Emily May Interiors yn cynnig rhywbeth at ddant pawb gyda gwasanaeth dylunio ceginau newydd

Emily-Wood
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
emily may

Bydd y cwmni Emily May Interiors o Arberth yn arddangos ystod o geginau o safon yn ei ystafell arddangos estynedig. Mae'r stiwdio newydd, sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd, yn ategu cynnyrch presennol y cwmni; gan gynnwys llenni a chysgodlenni, lloriau a dyluniadau mewnol wedi'u teilwra. 

Ar ôl cael microfenthyciad llwybr cyflym gwerth £25,000 gan Fanc Datblygu Cymru, mae'r cwmni'n gallu ehangu ei ystafell arddangos. Mae benthyciadau llwybr cyflym o £1,000 i £5,000 ar gael i fusnesau Cymru ac unig fasnachwyr sydd wedi bod yn gweithredu am ddwy flynedd neu fwy. Gwneir penderfyniadau ar fenthyciadau o fewn dau ddiwrnod busnes a gellir rhyddhau'r arian o fewn ychydig ddyddiau.

Astudiodd Emily Black, perchennog Emily May Interiors, Ymarfer Tecstiliau Cyfoes ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae ganddi dros ddegawd o brofiad fel dylunydd mewnol. Meddai:

“Ers sawl blwyddyn, mae ein cwsmeriaid wedi bod yn gofyn a fyddai modd inni gynnig gwasanaeth ceginau hefyd. Pan ddaeth lle gwag ar gael yn yr uned drws nesaf i'n huned bresennol, roeddem yn gweld hwn fel yr amser perffaith inni ehangu ein stiwdios. Dyna lle y camodd Emily o Fanc Datblygu Cymru i'r adwy gyda benthyciad o £25,000 i brynu'r uned. Roedd yn broses syml a chyflym, ac roedd yr arian gyda ni ymhen ychydig ddyddiau. Dyma'r profiad hawsaf i mi ei gael o ran codi arian ar gyfer y busnes ers i mi lansio Emily May Interiors yn 2014.

“Bydd ein gofod newydd yn arddangos ystod o geginau o safon a rhai wedi'u hadeiladu'n bwrpasol ac mae gennym eisoes ddigon o waith dylunio ceginau i bara tan y Flwyddyn Newydd. Mae gennym geginau sy'n addas ar gyfer pob poced ac rydym wedi gwirioni o weld brwdfrydedd ein cleientiaid presennol a chleientiaid newydd tuag at ein gwasanaethau."

Cafodd y trefniant ei lunio ar ran Banc Datblygu Cymru gan y Swyddog Buddsoddi Emily Wood. Meddai:

“Mae gan Emily fusnes gwych a phoblogaidd yng ngorllewin Cymru. Mae hi'n cael ei hysgogi gan anghenion ei chwsmeriaid a gwasanaethau o ansawdd uchel. Mae'r cwmni'n cynnig gwasanaethau dylunio a gosod o safon uchel, sy'n amlwg o'r galw mawr am ei gynhyrchion. Pan gododd y cyfle i ehangu Emily May Interiors, roeddem yn fwy na pharod  i gefnogi'r cwmni gyda microfenthyciad llwybr cyflym o £25,000. Rydym yn gallu gweithredu'n gyflym i ddarparu cyllid i ganiatáu i gwmnïau, fel Emily May Interiors, fanteisio ar gyfleoedd busnes wrth iddyn nhw godi drwy ein gwasanaeth llwybr cyflym."

I wirio a ydych yn gymwys ac i wneud cais am fenthyciad llwybr cyflym, ewch i bancdatblygu.cymru. Gall busnesau Gorllewin Cymru hefyd anfon e-bost at Emily Wood i gael sgwrs anffurfiol am eu hanghenion cyllid emily.wood@bancdatblygu.cymru 

I ddarganfod mwy am y gwasanaethau a gynigir gan Emily May Interiors neu i drefnu ymgynghoriad dylunio ewch i www.emilymayinteriors.co.uk/