Gwely a Brecwast ym Metws y Coed i ddechrau bywyd newydd fel hostel gyda buddsoddiad ecwiti gan Fanc Datblygu Cymru

Scott-Hughes
Uwch Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Marchnata
Dechrau busnes
Base Camp Snowdonia

Bydd tŷ llety wedi’i leoli yn amgylchedd hyfryd Parc Cenedlaethol Eryri yn dod yn hostel wedi’i anelu at anturiaethwyr sy’n crwydro gogledd Cymru, diolch i fuddsoddiad ecwiti gwerth £500,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae Bryn Llewelyn, gwely a brecwast 9 ystafell wely ger Betws y Coed, Conwy, wedi cael ei droi’n hostel 38 gwely ar ôl cael ei brynu gan Rowern Wong, mynyddwr profiadol a datblygwr eiddo. 

Ar ôl treulio blynyddoedd lawer yn ymweld â gogledd Cymru, roedd Rowern yn awyddus i sefydlu busnes a brand newydd a fyddai’n cynnig gwasanaeth da a chyson i bobl eraill sy’n ymweld â’r ardal am bris fforddiadwy. Bydd yr hostel, o’r enw Base Camp Snowdonia, yn cynnig llety dros nos i ymwelwyr.

Cwblhawyd y gwaith adnewyddu gyda chymorth contractwyr lleol, ac mae Rowern yn awyddus i sicrhau bod yr holl gynnyrch sy’n cael ei gynnig yn Base Camp Snowdonia yn dod o ffynonellau lleol – o’r sebon yn yr ystafelloedd ymolchi i’r diodydd yn y bar.

Cafodd y gwaith o brynu’r tŷ llety ei gefnogi gan fuddsoddiad ecwiti gan y Banc Datblygu, drwy Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, gyda Rowern a’i gyd-fuddsoddwyr yn ariannu’r gwaith adnewyddu ar gyfer yr hostel newydd.

Dywedodd Rowern: “Mae gen i ddiddordeb personol cryf ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Rydw i wrth fy modd gyda’r awyr agored fy hun, ac roeddwn i eisiau darparu llety modern, cyfforddus a fforddiadwy er mwyn i bawb allu mwynhau tirwedd anhygoel gogledd Cymru.

“Mae gan Fetws y Coed fynediad anhygoel at drafnidiaeth gyhoeddus, ar y trên ac ar y bws, ac rydyn ni’n annog ein gwesteion i ddefnyddio’r rhain cymaint â phosibl. Mae hynny’n bwysig iawn o ran cynaliadwyedd, ac mae’n caniatáu i ni – fel mae ein henw’n awgrymu – ddarparu gwersyll cychwyn i bobl sy’n awyddus i grwydro nid yn unig Dyffryn Conwy, ond harddwch naturiol gogledd Cymru yn ehangach.”

Ychwanegodd: “Roedd y gefnogaeth a gawsom ni gan y Banc Datblygu yn wych. Roedd yr arbenigedd a’r gefnogaeth leol a ddangoswyd gan Scott Hughes yn bwysig iawn i ni; mae ei wybodaeth am yr ardal a busnesau lleol wedi bod yn amhrisiadwy.”

Dywedodd Scott Hughes, Uwch Swyddog Gweithredol Buddsoddi ym Manc Datblygu Cymru: “Gwelwyd cyfle gwych gan Rowern i brynu ac adnewyddu’r hen Fryn Llewelyn, ac mae’r gwaith y mae o a’i dîm wedi’i wneud yn Base Camp Snowdonia yn drawiadol iawn. Rydyn ni yma i gefnogi entrepreneuriaid fel Rowern wrth iddyn nhw weld cyfleoedd newydd yn economi Cymru, a chreu swyddi lletygarwch newydd. 

“Fel hostel gyfeillgar wedi’i harwain gan ddylunio, bydd Base Camp Snowdonia yn ganolfan wych i ymwelwyr ag Eryri o bob rhan o’r DU a’r tu hwnt, ac yn cynnig gwasanaeth da a dibynadwy am bris y gall ymwelwyr ei fforddio.”