Entrepreneuriaid digidol yn sicrhau £500,000 i roi ysgytwad i'r farchnad prydlesu ceir ar-lein

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Moneyshake

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Moneyshake.

Mae sylfaenwyr gwefan cymharu prisiau arbenigol wedi sicrhau £500,000 o fuddsoddiad cam sbarduno ac maent bellach yn barod i aflonyddu ar farchnad prydlesu ceir y DU.

Mae Moneyshake.com yn helpu pobl i ddod o hyd i'r bargeinion prydlesu gorau yn gyflym trwy gymharu prisiau gan brif ddarparwyr y DU.

Darparwyd y buddsoddiad ecwiti o £500,000 gan Fanc Datblygu Cymru a'r entrepreneur cyfresol Tim Scholes, buddsoddwr preifat sy'n strategydd profiadol proffesiynol.

Mae prydlesu ceir yn parhau i gynyddu mewn poblogrwydd wrth i bobl ddymuno cael ceir newydd yn amlach ac mae prydlesu yn cael ei ystyried fel dyfodol perchnogaeth ceir. Mae prydlesi nodweddiadol yn amrywio rhwng 18 a 36 mis. Rhoddir cerbydau yn ôl i'r darparwyr prydlesu ar ddiwedd contract.

Mae ymchwil gan y British Vehicle Rental and Leasing Association (BVRLA) yn datgelu bod mwy na 5 miliwn o geir ar brydles ar y ffordd yn y DU. Y llynedd, gwelodd y farchnad defnyddwyr ceir y lefel uchaf o dwf yn y sector prydlesu sef 14%.

Ar hyn o bryd mae'r cwmni'n dîm o bedwar gweithiwr ac yn awr maen nhw'n bwriadu ehangu'n sylweddol yn ystod y 12 mis nesaf gan greu ystod o swyddi technoleg, marchnata a rheoli uwch yng Nghymru.

Dywedodd Eben Lovett, Prif Weithredwr Moneyshake:

“Wrth i fwy o bobl droi at brydlesu yn hytrach na phrynu car newydd - tyfu yw'r unig beth y gall ein busnes wneud. Cawsom ymateb gwych gan y gymuned fuddsoddi pan wnaethom gyflawni ein cylch cyllido.”

“Fe wnaethom' ni benderfynu mai’r partner buddsoddi sefydliadol gorau i ni fyddai Banc Datblygu Cymru. Rydym yn ffitio i mewn i'w portffolio presennol yn dda ac mae gennym gemeg gadarnhaol gyda'u tîm. Mae De Cymru yn lleoliad gwych i ni ac mae adnodd gwych y gallwn ei ddefnyddio yma.”

“Yn ogystal â hynny, gyda Tim yn ein cefnogi, mae gennym strategydd proffesiynol hynod o brofiadol ac entrepreneur sy'n meddu ar weledigaeth strategaethol yn rhan o'r tîm. Fel grŵp, rydyn ni'n hyderus bod gennym ni'r tîm iawn i dyfu i fod yn frand digidol llwyddiannus.

“Mae 85  y cant o oedolion yn y DU wedi defnyddio safle cymharu prisiau ac mae defnyddwyr yn gyfarwydd â nhw. Mae ein ffocws ni ar y sector prydlesu ceir yn seiliedig ar ein rhwystredigaethau ein hunain wrth chwilio am fargen dda ar gerbydau prydles. Mae Moneyshake yn agor y dewis ehangaf o opsiynau fel y gall defnyddwyr ddod o hyd i'r fargen iawn ar eu cyfer nhw yn hawdd."

“Ein cynllun yw tyfu brand Moneyshake fe fod pawb yn meddwl amdano yn syth pan fydda’ nhw’n prydlesu ceir. Mae gynno' ni frand gwych, gwefan wych, pobl wych a nawr mae gennym ni'r buddsoddiad yr oedd ei angen arnom i fynd â'r cyfan i'r lefel nesaf."

Ychwanegodd David Blake, o Fanc Datblygu Cymru:

“Mae gan Moneyshake botensial gwirioneddol i fod yn chwaraewr aflonyddgar cadarnhaol nid yn unig yn y sector cymharu prisiau ond yn y farchnad FinTech ehangach. Mae ganddyn nhw weledigaeth ddeinamig sydd â photensial twf gwirioneddol ac uchelgeisiau i gynyddu eu gweithlu yma yng Nghymru. Rydyn ni'n gyffrous ein bod ni'n gweithio gyda'r tîm rheoli ar eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol,”

Gweler www.moneyshake.com.