Grŵp Gwyddonol Hafren yn cwblhau Caffaeliad X-Ray Mineral Services

Stewart-Williams
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
hafran

Mae Grŵp Gwyddonol Hafren sy'n seiliedig yn y Trallwng wedi sicrhau eu trydydd buddsoddiad gan y Banc Datblygu Cymru ers 2015 gyda benthyciad o £200,000 i ran-ariannu caffaeliad X-Ray Mineral Services.

Fel arbenigwyr ym maes dadansoddi mwynegol a chemegol, mae X-Ray Mineral Services yn arbennig o weithgar yn y Dwyrain Canol gyda sylfaen o gleientiaid sy'n cynnwys yr holl gwmnïau olew cenedlaethol yn y rhanbarth. Wedi'i leoli ym Mae Colwyn gyda chleientiaid hefyd yn rhychwantu'r sectorau geodechnegol, amaethyddiaeth ac ailgylchu, mae'r tîm o 11 arbenigwr yn gwneud gwaith allanol i drydydd parti ar gyfer Hafren yn rheolaidd. Bydd y caffaeliad yn galluogi Hafren i greu canolfan dechnoleg olew a nwy ‘siop un stop’ a sylfaen i ddatblygu dadansoddeg arloesol ar gyfer marchnadoedd mwyngloddio, amgylcheddol a gwyrdd newydd.

Dywedodd Tim Pearce, Rheolwr Gyfarwyddwr Hafren Scientific Group: “Mae'r caffaeliad hwn yn ychwanegu sawl cydran bwysig i'n cynnig geowyddoniaeth amlddisgyblaethol yn ogystal â galluogi ein gallu i arallgyfeirio i ddarparu gwasanaeth nad yw'n olew a nwy.“

Fel busnes, credwn fod data o ansawdd uchel wrth wraidd datrysiadau daearegol cadarn. Mae ein llwyddiant parhaus yn y diwydiant cyffrous hwn yn seiliedig ar ein hymrwymiad i ansawdd ac nid oes gennym unrhyw amheuaeth y bydd integreiddio gallu dadansoddol X-Ray Mineral Services a'i staff medrus iawn yn gwella ymhellach ein gallu i barhau i arloesi wrth ddarparu data cost-effeithiol i'n cleientiaid.

 “Mae cefnogaeth barhaus Banc Datblygu Cymru wedi bod yn hanfodol i’n llwyddiant gyda chyllid hyblyg, cyflym a chost-effeithiol sydd wedi gwneud byd o wahaniaeth i’n gallu i fynd i'r afael â chyfleoedd newydd o ddifri.”

Dywedodd Stewart Williams, Swyddog Portffolio gyda Banc Datblygu Cymru: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cymryd rhan weithredol yn nhwf Hafren dros y pedair blynedd diwethaf. Yr arian diweddaraf hwn yw ein trydydd buddsoddiad yn y busnes ac mae'n dyst i'n hyder yn eu huchelgais a'u gweledigaeth twf.

“Gyda chefnogaeth ein Cyfarwyddwr Anweithredol ein hunain, Doctor Carol Bell fel Cadeirydd, mae'r busnes yn perfformio'n eithriadol o dda a dymunwn bob llwyddiant iddynt gyda'r caffaeliad hwn sy'n cryfhau Gogledd Orllewin Cymru ymhellach fel canolbwynt twf i'r sector daearegol.”

Daeth yr arian o Gronfa Busnes Cymru sy'n cael ei ariannu'n rhannol gan yr ERDF trwy gyfrwng Llywodraeth Cymru. Fe’i crëwyd yn benodol i gefnogi busnesau sydd â llai na 250 o weithwyr wedi’u lleoli yng Nghymru a’r rheini sy’n barod i symud i Gymru.