Gweddnewid cartref #carwyrcoffi

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
coffi co

Mae carwyr coffi yn mwynhau profiad newydd ym Mae Caerdydd wedi i siop Cei Mermaid Coffi Co. gael ei hadnewyddu a'i ehangu.

Mae buddsoddiad chwe ffigur yn Coffi Co yng Nghei Mermaid yn cynnwys benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru. Mae'r allfa boblogaidd sy'n addas i deuluoedd a chŵn bellach yn un o'r siopau coffi mwyaf yng Nghymru.

Ymhlith y gwelliannau mae llawr mesanîn newydd yn cael ei osod ac ardal eistedd a decin y tu allan sy'n cynnwys lle ar gyfer 120 o westeion. Mae’r gwaith adnewyddu'r gofod mewnol yn cynnwys ychwanegu llawr mesanîn newydd ac mae’n golygu bod y capasiti mewnol yn cynyddu i 150 o leoedd.

Maen nhw ar agor 364 diwrnod o'r flwyddyn, ac fe sefydlwyd Coffi Co yn 2014. Agorodd y siop gyntaf mewn dau gynhwysydd cludo ym Mhorth Teigr ym Mae Caerdydd. Bellach mae tîm o 50 aelod o staff ar draws pum safle gan gynnwys siop wreiddiol Porth Teigr, Cei Mermaid, Cathays, Marina Penarth a Porthcawl.

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Justin Carty: “O'r diwrnod cyntaf, rydym wedi canolbwyntio ar adeiladu busnes sy'n cyfuno’r cynhwysion allweddol o gael lleoliad gwych sy'n cael ei sbarduno gan hamdden, awyrgylch croesawgar a'r coffi gorau un. Rydym yn awyddus i barhau â'n strategaeth dwf trwy ganolbwyntio ar wella ac ehangu ein cynnig yn barhaus mewn lleoliadau newydd sy'n cael eu sbarduno gan hamdden ar draws De Cymru.

“Nid dim ond y niferoedd oedd yr unig ystyriaeth wrth i ni ddewis y partner buddsoddi cywir. Roeddem eisiau partner buddsoddi a oedd yn lleol, sy'n deall yr hyn rydyn ni'n ei gynnig ac sydd wirioneddol ots ganddyn nhw am lwyddiant tymor hir ein busnes. Mae'r tîm ym Manc Datblygu Cymru yn ticio'r holl flychau hynny a mwy. Rydyn ni'n falch iawn o gael eu cefnogaeth ac rydyn ni'n ddiolchgar eu bod nhw eisiau gweithio gyda ni wrth i ni dyfu."

Mae Matthew Wilde yn Swyddog Buddsoddi Cynorthwyol gyda Banc Datblygu Cymru. Ychwanegodd: “Mae Coffi Co yn cynnig coffi o safon mewn lleoliad sy’n arddangos Cei Mermaid a rei orau, ac mae’n lle perffaith i weithio, i gymdeithasu a chwrdd â chydweithwyr, ffrindiau a theulu. Mae Justin wedi ymrwymo i sicrhau bod ei fusnes yn darparu profiad gwych i gwsmeriaid, ac mae'n ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn sicrhau bod y safon hon yn gyson ar draws ei bum siop.

“Bydd y gwaith adnewyddu ar safle Cei Mermaid yn gwella'r cyfleusterau a'r profiad i gwsmeriaid, ac yn creu llwyfan cyffrous i adeiladu ar frand Coffi Co a'i ddatblygu ymhellach. Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi Justin yn ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth unigryw o ansawdd i gwsmeriaid ledled De Cymru.”

Mae'r buddsoddiad wedi dod o Gronfa Busnes Cymru a ariennir yn rhannol gan yr ERDF, trwy Lywodraeth Cymru ac a sefydlwyd i gefnogi busnesau sydd â llai na 250 o weithwyr, wedi'u lleoli yng Nghymru neu'n barod i symud yma.