La Crème Patisserie yn symud i eiddo mwy pwrpasol yng Nghwmbrân

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
La Creme Patisserie bakery

Mae busnes patisserie gwobrwyedig, La Crème Patisserie, wedi caffael adeilad newydd ger Casnewydd wedi iddynt gael benthyciad gwerth £500,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Mae'r symudiad i'r adeilad 11,000 tr sgwâr, sydd wyth gwaith yn fwy nag eiddo La Crème ym Maglan, yn digwydd wrth i'r cwmni baratoi ar gyfer contract newydd. Byddant yn cyflenwi cacennau, pwdinau a the prynhawn i Ganolfan Confensiwn Rhyngwladol Cymru (ICCW) sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd yng Ngwesty'r Celtic Manor sydd ychydig y tu allan i Gasnewydd.

Mae'r buddsoddiad gan y banc datblygu eisoes wedi arwain at greu pedair swydd newydd, a disgwylir i nifer y staff gynyddu ymhellach i 30 dros y 6-18 mis nesaf.

Sefydlwyd y busnes 11 mlynedd yn ôl gan y rheolwr gyfarwyddwr Sian Hindle, sef y cydlynydd creadigol dawnus a chrefftus y tu ôl i'r llwyddiant. Graddiodd Sian gyda gradd mewn economeg cartref a gweithiodd i Tesco yn Llundain am nifer o flynyddoedd ar ddatblygu cynnyrch newydd.

Ar ôl cymryd seibiant gyrfa a symud yn ôl i Gymru, cwblhaodd Sian gwrs patisserie yng Ngholeg Castell-nedd Port Talbot, daeth yn ail mewn cystadleuaeth pâtissier y flwyddyn ar draws y DU cyfan ac fe agorodd siop gacennau yng Nghastell-nedd a ddatblygodd a thyfu i fod yn La Crème Patisserie.

Roedd y cwmni wedi tyfu'n rhy fawr i'w safle ym Maglan ac roedd angen symud eu prif gynnyrch i safle mwy. Mae'r safle newydd yn ddigon mawr i gynnwys cyfleuster di-glwten a Fegan achrededig a fydd yn ddatblygiad cyffrous i'r cwmni ac fe fydd yn caniatáu i La Crème gynyddu eu cynhyrchiant dros chwe gwaith yn fwy dros y tair blynedd nesaf o tua 20,000 o gacennau bob wythnos i 120,000.

Mae'r cwmni, sydd wedi bod yn masnachu o Bort Talbot ers 11 mlynedd, wedi gwneud enw yn y maes patisserie gan gyflenwi ei gynhyrchion gorau un i Balas Hampton Court, Palas Kensington a Gerddi Kew, ac i leoliadau chwaraeon mawr a digwyddiadau fel Gŵyl Cheltenham.

Dywedodd gŵr a phartner busnes Sian, Ian Hindle, sy'n ymdrin â gwerthiannau, cyfrifon a dosbarthu: “Mae Sian yn enghraifft arweiniol wych i ferched mewn busnes, yn enwedig fel un sydd wedi cael seibiant gyrfa i ofalu am blant ac yna mynd yn ôl i weithio. Mae ei syniadau a'i hegni yn ein gyrru ymlaen.

“Bydd y benthyciad gan y banc datblygu yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r cwmni. Ddeunaw mis yn ôl fe gysylltodd Cyfarwyddwr Coginiol y Celtic Manor â ni ac fe ddywedodd y byddai ganddynt angen sylweddol am gacennau, pwdinau, te prynhawn a theisennau bore ar gyfer y ganolfan gonfensiwn newydd.

“Roeddem wedi gweithio â nhw o'r blaen, ac roeddem yn gwybod bod angen safle gweithgynhyrchu newydd, mwy arnom i ddiwallu eu hanghenion. Mae'r safle hwn yng Nghwmbrân ychydig funudau o'r Celtic Manor felly mae'n strategol berffaith.

“Nawr bod gennym yr adeilad newydd, mae gennym gapasiti mwy i gadw stoc a chapasiti rhewgellol mwy. Wrth symud ymlaen, hoffem wasanaethu mwy o stadiymau a digwyddiadau ac erbyn hyn mae gennym y cyfleusterau i allu mynd i'r afael â'r contractau mwy hyn.”

Dywedodd Stephen Galvin, Uwch Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Roedd La Crème Patisserie eisoes mewn sefyllfa gref, gyda rhestr gleientiaid fawreddog. Fodd bynnag, wrth i anghenion cleientiaid dyfu, mae angen i fusnesau fod yn hyblyg er mwyn iddyn' nhw eu hunain dyfu. Mae symud i'r safle newydd yng Nghwmbrân wedi bod yn garreg filltir gyffrous a chanolog i'r cwmni ac mae'n dangos sut y gall cael gafael ar gyllid drwy'r banc datblygu helpu i gyflymu datblygiad.”

Mae'r buddsoddiad wedi dod o Gronfa Busnes Cymru a ariennir yn rhannol gan yr ERDF, trwy Lywodraeth Cymru ac a sefydlwyd i gefnogi busnesau sydd â llai na 250 o weithwyr, wedi'u lleoli yng Nghymru neu'n barod i symud yma.

Fe'i cynlluniwyd i ddarparu benthyciadau busnes a phecynnau ecwiti o £50,000 hyd at £2 filiwn, ac mae'n cefnogi busnesau newydd, busnesau bach a chanolig sefydledig a mentrau technoleg cyfnod cynnar ar draws ystod eang o sectorau.

Mae'n darparu cyllid prosiect tymor byr a chyllid twf tymor hwy, yn ogystal â buddsoddiad dilynol a chyfalaf gweithio ychwanegol.