Mae Banc Datblygu Cymru yn gosod y sylfaen ar gyfer mwy o swyddi newydd a buddsoddi mwy nag erioed o’r blaen

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Cenydd Rowlands

Mae’r galw am gyllid preswyl a masnachol yn arwain at Fanc Datblygu Cymru yn buddsoddi mwy nag erioed o’r blaen mewn datblygu eiddo.  Adroddodd y Banc Datblygu am fenthyciadau gwerth £48.8 miliwn ar gyfer 37 o fuddsoddiadau datblygu eiddo yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021. Mae hyn yn gynnydd o 43% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol gyda chymorth wedi’i roi ar gyfer 402 o gartrefi newydd a 70,892 troedfedd sgwâr o ofod masnachol.

Y cyfarwyddwr Cennydd Rowlands, sy’n arwain y tîm o swyddogion gweithredol sy’n arbenigo mewn buddsoddi mewn eiddo. Mae’r tîm wedi ehangu’n ddiweddar o 14 i 18 ar draws Cymru ar ôl penodi pedwar swyddog gweithredol buddsoddi mewn eiddo newydd i ymateb i’r cynnydd yn y galw am gyllid.  Gyda’i gilydd, maent yn rheoli cronfa gwerth £157 miliwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys £30 miliwn ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a ychwanegwyd at y cronfeydd a reolir ar ddechrau 2021. 

Mae’r cronfeydd hyn yn cynnwys Cronfa Eiddo Cymru sy’n werth £47 miliwn a Chronfa Eiddo Masnachol Cymru sy’n werth £55 miliwn ynghyd â’r Gronfa Safleoedd Segur sy’n werth £55 miliwn. Gellir ailgylchu’r cyfan sawl gwaith.

Mae’r cynigion diweddar wedi cynnwys benthyciad datblygu eiddo saith ffigur i helpu Abbey Construction i adeiladu 10 tŷ pâr tair ystafell wely yn yr Ystog, Sir Drefaldwyn. 

Dywedodd Jason Price, Cyfarwyddwr Abbey Construction: “Helpodd y benthyciad gan dîm eiddo Banc Datblygu Cymru i roi hwb i’n datblygiad safon uchel, Ridgeway View. Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi sicrhau prynwyr ar gyfer yr holl gartrefi – a’r rhan fwyaf drwy’r cynllun Cymorth i Brynu – Cymru. Rydyn ni’n frwd dros ddarparu llety y mae mawr ei angen, wedi’i adeiladu yn unol â’n safonau llym, yn yr ardal ac rydyn ni’n edrych ymlaen at bartneriaeth barhaus gyda’r Banc Datblygu.” 

Yn Nhredelerch, Caerdydd, mae Propco Developments Limited wedi cwblhau ail gam Parc Busnes Waterside, ac mae pob un o’r wyth uned wedi’u gosod neu eu gwerthu’n llwyr erbyn hyn. 

Mae cam dau yn cael ei ariannu’n rhannol gan fenthyciad chwe ffigur gan y Banc Datblygu, ac mae’n safle gwerth £1.5 miliwn sy’n cynnwys wyth uned ddiwydiannol. Mae chwech wedi cael eu gwerthu i feddianwyr sy’n cynnwys Richard Kemble Ceilings, Puma Floors ac Absolute Performance gyda dwy uned wedi cael eu gosod ar brydlesi deng mlynedd. 

Dywedodd James Coombs, Rheolwr Gyfarwyddwr Propco Development: “Mae safleoedd masnachol o’r math hwn yn aml yn cael eu datblygu ar sail ddamcaniaethol, felly mae ceisio sicrhau cyllid yn gallu bod yn heriol. Roedd hyn, ynghyd â heriau ychwanegol Covid-19, yn golygu y gallai’r safle hwn fod wedi dod i stop yn hawdd oni bai am gefnogaeth y Banc Datblygu. Ar ben hynny, roedd cyflymder y newid yn hynod o ddefnyddiol, sy’n golygu ein bod yn gallu bwrw ymlaen â’r gwaith ar y safle yn ddi-oed.”

Dywedodd y Cyfarwyddwr, Cennydd Rowlands: “O adeiladau preswyl unigol untro i ddatblygwyr mwy fel Lewis Homes a datblygiadau mwy cymhleth gydag adeiladau rhestredig fel Woodlands House ym Malpas, rydyn ni’n cynnig cymaint o gefnogaeth â phosibl i’r sector eiddo ledled Cymru.

“Mae’r cyfuniad o adael yr Undeb Ewropeaidd ac effaith economaidd Covid-19 yn golygu bod datblygwyr yn wynebu heriau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen gyda’u cadwyni cyflenwi a chostau eu deunyddiau. Mae ein tîm arbenigol yn deall yr heriau hyn ac yn gallu gweithio gyda datblygwyr i greu dull wedi’i deilwra, gyda hyblygrwydd i gynnig telerau hwy os oes angen. Yn bwysig iawn, gall ein harian fynd ymhellach oherwydd gellir ail-fuddsoddi’r holl arian a dderbynnir o’n buddsoddiadau mewn rhagor o gynlluniau eiddo. Mae hyn yn cynyddu ein heffaith heb fod angen arian ychwanegol.

“Mae ein cefnogaeth i Barc Busnes Waterside Propco yn enghraifft wych o’r gwahaniaeth y gall ein cyllid ei wneud. Mae’r cynllun bellach yn llawn ac mae ein benthyciad wedi’i ad-dalu’n llawn mewn dim ond wyth mis, gan ein galluogi i ail-fuddsoddi’r arian er budd datblygwyr yn y dyfodol. Yn wir, rydyn ni’n gweld cynnydd yn y galw am gyllid mwy damcaniaethol ar gyfer swyddfeydd a datblygiadau diwydiannol llai.

Mae’r prinder cyflenwad a’r ffaith fod mwy nag erioed yn ymgeisio erbyn hyn wedi cael cryn sylw ar ben mwyaf y raddfa, ond mae hyn yn rhywbeth rydyn ni’n ei weld ar draws y farchnad, yr holl ffordd i lawr i unedau bychan dan glo.  Mae gan rai o’n datblygwyr restrau aros hir o ddarpar brynwyr/tenantiaid, sy’n golygu y gallent werthu neu osod eu cynlluniau gorffenedig sawl gwaith drosodd mewn sawl achos.

“Mae’r galw am adeiladau masnachol newydd o ansawdd da yn sicr ar gynnydd yng Nghymru, ac mae hyn wedi creu cyfle i ddatblygwyr bach, lleol ac rydyn ni’n parhau i gynnig cymorth drwy ein cronfeydd datblygu pwrpasol. Boed yn ddatblygiad preswyl neu fasnachol, rydyn ni yma ac yn barod i sicrhau’r cytundebau sydd eu hangen ar ddatblygwyr i roi eu prosiectau ar waith.”

Mae Banc Datblygu Cymru yn buddsoddi mewn datblygiadau preswyl, defnydd cymysg a masnachol drwy Gronfa Eiddo Cymru, Cronfa Eiddo Masnachol Cymru a’r Gronfa Safleoedd Segur. Mae’r cynlluniau hyn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn rhai y gellir eu hailgylchu ac mae’r arian a dderbynnir yn cael ei ailfuddsoddi. Mae benthyciadau rhwng £150,000 a £5 miliwn ar gael i ddatblygwyr bach a chanolig eu maint yng Nghymru, sy’n gweithio ar brosiectau datblygu preswyl, defnydd cymysg a masnachol yng Nghymru.  

Be' nesaf?

Gwnewch ymholiad cychwynnol drwy ein ffurflen cysylltu â ni a gallwn ddechrau trafod eich opsiynau.

Cysylltu â ni