Cyrff sector cyhoeddus mwyaf Cymru yn ymrwymo i Brynu Cymdeithasol

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
social business connect

Mae Trafnidiaeth Cymru, Banc Datblygu Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) yn gweithio gyda Cyswllt Busnes Cymdeithasol i edrych ar ffyrdd y gall gynyddu ei wariant gyda busnesau cymdeithasol ac ymgorffori gwerth cymdeithasol ledled ei brif gontractau.

Bydd pob un o'r pum sefydliad yn mynd ati i feithrin ymwybyddiaeth o'r Ymgyrch Prynu Cymdeithasol i Sicrhau Gwell Byd yr wythnos hon (yr wythnos sy'n dechrau ar 7 Hydref). Mae hon hefyd yn ymgyrch sy'n cael ei chefnogi gan yr actor o Gymru, a noddwr Social Enterprise UK, Michael Sheen.

Mae mentrau cymdeithasol yn fusnesau a sefydlir i ailfuddsoddi'r arian a wneir ganddynt yn ôl yn eu hachos cymdeithasol neu amgylcheddol. Mae yna dros 2,000 o'r busnesau hyn yng Nghymru, sy'n cyfrannu amcangyfrif o £3 biliwn i economi Cymru (£60 biliwn i economi'r Deyrnas Unedig), ac yn cyflogi tua 55,000 o bobl.

Gwasanaeth ymgynghori masnachol yw Cyswllt Busnes Cymdeithasol o Ganolfan Cydweithredol Cymru, sy'n cynorthwyo sefydliadau i ddatblygu eu cadwyni cyflenwi er mwyn masnachu gyda'r sector busnes cymdeithasol.

Dywedodd Rhian Edwards, ymgynghorydd arweiniol Cyswllt Busnes Cymdeithasol:

“Mae Cymru ar drothwy ei chyfnod mwyaf heriol ers degawdau. Mae ein cymunedau ôl-ddiwydiannol a gwledig, sef pwerdy'r economi leol ar un adeg, wedi dioddef blynyddoedd o ddirywiad a thanfuddsoddi. Dyna lle mae busnes cymdeithasol yn dod yn fyw. Mae busnesau cymdeithasol wedi'u hangori yn eu cymunedau, ac mae unrhyw fuddsoddiad yn aros yn y gymuned ac yn cael ei ddefnyddio er budd economaidd a chymdeithasol ehangach. Er bod mentrau o'r fath yn aml yn gweithredu mewn cymunedau anodd eu cyrraedd ac iddynt her economaidd, maent yn aml yn cyflogi rhagor o bobl mewn perthynas â throsiant na busnesau eraill.”

Dywedodd Sarah Jane Waith, Pennaeth y Gadwyn Gyflenwi a Rheoli Contractau yn Trafnidiaeth Cymru:

“Yn Trafnidiaeth Cymru, mae gennym gyfle go iawn i gynyddu effaith gymdeithasol ac amgylcheddol ein caffael, a helpu i dyfu’r sector busnes cymdeithasol yng Nghymru. Mae yna farn yn bodoli o hyd nad oes gan fusnesau cymdeithasol yr adnoddau na'r set sgiliau i gyflawni'r allbynnau sy'n ofynnol o'r contractau mawr hyn yn y sector cyhoeddus, ond ni allent fod ymhellach oddi wrth y gwir.”

Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr, Banc Datblygu Cymru:

“Yr hyn a fydd yn amlwg o'r ymgyrch Prynu Cymdeithasol yr wythnos hon fydd bod y sector busnes cymdeithasol yn tyfu'n gyflym ledled ein heconomi. Mae'r sector nid yn unig yn darparu gwasanaethau a swyddi hanfodol lle mae ar bobl eu hangen, ond mae hefyd yn helpu busnesau i fodloni gofynion gwerth cymdeithasol mewn polisi a deddfwriaeth bwysig, er enghraifft Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).”

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch Prynu Cymdeithasol, ewch i https://www.socialenterprise.org.uk/buysocialforabetterworld. Gallwch hefyd olrhain yr ymgyrch ar Twitter a LinkedIn gyda'r hashnod #PrynuCymdeithasol.