Cynllun newydd i helpu pobl yng Nghymru i adeiladu eu cartref eu hunain

Cenydd-Rowlands
Cyfarwddwr Eiddo
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
self build wales

Heddiw mae cynllun newydd, gwerth £210m, yn cael ei lansio i helpu pobl i adeiladu eu cartref eu hunain, er mwyn cynyddu’r cyflenwad tai, tra hefyd yn rhoi hwb i’r diwydiant adeiladu yng Nghymru.

Mae Hunanadeiladu Cymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru ac a reolir gan Fanc Datblygu Cymru, yn darparu plotiau parod i bobl a benthyciad sy’n talu am 75% o gost plot adeiladu a 100% o gost adeiladu cartref. Er mwyn helpu’r rheini sy’n adeiladu eu cartref eu hunain gyda’u costau byw bob dydd, nid oes rhaid gwneud unrhyw ad-daliadau hyd nes bod y cartref newydd wedi’i gwblhau.

Mae’r cynllun hefyd yn darparu cyfleoedd newydd i fusnesau adeiladu bach a chanolig godi cartrefi o ansawdd.

Mae’n ateb i bobl sydd am aros yn eu hardal, ond nad ydynt hyd yma wedi gallu fforddio prynu yno.

Mae’n rhoi cyfle hefyd i bobl hŷn ac anabl godi tai sydd wedi’u teilwra i’w hanghenion, a hynny yn y cymunedau lle maent yn dymuno byw.

Nod y cynllun yw cael gwared ar y rhwystrau a’r ansicrwydd sy’n gallu codi i bobl sy’n adeiladu eu cartrefi eu hunain – er enghraifft, dod o hyd i blot, cynllunio a chyllid – gan ei gwneud yn bosibl codi mwy o gartrefi, ac i adeiladwyr gael canolbwyntio ar greu cartrefi o ansawdd.

Mae’r ffigurau yn awgrymu mai dim ond 70-75% o’i werth terfynol y mae’n ei gostio, ar gyfartaledd, i godi eich cartref eich hun yn y DU, gan nad oes rhaid i ddatblygwr wneud elw. Mae’r fantais yn mynd i boced y perchennog yn gyfan gwbl.

Yn y DU, 10% o’r rheini sy’n symud i gartrefi newydd sy’n eu codi eu hunain. Mae’r gyfradd hon lawer yn is nag mewn gwledydd eraill.

Wrth lansio’r cynllun newydd, dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai:

“Rydyn ni am ddatgloi’r potensial i adeiladu tai yng Nghymru.

“Wrth inni fuddsoddi’n sylweddol yn y gwaith o adeiladu cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy newydd, rydyn ni hefyd am helpu llawer yn fwy o bobl sydd am godi eu cartrefi eu hunain – nid rhywbeth i’r aelwydydd mwyaf breintiedig yn unig ddylai hyn fod.

“Rydyn ni’n gwybod bod dod o hyd i dir, ymdrin â chydsyniad cynllunio, a’r capasiti ariannol i godi cartref a thalu costau byw ar yr un pryd, yn rhwystrau gwirioneddol. Mae Hunanadeiladu Cymru yn cael gwared ar y rhwystrau hyn, ac yn ei gwneud yn llawer haws i bobl godi eu cartref eu hunain. Bydd hefyd yn hwb sylweddol i gwmnïau adeiladu ledled Cymru.

“Wrth inni weithio i gynyddu’r tai sydd ar gael, bydd y cynllun hwn yn helpu pobl na fyddent efallai yn ystyried codi eu cartref eu hunain i wneud hynny o ddifrif.”

Dywedodd Cenydd Rowlands, Rheolwr Eiddo ym Manc Datblygu Cymru:

“Mae’n gyffrous inni gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru i weithredu’r cynllun arloesol hwn a fydd yn cael effaith wirioneddol ar aelwydydd yn ogystal ag ar gymunedau ehangach.

“Mae Banc Datblygu Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r sector eiddo yng Nghymru ers 2012, ac rydyn ni wedi profi droston ni ein hunain y sgil a’r angerdd sydd yna o fewn y sector.

“Bydd tynnu ynghyd y prosesau cynllunio, dylunio, adeiladu a chyllid yn agor y drws i bobl adeiladu eu cartrefi eu hunain na fyddent fel arall wedi’i ystyried fel opsiwn realistig.”     

Dywedodd Andrew Baddeley-Chappell, Prif Weithredwr y Gymdeithas Hunanadeiladu Genedlaethol:

“Mae hunanadeiladu yn golygu bod modd darparu mwy o gartrefi a gwell cartrefi sy’n ddeniadol i fwy o bobl a chymunedau. Cartrefi harddach, sy’n fwy cydnaws â’u hamgylchedd, ac sy’n fwy cynaliadwy nag a ddarperir gan y farchnad arferol. Cartrefi sy’n gallu cyfuno’r dechnoleg ddiweddaraf â gwaith crefftwyr lleol.

“Rydyn ni’n croesawu’r pecyn hwn o fesurau a’r newidiadau cadarnhaol a ddaw yn eu sgil yng Nghymru.”    

Dywedodd Ifan Glyn​, Cyfarwyddwr Ffederasiwn Meistr Adeiladwyr Cymru:

“Bydd cwmnïau adeiladu bach ym mhob rhan o Gymru wrth eu bodd gyda chynllun Hunanadeiladu Cymru. Mae wedi bod yn gyfnod heriol i gwmnïau bach dros y blynyddoedd diwethaf. Mae ein haelodau yn sôn am ffrydiau cyllid sy’n dod i ben, a heriau wrth ymdrin â’r system gynllunio, fel y prif rwystrau o ran twf.

“Rydyn ni wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bryderon ein haelodau ac wedi gweithio gyda ni i ddatblygu cynllun sy’n cael gwared ar y rhwystrau hyn. Mae’r gwaith caled ar fin dechrau nawr, ond drwy barhau i gydweithio, rwy’n hyderus y bydd cynllun Hunanadeiladu Cymru yn gyfle gwych i’n haelodau godi cartrefi newydd o fewn eu cymunedau eu hunain.”

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Hunanadeiladu Cymru: https://selfbuild.wales/cy