Mae cwmni Diagnostig Alergedd Bwyd y DU, Reacta Biotech wedi codi £1.25m i barhau â chynlluniau ehangu

Michael-Bakewall
Dirprwy Pennaeth Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Rydyn ni'n rhannu straeon trydydd parti perthnasol ar ein gwefan ni. Ysgrifennwyd a chyhoeddwyd y datganiad hwn gan Reacta.

  • Mae Reacta Biotech wedi codi £1.25m i sicrhau trwydded safle ‘MHRA’
  • Ar ôl ei gyflawni, bydd y drwydded yn galluogi i’w Ddiagnostig Her Bwyd Geneuol alergedd bwyd gael ei ddatblygu ar raddfa sylweddol
  • Buddsoddwyr Presennol y rownd hon yw Moulton Goodies Limited, Banc Datblygu Cymru ac Acceleris
  • Mae'r gwaith codi arian yn cael ei frocera gan y cynghorwyr arweiniol, Acceleris Capital

 

Heddiw mae Reacta Biotech wedi cyhoeddi y bydd ei gylch cyllido mwyaf hyd yma wedi cael ei gwblhau, ac fe godwyd £1.25m o gyllid ecwiti - ac fe ddisgwylir buddsoddiad pellach yn ystod y misoedd nesaf.

Mae Reacta yn gwmni biotechnoleg yng Ngogledd Cymru sy'n cynhyrchu citiau diagnostig ar gyfer alergedd bwyd. Mae achosion o alergedd bwyd ac achosion o bobl yn gorfod mynd i mewn i ysbytai yn gysylltiedig ag alergedd yn parhau i godi'n fyd-eang a hynny ar raddfa frawychus. Ffocws craidd Reacta yw gwella diagnosis a rheolaeth alergeddau trwy ddarparu Her Bwyd Geneuol (HBG) gradd fferyllol, sef y safon aur ar gyfer profi clinigol alergedd bwyd.

NId yw mesur gwrthgyrff IgE penodol ar gyfer alergeddau bwyd, naill ai trwy brofion croen neu waed yn fanwl gywir, ac mae yna lawer o bositifau ffug trwy gyfrwng y dull hwnnw, ac nid yw'n darparu unrhyw fesur o ran difrifoldeb yr adwaith alergaidd. Yr Her Bwyd Geneuol yw'r safon aur ar gyfer diagnosis alergedd bwyd, cyn dechrau therapïau tymor hir newydd, ac ar gyfer asesu ymateb i driniaeth.

Tynnwyd y buddsoddiad i lawr gan fuddsoddwyr presennol, y rheolwyr, Moulton Goodies Limited, Banc Datblygu Cymru ac Acceleris Capital. Mae'r cwmni wedi cael cyngor gan Acceleris Capital a Gateley.

Defnyddir y cyfalaf a godir i sicrhau cymeradwyaeth yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (“a adwaenir yn gryno fel yr MHRA”) ar gyfer cyfleuster gweithgynhyrchu'r Cwmni yng Nglannau Dyfrdwy, Gogledd Cymru. Mae sicrhau trwydded safle MHRA (a ddisgwylir yn ystod y misoedd nesaf) yn rhoi statws gweithgynhyrchu Arferion Gweithgynhyrchu Da Pharma (“a adwaenir fel GMP”) ar Reacta, a fydd, yn ei dro, yn caniatáu i'r Cwmni ddechrau cynhyrchu cyfeintiau mwy ar gyfer cyflenwi cynnyrch i farchnadoedd rheoledig iawn. Trwy sicrhau'r drwydded hon, bydd marchnad gyfeiriadwy y Cwmni yn cael ei hehangu'n sylweddol.

Dywedodd yr Athro Ashley Woodcock, Cadeirydd Reacta Biotech, “Mae’r buddsoddiad hwn yn gam sylweddol yn natblygiad busnes Reacta Biotech. Mae cyfuniad o geisio ein cymeradwyaeth MHRA ein hunain a chymeradwyaeth ddiweddar yr FDA o’r therapi alergedd bwyd penodol cyntaf a fydd yn cael ei lansio yn yr UD yn fuan, yn creu amseriad delfrydol i Reacta ddod yr unig HBG safonol a dibynadwy ar gyfer pob therapiwteg alergedd bwyd.”

Dywedodd Simon Thorn, Rheolwr Gyfarwyddwr o Acceleris: “Rydym yn falch iawn o gwblhau’r trafodiad hwn gyda’r tîm yn Reacta a’r cyfranddalwyr presennol eraill. Mae Reacta ar gromlin ar i fyny a chyda'r drwydded MHRA ddisgwyliedig, fe fydd yn gweld ehangiad sylweddol. Mae'r farchnad hon wedi dod yn fwyfwy amlwg gyda'r cynnydd sylweddol mewn achosion alergedd bwyd byd-eang a'r cynnydd brawychus yn nifer y bobl sy'n gorfod mynd i mewn i ysbytai oherwydd anaffylacsis. Rydym yn falch fel cwmni ein bod yn gweithio gydag arweinydd o’r fath yn ei faes a chwmni a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd llawer o bobl.”

Gwnaeth Paul Abrahams, Prif Weithredwr Reacta Biotech sylwadau ar y swm sydd wedi'i godi: “Rydym yn hynod falch o gyhoeddi'r hyn a godwyd gennym heddiw a pharhau â’n cynnydd cadarnhaol tuag at ddod yn gyflenwr diagnostig her bwyd geneuol safon aur yn y farchnad.”

“Mae ein busnes yn mynd i’r afael ag angen sylweddol sydd heb ei ddiwallu am HBGau safonol, sefydlog, cywir, derbyniol a llawn-ddall. Mae sicrhau achrediad MHRA yn sbardun allweddol ar gyfer ein twf yn y dyfodol ac rydym yn falch bod gennym bellach y buddsoddiad i gefnogi’r galw yn y dyfodol am ein cynnyrch rheoledig ac adeiladu ar ein refeniw a’n rhestr o gwsmeriaid.”

Dywedodd Michael Bakewell, Dirprwy Reolwr y Gronfa sy’n rheoli ein buddsoddiadau menter technoleg ym Manc Datblygu Cymru: “Rydym yn hapus iawn ein bod wedi gallu parhau â’n cefnogaeth i Reacta Biotech gyda rownd arall o gyd-fuddsoddiad ecwiti. Daw'r cyllid hwn ar adeg pan rydym yn gweld llawer o ddiddordeb byd-eang mewn therapiwteg alergedd bwyd, sy'n faes lle mae Reacta yn prysur ddod i'r amlwg. Mae cael trwydded safle MHRA ar gyfer eu cyfleuster gweithgynhyrchu yng Nglannau Dyfrdwy yn gam nesaf gwych yn eu twf fel cwmni.”