Mae Dirnad Economi Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad cyntaf i'r cyllid sydd ar gael i fusnesau Cymru yn ystod pandemig Covid-19.
Wedi'i gomisiynu ar y cyd gan Dirnad Economi Cymru, Banc Datblygu Cymru a Llywodraeth Cymru, yr adroddiad hwn yw’r cam cyntaf mewn rhaglen ymchwil barhaus. Yn ychwanegol at y £2.134 biliwn mewn grantiau gan Lywodraeth y DU a £1.819 biliwn mewn benthyciadau a gyhoeddwyd gan Fanc Busnes Prydain, mae'r adroddiad yn cyfrifo bod cyfanswm buddsoddiad o dros £1 biliwn wedi’i wneud gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig gyda 141,000 o swyddi'n cael eu cefnogi ledled Cymru. Mae'r penawdau'n cynnwys:
- Cyfanswm grantiau Llywodraeth y DU oedd £2.134 biliwn gyda £1.819 biliwn mewn benthyciadau a gyflwynwyd trwy gyfrwng Banc Busnes Prydain.
- Cyfanswm grantiau Cam 1 a 2 y Gronfa Cadernid Economaidd (CCE) oedd £203 miliwn gyda thaliadau o £15,000 ar gyfartaledd ar draws 12,000 o gwmnïau gan arwain at gefnogi 125,000 o swyddi. Roedd 80% o'r cwmnïau a gefnogwyd yn ficrofusnesau.
- Cyfanswm taliadau Cynllun Benthyciad Busnes Covid-19 Cymru (CBBCC) oedd £92 miliwn a ddiogelodd 16,000 o swyddi gyda benthyciadau o £69,000 ar gyfartaledd i 1,332 o gwmnïau. Pen-y-bont ar Ogwr sydd â'r nifer fwyaf o swyddi a ddiogelwyd fesul cwmni a gafodd gymorth, gyda bron i 20 o swyddi fesul cwmni, tra bod dros 18 o swyddi wedi'u diogelu fesul pob cwmni ym Mlaenau Gwent a Chastell-nedd Port Talbot.
- Cyfanswm taliadau grant trethi annomestig Llywodraeth Cymru oedd £770 miliwn gyda Gwynedd yn derbyn 7.6% o'r cyfanswm.
Mae Dirnad Economi Cymru (DEC), a lansiwyd yn 2018, yn gydweithrediad unigryw rhwng Banc Datblygu Cymru, Ysgol Busnes Caerdydd a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Fel corff ymchwil annibynnol, mae'r grŵp yn coladu ac yn dadansoddi data i greu mewnolwg annibynnol, cadarn a dibynadwy i helpu i ddeall a gwella economi Cymru.
Mae ymyriadau CCE yr ymchwiliwyd iddynt yn yr adroddiad hwn gan DEC yn cynnwys grantiau busnes Cam 1 a 2 CCE a weinyddir gan Lywodraeth Cymru a Chynllun Benthyciad Busnes Covid-19 Cymru a reolir gan Fanc Datblygu Cymru. Mae'r adroddiad hefyd yn ystyried y grantiau Cyfraddau Annomestig (CAn) a weinyddir gan awdurdodau lleol. Nid yw cynlluniau eraill sydd wedi agor yn fwy diweddar i gwmnïau yng Nghymru ar gyfer ceisiadau yn cael eu dadansoddi yn yr adroddiad cychwynnol hwn.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at arwyddocâd ymyriadau CCE, yn enwedig i micro fusnesau a busnesau llai yng Nghymru, a'r busnesau hynny yr effeithiwyd arnynt waethaf gan y pandemig. Mae'r dadansoddiad yn awgrymu y gallai effeithiau ehangach y gefnogaeth fod yn sylweddol, gyda miloedd lawer o swyddi'n cael eu cefnogi'n anuniongyrchol mewn cwmnïau cysylltiedig trwy effeithiau cadwyn gyflenwi ac effeithiau gwariant cyflog. Darparodd llawer o fusnesau sylwebaeth yn eu ceisiadau ar eu heffeithiau ehangach yng Nghymru, gan gyfeirio at eu cadwyn gyflenwi, hyfforddiant a buddion cymunedol.
Mae'r dadansoddiad hefyd yn dangos mai sectorau llafur-ddwys fel adeiladu, lletygarwch, manwerthu, bwyd a diod, twristiaeth a thrafnidiaeth a elwodd fwyaf o gefnogaeth CCE.
Dywedodd y Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae Coronafeirws wedi rhoi pwysau anhygoel ar ein heconomi. Mae'n argyfwng sydd wedi creu heriau annirnadwy dim ond blwyddyn yn ôl.
“Mae ein pecyn cymorth busnes yn parhau i fod yn hanfodol wrth helpu i amddiffyn miloedd o fusnesau a llawer mwy o fywoliaethau.
“Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd bwrpasol wedi bod yn ganolog i hynny. Hebddi, gallai degau o filoedd o swyddi fod wedi cael eu colli fel arall.
“Mae’r adroddiad hwn gan DEC yn tanlinellu graddfa’r hyn yr ydym ni, gan weithio gyda Banc Datblygu Cymru a’n partneriaid awdurdod lleol, wedi gallu ei gyflawni wrth gefnogi cwmnïau drwy’r argyfwng hwn.
“Rydyn ni’n gwybod bod yna bwysau parhaus ac rydyn ni’n parhau i archwilio opsiynau pellach ar gyfer cefnogi busnesau drwy’r pandemig a’u helpu i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl i gyfnod pontio’r UE ddod i ben.”
Dywedodd Giles Thorley, Prif Weithredwr Banc Datblygu Cymru: “Mae Covid-19 yn cael effaith gymdeithasol ac economaidd sylweddol sy’n dyfnhau wrth i’r pandemig barhau.
“Symudodd Llywodraethau Cymru a’r DU i liniaru’r effeithiau ar fusnesau yng Nghymru. Mae cyflymder a graddfa'r sawl sydd wedi eu defnyddio, fel y profwyd gan ein Cynllun Benthyciad Busnes Covid-19 Cymru ni ein hunain, y cynlluniau a gefnogwyd gan Fanc Busnes Prydain a’r ymyriadau ar draws Llywodraeth Cymru sydd wedi’u hamlygu yn yr adroddiad hwn, yn tynnu sylw at arwyddocâd yr ymyriadau hyd yn hyn. Mae hefyd yn dangos yr angen i werthuso effaith ac effeithiolrwydd y cynlluniau cefnogaeth hyn wrth i ni ystyried sut i esblygu’r gefnogaeth er mwyn mynd i’r afael â’r effaith hirdymor ar y gymuned fusnes Gymreig.
“Bydd cael rhaglen ymchwil a gomisiynwyd ar y cyd i gydlynu'r hyn a ddysgwyd ar draws sefydliadau fel ni ein hunain a Llywodraeth Cymru yn gwella’r ymateb parhaus i anghenion busnes yn ystod y pandemig. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i helpu busnesau ledled Cymru i ail ddechrau ac adfer.”
Dywedodd Max Munday o Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Busnes Caerdydd, un o awduron yr adroddiad: “Mae graddfa a chyflymder yr ymyriadau wedi bod yn ddigynsail ac yn holl bwysig wrth atal effeithiau’r pandemig.
“Ar y cam hwn, mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar ddata gweinyddol ar gyfer pob ymyrraeth ac mae llawer o waith yn dal i fod yn angenrheidiol er mwyn gwerthuso effeithiau'r gefnogaeth.”
“Bydd dadansoddiad pellach yn bwysig i nodi i ba raddau y mae gweithgaredd economaidd wedi cael ei amddiffyn mewn busnesau sy’n masnachu’n rhyngwladol ac i ymddatrys mater cymhleth yr effeithiau sy’n gysylltiedig â Brexit a’r rhai sy’n gysylltiedig â’r dirywiad economaidd.”
Bydd ymchwil DEC yn y dyfodol yn dyfnhau’r ymchwil i effeithiolrwydd ymyriadau'r sector gyhoeddus i gefnogi busnesau yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan y pandemig. Bydd arolwg yn cael ei gomisiynu yn 2021 o sampl o fuddiolwyr CCE i archwilio sut y gwnaeth ymyriadau weithio gyda'i gilydd i amddiffyn cyflogaeth.