Mae Coincover - y platfform sy'n darparu gwasanaethau cyflenwi ac adfer arian cyfred crypto - wedi codi dros $9m yng Nghyfres A o dan arweiniad Element Ventures

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Coincover

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Coincover.

  • Mae Coincover yn adeiladu safon ddiogelwch y byd ar gyfer arian cyfred crypto, gan gynnig y warchodaeth rhag dwyn arian cyfred crypto cyntaf a thechnoleg o radd filwrol i adfer mynediad at gronfeydd coll
  • Gyda chymaint ag 20% o bitcoin y byd wedi cael ei golli o ganlyniad i wallau dynol, mae platfform Coincover yn amddiffyn defnyddwyr crypto a buddsoddwyr rhag lladrad, gwallau defnyddiwr a methiant seilwaith
  • Ar ôl lansio'r cynnyrch y llynedd, mae Coincover yn gweithio gyda chwmnïau gan gynnwys BitGo, Curv a Fireblocks i ddarparu eu platfform arloesol 'plug-and-play' i filiynau o ddarpar ddefnyddwyr terfynol
  • Gyda gwarchodaeth gan Coincover, nid yw colli gliniadur neu ffôn clyfar bellach yn golygu colli buddsoddiadau crypto gwerth miliynau o ddoleri
  • Nod Coincover yw darparu'r diogelwch a'r sicrwydd sydd eu hangen i sefydlu arian cyfred crypto fel safon ariannol fyd-eang
  • Mae'r cwmni wedi codi $9.2 miliwn gan fuddsoddwyr gan gynnwys Element Ventures i dyfu'r tîm ac i fuddsoddi yn y cynnyrch fel y gall gefnogi mwy o'r farchnad

 

Coincover - mae'r platfform sy'n darparu gwarchodaeth sy'n arwain y diwydiant a gwarantau wedi'u cefnogi gan yswiriant ar gyfer buddsoddwyr arian cyfred crypto - heddiw yn cyhoeddi ei fod wedi codi $9.2 miliwn yng nghyllid Cyfres A gan fuddsoddwyr fintech a crypto blaenllaw. Arweiniodd London’s Element Ventures y rownd gyda chyfranogiad gan DRW Venture Capital, CMT Digital, Avon Ventures[1], Valor Equity Partners, FinTech Collective, Susquehanna Private Equity Investments, LLLP, Volt Capital a'r buddsoddwyr sefydlu, Insurtech Gateway Fund a Banc Datblygu Cymru.

Adeiladu'r safon diogelwch ar gyfer arian cyfred crypto

Fe'i sefydlwyd ym mis Mai 2018, ac mae Coincover yn adeiladu safon diogelwch y byd ar gyfer arian cyfred crypto. Mae gwasanaethau’r cwmni yn sicrhau nad yw defnyddwyr a busnesau byth yn colli mynediad at gronfeydd arian cyfred crypto oherwydd gwall defnyddiwr, busnes neu fethiant seilwaith. Trwy gyfuno technoleg uwch a gwarantau wedi'u cefnogi gan yswiriant, mae Coincover yn darparu opsiynau adfer ar ôl trychineb a pharhad busnes ar gyfer busnesau arian cyfred crypto ac yn galluogi defnyddwyr i fynd i mewn i'r farchnad gyffrous hon yn ddiogel.

Mae platfform 'plug-and-play' Coincover yn cyfuno polisi a warantir gan 'Lloyd’s of London' â thechnoleg a grëwyd gan arbenigwyr ar draws y llywodraeth, yn y maes milwrol a gorfodaeth y gyfraith. Mae'n rhoi mynediad at wybodaeth hanfodol wrth gefn yn ddiogel ac adfer allweddi preifat gyda phrotocolau diogelwch o safon y Llywodraeth a gwarant wedi'i gefnogi gan yswiriant pe bai lladrad, twyll, gwall defnyddiwr neu fethiant busnes yn digwydd. Mae cwmnïau crypto yn ymgorffori platfform Coincover yn eu cynnig, gan roi tawelwch meddwl i'w cwsmeriaid pan fyddant yn buddsoddi ac yn masnachu arian cyfred crypto.

Wrth i'r diddordeb mewn arian cyfred crypto dyfu, gyda mwy na 100 miliwn o ddefnyddwyr crypto byd-eang yn ôl Crypto.com, mae graddfa'r problemau posibl yn cynyddu hefyd. Yn nodweddiadol, mae arian cyfred crypto yn cael ei gadw mewn waledi digidol, wedi'i warchod gan allweddi preifat, neu mewn, waledi oer all-lein, a allai fod yn waled bapur, USB neu yriant caled. Os collir waled oer, neu os yw buddsoddwr yn anghofio ei allwedd breifat, gellir colli mynediad at y darnau arian digidol am byth. Amcangyfrifir bod tua 20% o'r holl bitcoins un ai ar goll neu'n anghyrraeddadwy mewn waledi na ellir cael mynediad atynt - sy'n cyfateb i $806bn ar hyn o bryd. Yn union fel cyfrifon banc rheolaidd, gellir hacio waledi crypto hefyd. Yn 2020 yn unig, haciwyd 122  ar apiau datganoledig, cyfnewidfeydd arian cyfred crypto a waledi bloc gadwyn, a arweiniodd at golli oddeutu $3.78bn.

Adeiladwyd Coincover i amddiffyn rhag ac i atal y materion hyn, gan sicrhau y gall mwy o bobl fuddsoddi mewn arian cyfred crypto gyda mwy o ddiogelwch a sicrwydd nad ydynt yn colli eu buddsoddiadau os ydynt yn colli cyfrinair neu allwedd breifat. Mae'r elfen Storio Allwedd Diogel yn golygu bod Coincover yn creu allweddau wrth gefn brys all-lein ar gyfer waledi, wedi'u storio all-lein, wedi'u hamgryptio'n llawn, ac mae'r amlygiad i'r rhwydwaith yn sero er mwyn atal hacwyr rhag eu targedu. Mae'r Warant Diogelu Adnau yn amddiffyn waledi cwsmeriaid hyd at werth $1 miliwn rhag ofn y bydd busnes yn methu neu petai systemau yn methu yn drychinebus. Ac mae nodwedd monitro ac ymwybyddiaeth cyfrifon Coincover yn cadw llygad am unrhyw fygythiadau i gyfrifon.

Eisoes mae cannoedd o gwmnïau'n defnyddio platfform Coincover, gan gynnwys darparwyr waledi BitGo, Curv a Fireblocks, gyda miliynau o ddarpar ddefnyddwyr terfynol yn cael eu gwarchod trwy ei dechnoleg. Nid yw colli gliniadur neu ffôn clyfar bellach yn golygu colli gwerth miliynau o ddoleri o fuddsoddiadau crypto.

Gwella mynediad at fuddsoddi crypto

Yn yr un modd ag y mae defnyddwyr yn prynu yswiriant teithio pan fyddant yn archebu gwyliau, mae Coincover eisiau sicrhau y gall pawb gael gafael ar yswiriant pan fyddant yn buddsoddi mewn arian cyfred crypto. Trwy gynnig ei blatfform 'plug-and-play' ar gyfer apiau a phlatfformau buddsoddi crypto, gall buddsoddwyr brynu a gwerthu dros 200 o wahanol ddarnau arian o wahanol blatfformau a waledi a gwybod os yw Coincover yn eu gwarchod yna mae eu buddsoddiad yn ddiogel. Mae hyn yn helpu i leihau'r risg sy'n gysylltiedig â buddsoddi arbedion ar ffurf crypto ac mae'n golygu bod penawdau am bobl â dau ddyfaliad ar ôl i ddatgloi 'bitcoin' gwerth $240m yn rhywbeth oedd yn digwydd yn y gorffennol yn unig.

Trwy leihau’r risg sy’n gysylltiedig ag arian cyfred crypto, mae Coincover yn anelu at ddemocrateiddio mynediad i’r diwydiant, rhoi’r dewis i bobl fuddsoddi yn y diwydiant hwn sy'n tyfu ac yn y pen draw, creu’r safon ddiogelwch sydd ei hangen i sefydlu arian cyfred crypto fel safon ariannol fyd-eang.

Er mwyn pweru hyn, mae Coincover wedi codi $9.2 miliwn yng nghyllid Cyfres A. Arweiniodd Element Ventures y rownd honno, ynghyd â chyfranogiad gan DRW Venture Capital, CMT Digital, Avon Ventures, Valor Equity Partners, FinTech Collective, “Susquehanna Private Equity Investments, LLLP”, Volt Capital a’r buddsoddwyr sefydlu, Insurtech Gateway Fund a’r Banc Datblygu Cymru. Defnyddir yr arian i yrru ymwybyddiaeth o'r cynnyrch sy'n cynnig a thyfu'r tîm fel y gall Coincover gefnogi mwy o'r farchnad crypto.

Dywedodd David Janczewski, Cyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr Coincover: “Gall crypto fod yn gymhleth ac yn ddryslyd ac mae gan bobl ofnau dilys ynghylch diogelwch eu cronfeydd. Gyda Coincover, rydym yn darparu bloc adeiladu sylfaenol ar gyfer marchnad sy'n aeddfedu'n gyflym trwy sicrhau y gellir amddiffyn pobl rhag gwneud camgymeriad a all gostio miloedd iddynt yn y pen draw. Mae'r buddsoddiad hwn yn golygu y gallwn gynyddu graddfa ein twf yn gyflym yn unol â gofynion y farchnad a defnyddwyr, ac wrth wneud hynny sicrhau y gall mwy o bobl fuddsoddi mewn arian crypto yn ddiogel.”

Dywedodd Michael McFadgen, Partner yn Element Ventures: “Mae mwy a mwy o bobl yn buddsoddi mewn arian cyfred crypto ond mae angen seilwaith a mesurau diogelwch ar y diwydiant i'w wneud yn fwy cyfeillgar i ddefnyddwyr. Nid yw pobl eisiau bod mewn sefyllfa lle maent yn colli eu gliniaduron a chanfod fod miliynau wedi mynd ar goll. Mae Coincover yn adeiladu'r isadeiledd a fydd yn caniatáu i crypto gyrraedd sefyllfa lle'i mabwysiedir ar sail dorfol, gyda thîm rheoli gwych a all fynd i'r afael â'r broblem hon mewn ffordd na all unrhyw un arall. Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi David a'r tîm ac ni allwn aros i fod yn rhan o'u taith twf."

Dywedodd Kim Trautmann, Head o DRW Venture Capital: “Fel buddsoddwr cynnar mewn asedau crypto, mae wedi bod yn amlwg i ni y byddai cyfleoedd aruthrol i fusnesau newydd blaengar ddatblygu cynhyrchion sy'n cefnogi esblygiad yr ecosystem. Mae Coincover wedi gosod ei hun mewn sefyllfa i arwain wrth ddatrys un o'r problemau mwyaf cyffredin: sut i amddiffyn mynediad at waledi a'r arian sydd ynddynt. Rydym yn gyffrous ein bod yn gwneud y buddsoddiad hwn ac yn gweithio ochr yn ochr â thîm arweinyddiaeth o safon fyd-eang Coincover i godi ymwybyddiaeth ychwanegol ynghylch y materion hyn.”

Dywedodd Sean Lippel, Pennaeth Asedau Digidol yn FinTech Collective: “Mae'r profiad allwedd preifat yn dal i fod yn rhywbeth sy'n rhy anghyfarwydd, beichus, a llawn risg i ddefnyddwyr crypto prif ffrwd. Wrth i asedau digidol geisio gynyddu graddfa'r sawl sy'n ei fabwysiadu o filiynau i gannoedd o filiynau o ddefnyddwyr, bydd y datrysiad gwarchodaeth 'ticio'r bocs' blaendal a lladrad a gynigir gan Coincover yn elfen hanfodol. Rydym yn gyffrous i gefnogi tîm technegol mor dalentog allan o'r DU gyda strategaeth farchnata B2B2C strategol a fydd yn galluogi ceidwaid ar sail fyd-eang.”

Dywedodd Soona Amhaz, Partner Cyffredinol yn Volt Capital: Un o'r heriau mwyaf yn ein diwydiant yw gwarchodaeth crypto, a Coincover yw'r tîm i'w ddatrys. Mae Coincover yn adeiladu seilwaith critigol i helpu i gael defnyddwyr a sefydliadau yn fwy cyfforddus gyda'r patrwm ariannol newydd hwn. Rydyn ni'n falch iawn o gefnogi David a gweddill tîm arweinyddol Coincover."


[1]Cronfa cyfalaf menter yw Avon Ventures sy'n gysylltiedig â FMR LLC, rhiant-gwmni Fidelity Investments

Be' nesaf?

Cysylltwch â'n tîm buddsoddiadau mentrau technoleg ymroddedig i gael gwybod mwy.

Cysylltwch â'n tîm