Dawan Developments yn sicrhau benthyciad saith ffigwr gan Gronfa Eiddo Masnachol Cymru ar gyfer prosiect Spider Camp

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
carl fitzgerald dawan

Mae Dawan Developments eisoes wedi cychwyn ar y gwaith adeiladu ar safle masnachol sy’n cael ei alw’n Spider Camp, ger Ystâd Fasnach yr Iwerydd yn Sili, Bro Morgannwg. Mae benthyciad eiddo masnachol saith ffigwr gan Fanc Datblygu Cymru wedi cefnogi’r prosiect hwn.

Mae Spider Camp yn cynnwys chwe adeilad diwydiannol ysgafn, sy’n cynnwys 42 uned unigol. Mae’r rhain wedi’u dylunio fel unedau cychwynnol i fusnesau sy’n ehangu a busnesau sy’n dechrau, sydd angen gofod masnachol llai. Mae galw mawr iawn am y math yma o le, ac mae pob un o’r unedau o gam 1 eisoes wedi’u gwerthu, ar wahân i ddwy uned.

Mae caniatâd cynllunio wedi cael ei roi ar gyfer y safle, ac mae cyfanswm yr arwynebedd yn dod i 59,484 troedfedd sgwâr, i’w adeiladu mewn tri cham.

  • Cam 1: Dau adeilad (Adeilad 1 ac Adeilad 2) sy’n cynnwys 13 uned, sef cyfanswm o 18,418 troedfedd sgwâr;
  • Cam 2: Dau adeilad (Adeilad 4 ac Adeilad 5) sy’n cynnwys 13 uned, sef cyfanswm o 18,418 troedfedd sgwâr;
  • Cam 3: Dau adeilad (Adeilad 3 ac Adeilad 6) sy’n cynnwys 16 uned, sef cyfanswm o 22,648 troedfedd sgwâr

 

Mae’r gwaith adeiladu eisoes wedi cychwyn ar gam 1.

Rheolwr Gyfarwyddwr Dawan Developments, Andy Ismail, sy’n rheoli’r prosiect. Dywedodd:

“Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael o’r dechrau i’r diwedd gan Carl a’i dîm ym Manc Datblygu Cymru wedi bod yn wych. Gyda’u help a’u cymorth nhw, mae’r cyllid ychwanegol wedi caniatáu i ni symud y prosiect yn ei flaen i'r cam nesaf, a bydd dau adeilad arall yn cael eu hadeiladu yn gynharach na’r disgwyl, sy’n golygu y bydd y prosiect cyfan yn cael ei gwblhau chwe mis cyn y dyddiad gwreiddiol ar yr amserlen. Roedd y broses o sefydlu’r cyfleusterau gan y Banc Datblygu yn gyflym a rhwydd, unwaith roedd yr holl wybodaeth berthnasol wedi cael ei rhoi.”

Cafwyd arian ar gyfer y cynllun o Gronfa Eiddo Masnachol Cymru, sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei rheoli gan Fanc Datblygu Cymru. Lansiwyd y gronfa yn 2019 a gwnaeth ei buddsoddiad cyntaf ym mis Ionawr 2020.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Bydd y datblygiad hwn yn darparu gofod busnes modern y mae galw mawr amdano. Bydd hefyd yn cefnogi ein hymrwymiad i greu cyfleoedd i gwmnïau a sicrhau buddion economaidd parhaus.

“Rwy’n falch fod Banc Datblygu Cymru wedi gallu cefnogi’r prosiect pwysig iawn hwn, ac edrychaf ymlaen at ei weld yn datblygu ac yn rhoi hwb gwirioneddol i'r economi leol.”

Carl Fitz-Gerald, y Swyddog Gweithredol Buddsoddi mewn Eiddo, oedd yn gyfrifol am ffurfio’r cytundeb ar ran Banc Datblygu Cymru. Dywedodd:  “Mae Andy yn ddatblygwr rhagorol sydd wedi cael llwyddiant blaenorol o greu gofod masnachol a diwydiannol o safon uchel. Mae galw mawr iawn am unedau i fusnesau sy’n dechrau ac unedau llai yn ne Cymru, ac mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn y rhai sydd ar gael yn Spider Camp.  Bydd y prosiect hwn yn helpu i greu hwb busnes llewyrchus i’r ardal. Rydyn ni’n falch o allu cefnogi'r prosiect hwn, ac yn edrych ymlaen at berthynas gynhyrchiol barhaus gydag Andy a Dawan Developments.”