Cynllunio ar gyfer twf

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
steve lanigan ALS managed services

Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf yn y Western Mail ar 6 Chwefror 2019.

Mae enillydd gwobrau’r Great British Entrepreneur a 50 Twf Cyflym Steve Lanigan yn dweud bod agwedd benderfynol, cydweithrediad a chydnabyddiaeth wedi bod yn ffactorau allweddol i lwyddiant ei fusnes yn dilyn y broses bryniant o'r busnes gan y rheolwyr yn ALS Managed Services 2018.

2014 oedd hi pan sefydlwyd ALS Managed Services am y tro cyntaf. Dim ond pedair blynedd yn ddiweddarach, mae'r partneriaid a'i sefydlodd wedi datblygu'r busnes yn gwmni recriwtio blaenllaw sy'n arbenigo mewn sectorau ailgylchu a warysau ar hyd a lled y DU, gyda chwsmeriaid sglodion las, gan gynnwys prif gwmnïau ailgylchu a dosbarthu cenedlaethol. Roedd trosiant wedi cyrraedd £24 miliwn ac roeddem ar fin cyrraedd pen y rhestr yng Ngwobrau Twf Cyflym Cymru 2018 gyda thwf refeniw o 4,237.6%.

Bydd unrhyw un mewn busnes yn dweud wrthych fod y math hwn o dwf yn ymofyn am agwedd hynod o benderfynol. Ychwanegwch bryniant rheoli at hynny ac rydych chi'n delio gyda chyfnod o amser yn eich bywyd sydd fel bod ar roller-coaster emosiynol gyda chyfuniad o gyffro, nerfusrwydd a straen.

Roedd gen i'r weledigaeth a'r agwedd benderfynol, roeddwn i'n elwa o gael tîm rheoli gwych ac roeddwn i'n gwybod y byddai ein sylfaen cwsmeriaid yn parhau'n ffyddlon i'n gwerthoedd a'n gwasanaethau craidd. Yr hyn yr oeddwn ei angen, fel unrhyw un sy'n ystyried cyflawni pryniant rheoli, oedd cefnogaeth gref a chyngor dibynadwy.

Wedi ymuno â Rhaglen Cyflymwyr Natwest ym mis Mai 2017, fe wnes i elwa'n fawr o'r hyfforddiant ac fe roddodd yr hyder i mi gredu ynddo fi fy hun a'm cynlluniau ac fe wnaeth fy helpu i ddatblygu ffocws clir ar ein hamcanion strategol. Ar ôl 12 mis ar y rhaglen, cafodd ein cynllun busnes ei feirniadu, dadansoddwyd ein strategaeth a chafodd ein cynigion ariannu eu hadolygu. Fe wnaethom hefyd gael ein cyflwyno i rai cwmnïau sglodion glas anhygoel sydd wedi dod yn gwsmeriaid i ALS ers hynny.

Does dim amheuaeth bod y rhaglen yn nodi adeg pan wnes i gychwyn ar daith newydd yn bersonol a'r busnes cyfan. Dechreuon ni gynllunio ar gyfer y broses o gyflawni pryniant rheoli gyda'r agwedd ein bod eisiau mynd â'r maen i'w wal ac roedd gennym yr hyder i oresgyn yr heriau ar hyd y ffordd. Fe wnaeth y gwaith o gynllunio cynllun busnes manwl gymryd amser ond roedd yn golygu bod gennym gynnig deniadol i'w gyflwyno i arianwyr presennol a dull gweithredu cyd-gysylltiedig o gyflwyno strategaethau brand, amcanion masnachol a pherfformiad ariannol.

Y gwir amdani yw mai'r ddogfen cynllunio busnes hon oedd â’r grym i newid ein bywydau. Fel tîm, buom yn gweithio gyda'n gilydd i ddadansoddi'r manylder ac fe wnaethon ni ymarfer ein pitsh fel ein bod ni'n barod i wynebu'r craffu.

Ym mis Awst 2018, cawsom y canlyniad yr oeddem ei eisiau pan gytunodd HSBC a Banc Datblygu Cymru ar becyn ariannu cyfunol o fwy na £1 miliwn gan alluogi'r cyfranddalwyr mwyafrifol i ymadael y busnes. Yn sgil y fargen roedd y banc datblygu yn cymryd cyfran ecwiti o 20% yn ein cwmni newydd.

Roedd adeiladu perthynas gadarn ac ymddiriedaeth gyda buddsoddwr yn ystod y broses yn hynod o bwysig i'r tîm rheoli newydd. Oedd, wrth gwrs yr oedd yn rhaid i'r ffigurau wneud synnwyr, ond yr hyn yr oeddem wir ei eisiau oedd buddsoddwr a oedd yn wirioneddol gefnogol i'r weledigaeth hir dymor ar gyfer ein busnes. Bu'r gefnogaeth gan y banc datblygu a'i broses benderfynu gyflym yn ased gwych i'n tîm ac, yn sicr, fe wnaeth helpu i gyflymu ein twf.

Yr 'eisin ar y gacen' fel petai oedd pan wnaethon ni ennill yn y gwobrau 50 Twf Cyflym ym mis Hydref 2018. Mawredd mawr, fe wnaethom ni ddathlu! Fel tîm, rydym yn gweld y wobr fel gwir fesur o'n llwyddiant yng Nghymru ac mae'r wobr yn sicr wedi helpu i agor cyfleoedd newydd yn nes at adref. Rhoddodd hwb gwirioneddol inni; gan roi'r cyfle i ni fyfyrio ar ein cyflawniadau ac atgyfnerthu ein huchelgeisiau.

Ond, megis newydd ddechrau mae'r daith. Mae 2019 eisoes wedi gweld ein rhaglen arweinwyr y dyfodol yn cael ei chyflwyno ac fe recriwtiwyd cydweithwyr newydd. Rydym yn gweithio'n galed i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr yn y busnes tra'n datblygu ein cynnyrch a lefelau'r gwasanaeth.

Mewn diwydiant hynod gystadleuol, rydym yn parhau i ganolbwyntio'n llwyr ar wahaniaethu ein model busnes trwy fuddsoddi yn ein pobl a gweithio mewn cydweithrediad â'n cwsmeriaid i fynd i'r afael â bylchau sgiliau, adnabod doniau a ffynonellu ymgeiswyr da er budd pawb yn yr hir dymor.

Yn y pen draw, mae ein pobl yn rhan gwbl annatod o'r hyn yr ydym yn ei wneud. Fe wnaeth y tîm gamu i fyny o ddifri yn y cyfnod yn arwain at y broses pryniant rheolwyr, ond yn bwysicach, maen nhw wedi parhau i dyfu a rhagori ar hynny. Dyna fu'r rhan fwyaf cyffrous o'r broses; cydnabod a gwobrwyo unigolion allweddol sydd ar y daith gyda ni. Fyddwn i ddim yn newid hyn am y byd.

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr