Mae Bwrdd Aparito yn penodi Dr Hall fel Cadeirydd

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Yn dilyn llwyddiant cau rownd fuddsoddi yn gynharach yn y flwyddyn, mae Aparito wrth ei fodd yn croesawu Dr Hall ar y Bwrdd.

Mae Dr Hall yn Feddyg ac yn Uwch Reolwr profiadol iawn, sydd wedi treulio sawl blwyddyn yn y maes Ymarfer Meddygol, ac yna mae ganddo 35 mlynedd o brofiad fel Cyfarwyddwr cwmnïau Fferyllol mawr a Sefydliadau Ymchwil Clinigol.

Meddai'r Prif Weithredwr, Dr Elin Haf Davies:

 "Rydw i wrth fy modd bod John wedi cael ei benodi. Mae'n dod â chyfoeth o brofiad i'r rôl ac mae o'n ymuno ar amser allweddol i ehangu ar ein llwyddiant hyd yn hyn. Bydd ei brofiad clinigol a masnachol cyfunedig yn hynod o werthfawr i ni."

Dywedodd Dr John Hall:

"Mae'n anrhydedd i mi ac 'rwy'n gyffrous fy mod wedi cael gwahoddiad i fod yn Gadeirydd Bwrdd Aparito. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i weithio gyda'r tîm i'w helpu i gyflawni hyd yn oed mwy o lwyddiant yn y dyfodol."

Dywedodd Dr Phil Barnes, Swyddog Buddsoddi Mentrau Technoleg gyda Banc Datblygu Cymru:

"Mae penodiad Dr. Hall ar y Bwrdd yn amserol ac yn allweddol i dwf y cwmni. Bydd ei arbenigedd yn y sector yn amhrisiadwy i Aparito ar adeg gyffrous i'r cwmni arloesol hwn yng Nghymru."

Bydd John yn ymgymryd â'r rôl ar unwaith.