Dylai buddsoddwyr angel ymgyfarwyddo â deddfwriaeth newydd

Steve-Holt
Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ecwiti

Steve Holt yw Cyfarwyddwr Angylion Buddsoddi Cymru, rhan o Grŵp Banc Datblygu Cymru. Mae'n esbonio beth mae'r rheolau newydd ar gyfer buddsoddi fel angel yn ei olygu i unigolion gwerth net uchel yng Nghymru.

Mae bron i 20 mlynedd wedi mynd heibio ers i’r Trysorlys ddiweddaru eu meini prawf ddiwethaf ar gyfer buddsoddwyr ‘soffistigedig’ Gwerth Net Uchel hunan-ardystiedig. Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae’r Trysorlys a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (AYA) wedi ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i’r maen prawf hwn gyda’r rheolau newydd yn dod i rym heddiw (Ionawr 31).

Wrth gwrs, ar ôl cyfnod o 20 mlynedd, mae angen y diweddariad i gadw i fyny â byd sy'n newid. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym wedi bod yn ei wylio’n agos yn Angylion Buddsoddi Cymru wrth i ni barhau i fonitro effaith y meini prawf newydd, tra hefyd i annog amrywiaeth a hyrwyddo manteision buddsoddiad angel i entrepreneuriaid ac unigolion gwerth net uchel fel ei gilydd.

Felly, beth mae’r rheolau newydd yn ei olygu i fuddsoddwyr angylion sy’n gweithredu yng Nghymru? Er mwyn cydymffurfio â Deddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000 (DGAM), rhaid i bob unigolyn gwerth net uchel a buddsoddwyr soffistigedig hunan-ardystiedig gwblhau datganiad buddsoddwr wedi’i ddiweddaru a datganiad sy’n adlewyrchu’r meini prawf newydd ar gyfer cael eu hystyried yn ‘fuddsoddwr soffistigedig’. 

I grynhoi, y prif newidiadau yw:

  • cynnydd yn y trothwy incwm blynyddol o £100,000 i £170,000
  • cynnydd yn yr asedau net sydd eu hangen o £250,000 i £430,000 neu fwy (ac eithrio pensiwn neu ecwiti cartref)
  • bod yn Gyfarwyddwr cwmni gyda throsiant o £1.6 miliwn o leiaf yn hytrach nag £1 miliwn.

Gallai'r trothwyon uwch deimlo'n frawychus ac yn heriol i lawer o angylion. Fodd bynnag, mae eithriadau, gan gynnwys y rheini sydd wedi bod yn aelod o rwydwaith o angylion busnes fel Angylion Buddsoddi Cymru neu Angylion Merched Cymru am fwy na chwe mis, a fydd yn dal i fod yn gymwys i gael eu trin fel buddsoddwr soffistigedig hunan-ardystiedig. Gallant felly gwblhau eu datganiad a pharhau i dderbyn cynigion buddsoddi a gwneud buddsoddiadau ecwiti trwy gyfrwng ein platfform digidol.

Yma yn Angylion Buddsoddi Cymru, ein cenhadaeth yw gwneud yn siŵr bod buddsoddwyr yn ymwybodol o reoleiddio’r diwydiant, y polisi a’r cymorth sydd ar gael i fuddsoddi’n effeithiol, gan helpu sylfaenwyr a mentergarwyr yng Nghymru i godi’r arian sydd ei angen arnynt i dyfu a chynyddu eu busnes.

Rydym yn eiriolwyr cadarn dros arfer gorau ac mae gennym ymrwymiad cryf a dyletswydd gofal i'n rhwydwaith buddsoddwyr. Yn wir, rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid technoleg - y cyflenwr platfform Delio - i sicrhau bod gan bob un o'n 300 o fuddsoddwyr angel broses ddi-dor, symlach i ail-lofnodi datganiad y buddsoddwr a chydymffurfio â'r rheoliadau newydd. Clicio botwm syml yw'r cyfan sydd ei angen i ddiweddaru'r manylion ar gyfer buddsoddwyr presennol ac rydym yn annog ein rhwydwaith i wneud hyn.

Gall buddsoddi angel ddod ag enillion ariannol uchel i fuddsoddwyr, ond gall hefyd ddod â risg uchel. Mae'n rhaid i angylion dderbyn nad oes unrhyw warchodaeth gan yr AYA, Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol na Chynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol ac mae posibilrwydd gwirioneddol y gallai buddsoddwr golli'r holl arian a fuddsoddir.

Dyna pam rydym yn canolbwyntio ar wneud buddsoddwyr yn ymwybodol o'r risgiau a chynghori ar y fframwaith rheoleiddio sy'n sail i'r gweithgaredd hwn gan fod hyn yn helpu i amddiffyn yr angel a'r mentergarwyr. Mae dod yn aelod o rwydwaith fel Angylion Buddsoddi Cymru yn cynnig haen ychwanegol o gefnogaeth ac arweiniad; meddyliwch amdano fel rheolaeth ansawdd, rhwyd ddiogelwch sy'n rhoi cyngor ar lywodraethu da, diwydrwydd dyladwy ac arfer gorau'r diwydiant. Yn bwysig, mae aelodaeth hefyd yn darparu cymuned gefnogol a’r cyfle i wneud cysylltiadau â buddsoddwyr eraill ac ehangu llif y bargeinion trwy fuddsoddi fel rhan o syndicet. Mae hyn nid yn unig yn adeiladu gwybodaeth buddsoddwyr ond hefyd yn rhannu risg ariannol.

Mae tuedd gynyddol yn y diwydiant i angylion gronni eu harian a'u profiad trwy fuddsoddi gyda'i gilydd fel syndicet . Er y gall gweithio gydag mentergarwyr uchelgeisiol fod yn gyffrous, fe all bod yn angel hefyd fod yn lle unig a gall buddsoddi ecwiti cam cynnar deimlo’n ddyfaliadol, felly gall cefnogaeth buddsoddwyr o’r un anian mewn rhwydwaith neu syndicet ddarparu cymorth ariannol, ymarferol a moesol hyd yn oed. .

Mae buddsoddiad angel yn ymwneud â mwy nag arian yn unig. Mae angylion yn cynnig profiad busnes go iawn, mentora cyngor a chefnogaeth. Yn gyffredinol, bydd busnesau sy'n derbyn buddsoddiad yn elwa o amser, sgiliau, cysylltiadau a gwybodaeth busnes y buddsoddwr . Yn bersonol, byddwn yn dadlau y gall y cyngor hwn fod yn werth cymaint â’r arian a fuddsoddir.

Mae’r cymorth a roddwn i’n haelodau cofrestredig yn cael ei ategu gan fuddsoddiad ar y cyd sylweddol o’n Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion arloesol Cymru. Mae'n gronfa sydd i bob pwrpas yn dyblu grym tanio buddsoddwyr arweiniol a buddsoddiad syndicet gydag arian cyfatebol ar gyfer ceisiadau a gymeradwyir.

Gall syndicetiau cymeradwy wneud cais am gymorth drwy'r Gronfa Cyd-fuddsoddi Angylion yng Nghymru, sy'n darparu buddsoddiad ecwiti arian cyfatebol i rowndiau ariannu angylion dethol.

Efallai bod y meini prawf ar gyfer rhai agweddau ar fuddsoddi angel fod wedi newid heddiw, ond ni ddylai hynny atal unrhyw un o'n buddsoddwyr presennol nac unigolion gwerth net uchel sy'n ystyried buddsoddiadau mewn busnesau Cymreig yn y dyfodol, oherwydd ni waeth pa mor aml y gallai rheoliadau neu gyfreithiau newid, yr hyn na fydd yn newid yw ein bod ni yma i helpu.

Byddwn yn parhau i roi arweiniad ar ddeddfwriaeth, gan gefnogi a hyrwyddo pob agwedd ar fuddsoddi angylion yng Nghymru tra'n cysylltu busnesau Cymreig o safon sy'n ceisio buddsoddiad preifat â buddsoddwyr gweithredol trwy ein platfform digidol a chyd-gronfa angylion Banc Datblygu Cymru.