Mae benthyciad llwybr cyflym o £10,000 yn cyflawni ar gyfer busnes o Gas-gwent

Emily-Wood
Swyddog Buddsoddi
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
keep calm couriers

Mae Keep Calm Couriers yng Nghas-gwent wedi cael benthyciad o £10,000 gan Fanc Datblygu Cymru i gynyddu ei weithrediadau ledled y DU, Iwerddon ac Ewrop.

Sefydlodd Neale Parker Keep Calm Couriers fel unig fasnachwr ym mis Ebrill 2017. Mae'r cwmni bellach yn dosbarthu popeth o ddogfennau cyfrinachol sensitif i fwydydd darfodus mwy pan fo angen eu cludo dan amodau rheoledig.

Gwnaeth Neale gais am fenthyciad llwybr cyflym trwy'r Banc Datblygu i'w helpu i gadw i fyny â'r twf yn ei fusnes. Ers derbyn y benthyciad, mae o wedi gallu prynu mwy o faniau, cyflogi gyrwyr llawrydd newydd a recriwtio aelodau ychwanegol o staff i ateb y galw am ei wasanaethau.

Y llynedd, cyflwynodd y Banc Datblygu sawl gwelliant i’w gwneud yn haws i fusnesau gael y cyllid sydd ei angen arnynt, gan gynnig gwasanaeth cyflym, symlach sy’n caniatáu iddynt ddatgloi buddsoddiad mawr ei angen ar gyfer costau cychwynnol, megis talu gwariant cyfalaf a phrynu stoc.

Mae benthyciadau llwybr cyflym ar gael i fusnesau sydd wedi bod yn masnachu am ddwy flynedd neu fwy ac fe ddaw gyda llai o waith papur ac fe wneir penderfyniadau yn gyflymach, gyda rhai penderfyniadau'n cael eu gwneud mewn 48 awr.

Meddai Neale: “I lawer o fusnesau, yn enwedig rhai bach, gall sicrhau llif arian sylweddol fod y rhan anoddaf. Fe wnaeth y buddsoddiad gan y Banc Datblygu fy ngalluogi i ehangu o fod yn fusnes un dyn un fan i bum fan a gyrwyr ychwanegol mewn ychydig fisoedd. Roeddwn hefyd yn gallu llogi cyfrifydd rhan-amser a lansio gwefan newydd a gwell.

“Roedd yr adnoddau ychwanegol hyn yn golygu fy mod i wedi cael fy nhynnu oddi ar y ffordd i ganolbwyntio ar ennill busnes newydd a thyfu fy sylfaen cwsmeriaid.

“Roedd y broses micro fenthyciad yn syml ac effeithlon iawn. Gyda chymorth Swyddog Buddsoddi'r Banc Datblygu, roeddwn i'n gallu nodi pa becyn fyddai orau ar gyfer fy anghenion a oedd yn golygu fy mod i’n gallu ymlacio rhywfaint."

Dywedodd Emily Wood, Swyddog Buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru: “Dyma enghraifft wych o fenthyciad llwybr cyflym yn helpu masnachwyr annibynnol lleol i wireddu eu potensial. Mae'r buddsoddiad hwn i Neale wedi cael effaith fawr ar ei fusnes eisoes trwy greu cyfleoedd cyflogaeth a chynyddu'r fflyd yn Keep Calm Couriers.”

Mae Cronfa Micro Fenthyciadau Cymru yn werth £16.2m, ac mae'n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru, mae'n darparu micro fenthyciadau o gyn lleied â £1,000 hyd at £50,000 ac mae wedi'i dargedu at fusnesau bach, unig fasnachwyr a mentrau cymdeithasol yng Nghymru.