Mae dau fusnes o Sir Gaerfyrddin yn ehangu i adeiladau newydd ar ôl cael benthyciadau £1.6M ‘Banc Datblygu Cymru’

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
old oak and likeafish swim school

Yn ddiweddar, mae dau fusnes llwyddiannus o Sir Gaerfyrddin wedi casglu’r allweddi i’w hadeilad pwrpasol newydd ym Mharc Pensarn ar ôl derbyn cefnogaeth gan Fanc Datblygu Cymru a Chyngor Sir Gaerfyrddin. Mae'r safle manwerthu a diwydiannol newydd ddim ond 1.2 milltir o dref Caerfyrddin.

Derbyniodd Deintyddfa Old Oak Dental Practice fenthyciad o £1.2 miliwn gan y Banc Datblygu i brynu a rhoi’r gosodiadau yn eu lle ym mhractis deintyddol chwe chadair bwrpasol.

Bellach mae gan Ysgol Nofio Likeafish eu pwll eu hunain i helpu mwy o blant i ddysgu nofio ar ôl derbyn benthyciad o £400,000 gan Fanc Datblygu Cymru. Cefnogwyd Likeafish hefyd gan Fanc Lloyds trwy gyfrwng morgais masnachol.

Daeth cyllid ar gyfer y ddwy fargen o Gronfa Busnes Cymru, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Derbyniodd y ddau gwmni gyllid grant hefyd gan Gyngor Sir Gaerfyrddin i helpu gyda chostau cyffredinol y prosiect.

Mae'r deintydd llwyddiannus Dr Adam Llewellyn yn berchen ar ac yn rheoli tair deintyddfa yn Llandeilo, Llanymddyfri a Chaerfyrddin. Bydd ei bractis newydd, mwy sydd ym Mharc Pensarn yn disodli'r ddeintyddfa bresennol yng nghanol tref Caerfyrddin.

“Rwy’n gyffrous fy mod wedi derbyn yr allweddi ac yn edrych ymlaen at groesawu cleientiaid i’n sylfaen newydd yng Nghaerfyrddin,” esboniodd Adam. “Mae'r feddygfa newydd yn caniatáu i fwy o ddeintyddion weithio'n ddiogel gyda'i gilydd, yn ogystal â darparu digon o le i barcio ar gyfer staff a chleifion. Rwyf wrth fy modd gyda'r gefnogaeth a gefais gan Ashley a Clare yn y Banc Datblygu, mae'r broses wedi bod yn esmwyth er gwaethaf ein bod yn gweithredu yn ystod pandemig byd-eang."

Mae Ysgol Nofio Likeafish eisoes yn cyflwyno gwersi nofio i ychydig dros 450 o blant. Mae'r Rheolwr Gyfarwyddwr Russell Sparks yn gobeithio helpu hyd yn oed mwy o blant i ddysgu nofio yng ngorllewin Cymru nawr bod ganddo ei bwll ei hun.

 

“Rydyn ni wedi bod yn helpu plant i ddysgu nofio ar draws Sir Gaerfyrddin ers dros 10 mlynedd bellach, felly cael ein pwll ein hunain oedd y cam rhesymegol nesaf i ateb y galw am ein dosbarthiadau hynod boblogaidd,” ychwanegodd Russell. “Mae'r benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru wedi gwneud y cam nesaf hwnnw'n gyraeddadwy ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu hen ddisgyblion yn ôl yn ogystal â chwsmeriaid newydd unwaith y bydd cyfyngiadau'r cyfnod clo wedi cael eu llacio. Rydym hefyd yn falch y bydd y cyfleuster yn caniatáu inni ehangu ein darpariaeth o weithgareddau i gynnwys dosbarthiadau ar gyfer rhieni a babanod yn ogystal â nofio i oedolion a hynny ar ben ein rhaglen dysgu nofio bresennol."

Strwythurodd y swyddogion buddsoddi Ashley Jones a Clare Sullivan y fargen ar gyfer Practis Deintyddol Old Oak ar ran y Banc Datblygu. Trefnodd Ashley y benthyciad ar gyfer Ysgol Nofio Likeafish hefyd. Meddai: “Bu'n bleser gweithio gyda’r ddau fusnes dros y misoedd diwethaf ac rwy’n falch y byddant yn fuan yn croesawu cwsmeriaid i’w hadeilad newydd ym Mharc Pensarn. Mae Russell ac Adam ill dau yn fentergarwyr lleol llwyddiannus ac rydym yn falch iawn o'u helpu i gymryd y camau nesaf ar daith twf eu cwmnïau."

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Emlyn Dole: “Mae'r cyngor yn falch iawn o fod wedi darparu cefnogaeth ariannol i Bractis Deintyddol Old Oak ac Ysgol Nofio Likeafish i ddatblygu adeiladau newydd a gofod cyflogaeth ar gyfer swyddi newydd yn Sir Gaerfyrddin. Mae darparu swyddi newydd i bobl yn Sir Gaerfyrddin yn flaenoriaeth allweddol i'r bwrdd gweithredol ac roeddwn yn falch ein bod wedi gallu cefnogi'r mentrau hyn."

Ar hyn o bryd mae Practis Deintyddol Old Oak yn derbyn cleientiaid preifat newydd, ewch i weld https://oldoakdentalpractice.co.uk/cy/request-an-appointment/  i ofyn am apwyntiad.

Gallwch ganfod mwy am ddosbarthiadau, ac archebu lle, gydag Ysgol Nofio Likeafish trwy fynd i weld https://www.swimcentre.wales  

I ganfod mwy am sut y gall Banc Datblygu Cymru gefnogi'ch busnes, ewch i weld bancdatblygu.cymru. Neu am sgwrs anffurfiol am eich anghenion cyllid e-bostiwch Ashley ashley.jones@bancdatblygu.cymru neu Clare clare.sullivan@bancdatblygu.cymru