Lloyd’s yn lansio datrysiad yswiriant waled cudd-arian newydd ar gyfer Coincover

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Lloyd's.

Mae Lloyd’s wedi lansio polisi yswiriant newydd i warchod cudd-arian a gedwir mewn waledi ar-lein rhag lladrad neu haciau maleisus o fathau eraill.

Cafodd polisi atebolrwydd cyntaf o'i fath, sydd â therfynau hyblyg o gyn lleied â £1,000, ei greu gan Atrium, syndicâd Lloyd’s ar y cyd â Coincover er mwyn amddiffyn rhag colledion sy’n deillio o ddwyn cudd-arian a gedwir mewn waledi poeth ar-lein.

Mae'n fath newydd o bolisi yswiriant atebolrwydd gyda therfyn deinamig sy'n cynyddu neu'n gostwng yn unol â newidiadau prisiau asedau cudd. Mae hyn yn golygu y bydd yr yswiriwr bob amser yn cael ei indemnio am werth sylfaenol eu hased hyd yn oed os yw hyn yn amrywio dros gyfnod y polisi.

Cefnogir y polisi gan banel o yswirwyr eraill Lloyd's, sy’n cynnwys TMK a Markel, pob un ohonynt yn aelodau o Gyfleuster Arloesi Cynnyrch Lloyd's (a adwaenir yn aml fel PIF).

Fel rhan o uchelgais Future at Lloyd’s i fod y llwyfan yswiriant digidol mwyaf cwsmer-ganolog y byd, mae'r Cyfleuster yn gam pwysig tuag at adeiladu marchnad sy'n cynnig gwell gwerth ar gyfer anghenion newidiol ac amrywiol cwsmeriaid trwy gynhyrchion a gwasanaethau rheoli risg hynod o flaengar ac ymatebol.

Dyma'r ail gynnyrch yswiriant newydd i gael ei gefnogi gan aelodau PIF yn ystod y misoedd diwethaf. Cafodd y cyntaf – sef polisi gwarchod elw ar gyfer gwestai sydd â sbardun arloesol yn seiliedig ar ddigwyddiadau – ei lansio ym mis Medi.

Dywedodd Matthew Greaves, Tanysgrifennwr, Atrium:

“Mae galw cynyddol am yswiriant a all warchod cudd-arian wrth iddo ddod yn fwy a mwy poblogaidd. Mae’n dyst i Lloyd’s bod y farchnad wedi llunio datrysiad arloesol i liniaru’r risgiau newydd hyn ac amddiffyn rhag lladrad - rhag claddgelloedd corfforol yn ogystal ag ar-lein - a thrwy hynny rhoi tawelwch meddwl i gwsmeriaid bod eu hasedau’n ddiogel.”

Dywedodd David Janczewski, Prif Weithredwr, Coincover:

“Rydym yn falch iawn ein bod wedi gweithio gydag Atrium ac aelodau Lloyd’s PIF i ddod â datrysiad mor unigryw ac amserol i’r farchnad asedau cudd. Wrth i'r farchnad asedau cudd gynhesu eto ar ddechrau 2020, mae ton newydd o gwsmeriaid cudd-chwilfrydig yn sefyll o'r neilltu yn barod i neidio i mewn, ar ôl cael eu digalonni o'r blaen gan ddiffyg gwarchodaeth ddigonol rhag lladrad a cholled. Gyda'r polisi newydd arloesol hwn, gallwn gael gwared ar y rhwystrau hyn ac ehangu apêl yr elfen gudd-ariannol. Mae'n cynrychioli cam arall ymlaen wrth alluogi mabwysiadu cudd-arian.”

Dywedodd James Gadbury, Uwch Frocer, Prospect, y brocer yswiriant a weithiodd gydag Atrium a Coincover i greu'r polisi:

“Rydym yn falch iawn ein bod wedi darparu’r yswiriant newydd hwn i Coincover, sy’n dangos ysbryd arloesol a mentergarol Lloyd’s. Credwn y dylai Prospect a’r farchnad yswiriant ehangach gefnogi’r sector hwn sy’n datblygu’n gyflym wrth iddo symud i’r brif ffrwd.”

Ychwanegodd Trevor Maynard, Pennaeth Arloesi gyda Lloyd’s:

“Wrth i fwy o arian lifo i’r farchnad cudd-asedau, mae colledion yn sgil hacio ar gynnydd. Serch hynny, mae cwmnïau cudd-arian wedi dod o hyd i ffyrdd o warchod eu hasedau digidol rhag lladrad a, thrwy weithio'n agos gyda thanysgrifenwyr Lloyd's, i yswirio colledion sy'n llithro trwy'r rhwyd.

“Lloyd’s yw’r cartref naturiol ar gyfer arloesi yswiriant oherwydd gallu unigryw syndicetau i gydweithio i yswirio pethau newydd. Rwy’n falch iawn bod ein Cyfleuster Arloesi Cynnyrch - sydd bellach â bron i £150 miliwn o gapasiti a 27 o danysgrifenwyr, yn darparu llwybr cyflym i gynyddu capasiti yswiriant ar gyfer risgiau anodd ac anodd eu hyswirio.”