Llwyddiant cyllidol triphlyg i Ickle Bubba wrth i’r cwmni agor pencadlys newydd yn Abertawe

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Nursery room with white furniture

Mae cwmni sydd wedi ennill gwobrau am gynnyrch babanod ffasiynol a fforddiadwy wedi sicrhau ei drydydd buddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru i helpu i dalu am y gwaith o’i adleoli i Barc Menter Abertawe. 

Sefydlwyd Ickle Bubba yn 2013 gan y gŵr a gwraig Fran a Veronica Vaughan, ac mae wedi sicrhau twf tri digid olynol ym mhob un o’r pedair blynedd diwethaf. Mae’r cymorth diweddaraf gan y Banc Datblygu yn dilyn dau fuddsoddiad cynharach a wnaed yn 2017 a 2019. Roedd y benthyciadau hyn yn ategu’r cyfleusterau presennol ac yn cael eu defnyddio i hybu twf y busnes a chreu 56 o swyddi dros y pedair blynedd diwethaf. 

Mae’r cwmni sy’n tyfu’n gyflym bellach wedi symud o Bonthenry, Llanelli i Atlantic House - canolfan ddosbarthu 45,000 troedfedd sgwâr sy’n gartref i 64 o staff, gan gynnwys Paul Thomas, a benodwyd yn ddiweddar yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau Cwsmeriaid.

Mae cynnyrch Ickle Bubba yn cynnwys seddi ceir, cadeiriau gwthio, dodrefn meithrinfa ac, yn fwyaf diweddar, deunydd ar gyfer addurno meithrinfeydd. Mae’r system deithio sy’n gwerthu orau yn cynnwys pecynnau ‘popeth mewn un’ amrywiol sy’n addas o enedigaeth y plentyn hyd at dair oed. Mae’r cynnyrch yn cael eu cynhyrchu yn Tsieina ac yna’n cael eu cludo’n uniongyrchol i ganolfannau dosbarthu cwsmeriaid a warws Ickle Bubba cyn cael eu gwerthu drwy rwydwaith o fannau gwerthu ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Smyths, Asda a manwerthwyr annibynnol.

Mae’r gwobrau amrywiol mae Ickle Bubba wedi eu hennill yn cynnwys gwobr aur Loved by Parents 2021 am y gadair wthio orau dros £300, y system deithio orau dan £500 a’r gadair wthio ysgafn orau. Enillodd y cwmni hefyd y wobr blatinwm am y sedd car aml-oedran orau.

Dywedodd Fran Vaughan, y Rheolwr Gyfarwyddwr: “Mae ein hymchwil yn dangos bod rhieni’n chwilio am gynnyrch cyfoes ffasiynol am brisiau realistig a fforddiadwy. Fel rhieni ein hunain, gallwn uniaethu’n uniongyrchol â’r hyn mae ein cwsmeriaid yn chwilio amdano, ac rydym wedi canolbwyntio ar hynny yn ein model busnes.

“Cynnyrch wedi eu cynllunio’n wych a chymorth ôl-ofal yw’r cyfuniad arbennig sy’n sail i’n llwyddiant. Mae hon yn farchnad gystadleuol iawn, gyda rhai enwau cyfarwydd wedi hen ymsefydlu, felly rydyn ni wedi gorfod gweithio’n galed i dreiddio i’r farchnad gyda chynnyrch newydd. 

“Gan fod Banc Datblygu Cymru yn un o’n partneriaid cyllido, rydyn ni wedi gallu trawsnewid ein busnes newydd yn frand rhyngwladol llwyddiannus mewn pedair blynedd yn unig.  Mae cael y cyfalaf gweithio ychwanegol wedi golygu ein bod ni wedi gallu buddsoddi yn y pethau pwysig a thyfu’n gyflym. Yn allweddol, rydyn ni’n gwybod bod gennym ni le yn awr i ehangu i’n pencadlys blaenllaw newydd wrth i ni ddatblygu rhagor ar ein cynnyrch a’n sianeli gwerthu ledled y Deyrnas Unedig.”

Ychwanegodd Dave Perez, Uwch Weithredwr Portffolio Banc Datblygu Cymru: “Mae Ickle Bubba yn prysur feithrin enw da fel brand fforddiadwy a steilus sydd wedi ennill gwobrau, ac sy’n gwneud magu plant yn haws gan fod y cwmni yn deall anghenion rhieni newydd. Mae’r busnes yn gweithredu rhwng pen isaf a chanol y farchnad, ac mae wedi tyfu’n gyflym mewn marchnad gystadleuol iawn sy’n werth tua £50 biliwn y flwyddyn.

“Roedden ni’n falch iawn o gael cefnogi Ickle Bumba am y tro cyntaf yn 2018 fel busnes bach newydd. Mae ein benthyciadau dilynol o Gronfa Fusnes Cymru wedi cefnogi twf cynaliadwy hirdymor ar adeg pan mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein busnesau cynhenid. Bydd llwyddiant busnesau bach a chanolig uchelgeisiol ac arloesol fel Ickle Bumba yn chwarae rhan hollbwysig yn ein gallu i adfer ar ôl Covid-19. Yn awr yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol bod y busnesau hyn yn gallu elwa ar gymorth hirdymor a mynediad cyflym at yr arian sydd ei angen arnynt i fanteisio ar gyfleoedd twf; gan greu a diogelu swyddi yn ein cymunedau lleol.”

Daeth y cyllid ar gyfer Ickle Bubba o Gronfa Fusnes Cymru sy’n cael ei chyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Cafodd ei chreu’n benodol i gefnogi busnesau sydd â llai na 250 o weithwyr yng Nghymru, a’r rhai sy’n fodlon symud i Gymru, gyda benthyciadau a phecynnau ecwiti rhwng £50,000 a £2 filiwn.