Mae Banc Datblygu Cymru yn dathlu helpu 900 o ferched busnes ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched 2020

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Mae Banc Datblygu Cymru bellach wedi gweithio gyda dros 900 o ferched sy'n ymwneud â pherchnogaeth cwmnïau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys busnesau newydd a sefydlwyd gan ferched yn y sectorau bio-wyddoniaeth a thechnoleg meddalwedd, timau allbrynu o dan arweiniad merched ar draws nifer o sectorau gan gynnwys gweithgynhyrchu, marchnata a manwerthu.

Ymhlith y cwmnïau diweddar a gefnogwyd gan y Banc Datblygu mae manwerthwr ffasiwn Modest Trends yng Nghaerdydd, a dderbyniodd fenthyciad meicro o £12,000 i agor siop newydd. Mae Forth, busnes o Gas-gwent yn creu proffiliau biomarcwyr personol gan ddefnyddio citiau profi gwaed gartref, a dderbyniodd fuddsoddiad ecwiti o £250,000 i gefnogi marchnata a masnacheiddio ymhellach. A chwmni gofal croen artisan gogledd Cymru Bathing Beauty, a fenthycodd £45,000 i ehangu eu hadeiladau manwerthu yn Sir Ddinbych.

Gyda 54% o reolwyr yn fenywod, mae'r Banc Datblygu wedi dod yn gyflogwr cofrestredig FairPlay yn ddiweddar gyda'r elusen cydraddoldeb, Chwarae Teg. Yn ddiweddar maent wedi derbyn Gwobr Arian Chwarae Teg.

Mae Rheolwr Ymchwil a Phartneriaeth Banc Datblygu Cymru Sian Price hefyd yn aelod o grŵp cynghori Cefnogi Merched Mentergarol Llywodraeth Cymru. Meddai: “Yn ystod Diwrnod Rhyngwladol y Merched rydym am ddathlu’r miloedd o ferched a'r mentergarwyr busnes talentog ledled Cymru. Rydyn ni wedi cael y pleser o gefnogi merched uchelgeisiol sy'n arwain cwmnïau o ystod enfawr o sectorau. O feddalwedd i biowyddorau, cyfathrebu, manwerthu, cyfanwerthu, eiddo a gwasanaethau proffesiynol. I enwi ond ychydig. Rydym yn credu mewn gweithlu amrywiol, sy'n cynrychioli uchelgeisiau ac anghenion pobl Cymru, ac rydym yn falch o wneud hynny trwy weithio gyda channoedd o ferched o Gymru i dyfu eu busnesau. Rydym hefyd yn credu mewn buddsoddi yn ein pobl ein hunain ac rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn y Wobr Arian yn ddiweddar gan Chwarae Teg am ein gwaith ar gydraddoldeb rhywiol yn ein sefydliad ein hunain.”