Gwaith yn dechrau ar gam dau o gartrefi ecogyfeillgar yng Nghaerfyrddin

Rob-Good
Swyddog Datblygu Eiddo
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Twf
Marchnata
Cynaliadwyedd
Maes y Teirw

Mae Mentrus Developments wedi dechrau gwaith ar gam dau o 'Maes y Teirw', datblygiad preswyl o 21 o gartrefi ecogyfeillgar ar safle hen ganolfan bridio gwartheg ger Caerfyrddin sydd wedi'i ariannu'n rhannol gan fenthyciad saith ffigur gan y Fanc Datblygu Cymru.

Mae'r safle tir llwyd 2.2 erw yn cynnwys cymysgedd o 17 o gartrefi pum a phedair ystafell wely ynghyd â 4 eiddo fforddiadwy tair ystafell wely. Mae gan bob un baneli solar a phympiau gwres ffynhonnell aer i sicrhau'r effeithlonrwydd ynni gorau posibl.

Gyda chysylltiadau trafnidiaeth da ac ystod o amwynderau lleol, mae Maes y Teirw yn boblogaidd gyda theuluoedd a chymudwyr fel ei gilydd. Mae cam cyntaf yr eiddo bellach bron wedi'i gwblhau gyda dau wedi'u gwerthu yn ddarostyngedig i gontract. Mae gwaith ar ail gam y datblygiad ar y gweill a disgwylir i osodiadau mewnol gael eu cwblhau yn ystod gaeaf 2024/25.

Maes y Teirw yw datblygiad preswyl cyntaf Mentrus Developments, cwmni a sefydlwyd gan y Cyfarwyddwyr Matthew Watkins, Philip Mann a Richard Phillips. Dywedodd Matthew Watkins: “Y cyfieithiad llythrennol o Faes y Teirw yw ‘The Bulls Field’ ac mae ein dewis o enw yn bwysig gan ei fod yn adlewyrchu etifeddiaeth a hanes y tir.

“Fel ein datblygiad preswyl cyntaf, roeddem yn chwilio am bartner ariannu a oedd yn adnabod yr ardal leol, a gymerodd yr amser i ddeall ein model busnes ac a allai fodloni ein hamserlenni ar gyfer datblygu i wneud y mwyaf o amser adeiladu yn ystod misoedd yr haf. Gwnaeth y Banc Datblygu bobeth o fewn eu gallu i sicrhau fod pethau wedi’u cwblhau yn gyflym ac esmwyth. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth.”

Mae Rob Good yn Swyddog Datblygu Eiddo gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “Rydym yn gweithio gyda datblygwyr yng Nghymru i ddarparu’r cyllid sydd ei angen arnynt i ddatblygu cartrefi cynaliadwy ac ynni-effeithlon o ansawdd da lle mae eu hangen fwyaf. Gyda manylebau uchel a gorffeniad rhagorol, bydd Maes y Teirw yn cynnig cyfle i brynwyr elwa ar fywyd modern wedi’i amgylchynu gan gefn gwlad yn agos at ganol tref Caerfyrddin.”

Daeth y benthyciad ar gyfer Mentrus Developments o £5 4.5 miliwn Cronfa Eiddo Cymru II. Wedi’i ariannu’n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru, mae benthyciadau rhwng £150,000 a £6 miliwn ar gael i ddatblygwyr bach a chanolig sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, sy’n gweithio ar brosiectau datblygu preswyl, defnydd cymysg a masnachol yng Nghymru.