel ei gwneud hi'n anoddach i godi rowndiau cyllido pellach. Byddwch yn realistig a chofiwch ei bod yn bwysicach dod o hyd i'r buddsoddwr cywir na chael y prisiad uchaf. Gall cael cyngor proffesiynol gan gyfrifydd neu gwmni cyllid corfforaethol eich helpu i gyrraedd prisiad / gwerth sy'n dderbyniol i chi a'r buddsoddwr.

Cadwch mewn cof bod hyn oll yn fwy na dim ond arian

Er mai sicrhau cyfalaf ar gyfer eich busnes yn amlwg yw prif nod codi arian, mae cymaint mwy y gall buddsoddwyr ei gynnig. Peidiwch â chymryd arian dim ond er mwyn cael arian a pheidiwch â chael eich hudo gan y buddsoddwr gyda'r pocedi dyfnaf. Ewch ati i ganfod beth arall y gallent ei gynnig i'ch cwmni, gan gynnwys profiad, sgiliau a chysylltiadau. Sicrhewch fod ganddyn nhw enw da a gofynnwch i'ch hun a fyddwch chi'n gallu gweithio'n dda gyda nhw. Gall y buddsoddwr cywir wneud gwahaniaeth enfawr i lwyddiant eich cwmni.

Be' nesaf?

Am drafod ecwiti ymhellach? Ymholwch trwy ddefnyddio ein ffurflen cysylltu â ni. 

Cysylltu â ni