Diweddariad pwysig: mae angen cwblhau pob cais erbyn 9am 18 Medi 2025 os ydych chi am ddefnyddio ein system ymgeisio bresennol. Darganfod mwy.

Llywodraeth Cymru yn nodi cenhadaeth ar gyfer economi fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
giles thorley and ken skates

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Llywodraeth Cymru.

Wrth i Gymru barhau i lywio heriau niferus coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru yn nodi sut y bydd yn gweithio i ailadeiladu economi Cymru fel ei bod yn fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach nag erioed o'r blaen.

Mae hyn yn cynnwys darparu £270 miliwn yn ychwanegol i gefnogi busnes drwy Fanc Datblygu Cymru. Gan weithredu ochr yn ochr â chyfres o gymorth arall gan y Banc Datblygu, mae hyn yn fuddsoddiad mawr mewn cyllid hygyrch i fusnesau a bydd yn helpu cwmnïau o Cymru i ganolbwyntio ar eu llwyddiant hirdymor.

Heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Chenhadaeth Cadernid Economaidd ac Ad-drefnu sy'n nodi sut y bydd yn gweithio i ailadeiladu economi ôl-COVID-19 Cymru fel ei bod yn gwerthfawrogi ac yn blaenoriaethu lles, yn sbarduno ffyniant, yn amgylcheddol gadarn, ac yn helpu pob person yng Nghymru i wireddu ei botensial.

Bydd y daith yn nodi'r gwerthoedd a'r blaenoriaethau fydd yn llywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru nawr ac yn y dyfodol, fel bod pobl, busnesau a chymunedau Cymru yn cael eu cefnogi i lwyddo a ffynnu.

Mae'r blaenoriaethau'n cynnwys cryfhau sectorau bob dydd economi Cymru, cynyddu nifer yr achosion o waith teg ledled Cymru ac adfywio canol ein trefi.

Canolbwyntir hefyd ar gefnogi cwmnïau i arloesi ac arallgyfeirio, cyflymu datgarboneiddio busnesau a buddsoddi mewn seilwaith sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi £270 miliwn yn ychwanegol ar gyfer Cronfa Buddsoddi Hyblyg Banc Datblygu Cymru, gan ddod â'r cyfanswm a fuddsoddwyd drwy'r gronfa hon i £500 miliwn erbyn 2030. Bydd rhoi hwb i'r gronfa yn gwella'r cyflenwad o gyllid busnes hirdymor, hygyrch ac yn helpu mwy o gwmnïau i dyfu ac ehangu. Gall y gronfa wneud buddsoddiadau dyled ac ecwiti o rhwng £25,000 a £10 miliwn, gan gynnwys benthyciadau 15 mlynedd, i BBaChau a’r rhai nad ydynt yn BBaChau.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

"Mae’r flwyddyn ddiwethaf yma wedi bod yn hynod o anodd i bawb ac er bod ein gwaith hanfodol i frwydro yn erbyn y feirws yn mynd yn ei flaen, mae'n bwysig ystyried beth sy'n dod nesaf.

"Mae gennym gyfle i edrych i'r dyfodol ac ail-greu'r economi gyda'r nod sylfaenol o sicrhau lles hirdymor gydag urddas a thegwch i bobl.

"Byddwn yn gwneud hyn drwy gryfhau'r economi bob dydd, cyflawni ein Hymrwymiad Covid i gefnogi pobl i wella sgiliau a chael gwaith, a thrwy helpu busnesau i ymateb i heriau a chyfleoedd heddiw ac yfory. Byddwn hefyd yn gwneud y mwyaf o fuddsoddiad cynaliadwy yng Nghymu ac yn sicrhau ein bod yn ceisio gwneud gwaith teg a gwerth cymdeithasol gyda busnesau a sefydliadau sy'n derbyn arian cyhoeddus.

"Bydd y cyllid ychwanegol o £270 miliwn i'r Banc Datblygu yn cefnogi busnesau ar hyd a lled Cymru, gan greu a diogelu miloedd o swyddi i unigolion wrth i ni geisio delio â heriau hirdymor Covid a Brexit."

Fel rhan o'r daith, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud y mwyaf o fuddsoddiadau mawr yn y dyfodol drwy 'brosiectau magned', a fydd yn denu buddsoddiadau tymor hwy ac yn darparu cyfleoedd cyflogaeth, sgiliau ac arloesi a datblygu pwysig.

Bydd ymrwymiad COVID-19 Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw effaith y pandemig yn gadael neb ar ôl a bod pob cyfle posibl i bobl ailhyfforddi ac uwchsgilio mewn ardaloedd newydd a thwf uchel.

Bydd y Contract Economaidd hefyd yn cael ei adnewyddu a'i gryfhau gan helpu busnesau i ymgorffori gwaith teg, carbon isel a gwydnwch yn yr hinsawdd yn eu gweithrediadau.

Ychwanegodd y Gweinidog:

"Mae gennym weledigaeth glir, foesegol a chydlynol ar gyfer cydnerthedd ac ailadeiladu economaidd sydd wedi'i hangori ar gyfiawnder cymdeithasol a chydag ymrwymiad y bobl, y cymunedau a'r busnesau sy'n rhan o'n heconomi, gwn y gallwn lwyddo i adeiladu economi a dyfodol ffyniannus a theg sy'n gweithio'n well i bawb."

Dywedodd Ian Price, Cyfarwyddwr CBI Cymru:

"Y nod o sicrhau economi gystadleuol a chynaliadwy sy'n codi safonau byw, yn hyrwyddo cyflog uwch, ac yn darparu'r refeniw sydd ei angen arnom i gefnogi blaenoriaethau cyhoeddus yw'r un cywir i Gymru.

"Ond ni all Llywodraeth Cymru wneud hynny ar ei phen ei hun. O hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant i wella iechyd meddwl, hyrwyddo ymddygiad gwyrdd i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf; rhaid i fusnesau barhau i fod yn bartneriaid gwirioneddol i'r llywodraeth. Ar eu gorau, mae busnesau yn beiriannau cynnydd fydd yn chwarae rhan hollbwysig wrth oresgyn y pandemig ac adeiladu economi well yng Nghymru.

"Mae ffynonellau ychwanegol o gyllid hygyrch i'w croesawu ac maent yn fuddsoddiad pwysig yng nghymuned fusnes Cymru, un a fydd yn cael ei ad-dalu drwy swyddi, twf ac, yn y pen draw, yn darparu Cymru fwy ffyniannus."

Gan adeiladu ar y Genhadaeth Cydnerthedd ac Ad-drefnu Economaidd, bydd Llywodraeth Cymru yn lansio Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru yn ddiweddarach yr wythnos hon Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru: Fframwaith Gweithredu sy'n nodi'r camau sydd eu hangen i ddatblygu sector gweithgynhyrchu gwydn, gwerth uchel ar gyfer economi Cymru yn y dyfodol.