Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Space Forge.
Mae Space Forge - y sefydliad sy'n arwain y chwyldro gweithgynhyrchu yn y gofod - wedi sicrhau pecyn cyllido gwerth £600k gan Fanc Datblygu Cymru, ochr yn ochr â'r Bristol Private Equity Club ac Innovate UK. Bydd yr arian hwn yn helpu'r cwmni i barhau i ddatblygu eu lloeren weithgynhyrchu y gellir ei hailddefnyddio, yn cynyddu eu capasiti yng Nghasnewydd, Cymru ac ym Mryste a bydd yn adeiladu ar gynlluniau partneriaeth y DU ac Ewrop.
Gweledigaeth Space Forge yw harneisio pŵer y Gofod trwy weithgynhyrchu cynhyrchion perfformiad uchel sy'n amhosibl eu cynhyrchu ar y Ddaear, sy'n gweithio i leihau'r defnydd o ynni ac allyriadau carbon deuocsid. Mae'r micro ddisgyrchiant parhaol a geir yn y gofod yn unig yn galluogi i filiynau o aloion newydd i gael eu gwneud yn rhywbeth a oedd y tu hwnt i gyrraedd dynoliaeth gynt. Trwy ddod â nhw'n ôl i'r Ddaear gallai'r aloion hyn chwyldroi diwydiannau ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth a chyfrifiadura.
Y gobaith yw y bydd y dechnoleg bellgyrhaeddol hon yn y pen draw yn galluogi cynhyrchu yn y gofod i fod yn opsiwn ymarferol ar gyfer yr amrywiaeth o gynhyrchion a fydd yn helpu i greu cymdeithas lân gyfoes a lleihau allyriadau carbon byd-eang yn radicalaidd. Byddai'r lloerennau'n cael eu peiriannu gan gadw'r blaned mewn cof hefyd, fel y lloerennau cyntaf y gellir eu hailddefnyddio a'u hadnewyddu a'u lansio eto, yn hytrach na llosgi yn yr atmosffer.
Er mai bwriad Space Forge yw bod y llafur caled yn digwydd yn y Gofod, mae'r cwmni'n creu swyddi gyda'r cyllid newydd. Mae'r cyd-sylfaenwyr, Joshua Western ac Andrew Bacon yn bwriadu ymuno â 10 aelod newydd o'r tîm ar draws Casnewydd a Bryste i ddatblygu'r prosiect lloeren i sefyllfa addas ar gyfer lansio profol.
Bydd Space Forge yn gweithio gyda phartneriaid Ewropeaidd a Rhyngwladol, ond mae'n canolbwyntio ar wneud cymaint â phosibl yn y DU i leihau olion traed carbon, gyda'r gobaith yn y dyfodol o lansio, adnewyddu a dychwelyd lloerennau i gyd o fewn y DU.
Dywedodd Joshua Western, cyd-sylfaenydd Space Forge: “Mae'n anhygoel ein bod wedi cael yr arian hwn ar adeg mor dyngedfennol i'n cwmni. Bydd y ddau fuddsoddiad yn ein helpu i greu swyddi yn ein technolegau allweddol ar draws ein sylfaen yng Nghymru a'n hwb newydd ym Mryste. Bydd yr arian hwn yn ein helpu i gyflymu datblygiad technolegau beirniadol a chynnal profion allweddol. Mae angen cymaint o gefnogaeth â phosibl arnom ac rydym yn chwilio am fuddsoddwyr ar gyfer cyfleoedd yn y dyfodol. Pwy sydd eisiau dod i'r gofod hefo ni?”
Dywedodd Catherine Mealing-Jones, Cyfarwyddwr Twf yn UKSA: “Gyda rhwydweithiau cymorth, cyfleoedd cyllido a chyngor busnes ar gael ledled y wlad, mae sector gofod y DU yn lle gwych i fusnesau newydd fel Space Forge dyfu a chreu swyddi sgiliau uchel.
“Bydd y buddsoddiad newydd hwn yn helpu Space Forge i ddatblygu technolegau gofodol newydd arloesol i wella prosesau gweithgynhyrchu yma ar y Ddaear. Mae'n enghraifft wych arall o sector gofod masnachol ffyniannus y DU, sy'n cyflogi 42,000 o bobl ac yn cynhyrchu £14.8bn i'r economi.”
Ac yntau wedi'i sefydlu yn y Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yng Nghasnewydd - man cychwyn ar gyfer arloesedd yn y DU - bu Space Forge yn archwilio opsiynau cyllido yn nes at adref i ddechrau, gan weithio gyda Banc Datblygu Cymru a The Bristol Private Equity Club.
Dywedodd David Blake, Swyddog Buddsoddi Technoleg ym Manc Datblygu Cymru: “Mae ymrwymiad Space Forge i gynaliadwyedd o’r gofod allanol yn ddull eithriadol o arloesol o ddatrys anghenion byd-eang. Mae tîm Space Forge mewn sefyllfa ddelfrydol i chwarae rhan ddylanwadol yn natblygiad y sector hwn dros y blynyddoedd i ddod. Bydd ein buddsoddiad ecwiti trwy gyfrwng Cronfa Sbarduno Technoleg Cymru yn helpu'r busnes i ddatblygu ei dechnoleg a chreu swyddi medrus iawn yn y Ganolfan Arloesi Catapwlt CSA yng Nghasnewydd.”
Dywedodd Jerry Barnes, sylfaenydd Bristol Private Equity Club: “Dyma'r union fath o fusnes arloesol a mentergarol y mae ein haelodau yn chwilio amdano. Gallwn weld bod ganddo'r potensial i fod yn hynod lwyddiannus a newid y byd. Dim ond tri busnes yn y byd sy'n gweithio ar hyn ac mae'r ffaith mai Bryste yw'r canolbwynt yn Ewrop yn hynod o gyffrous.
“Cyflwynodd Space Forge eu syniadau i’n haelodau ac roedd 12 ohonyn nhw eisiau cymryd rhan. Ymhlith y rhai sy'n buddsoddi mae Peter Stirling o Stirling Dynamics a Rupert Atkinson, sydd ill dau wedi gweithio gyda busnesau technoleg sydd wedi dechrau o'r newydd a bydd yn ychwanegu arbenigedd gwych i'r prosiect.”