Mae Glenside Commercials yn dechrau gweithio ar ail safle yng Nghasnewydd wrth i drosiant gynyddu dros £15 miliwn

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Glenside

Mae busnes gwasanaethau cerbydau masnachol sy’n seiliedig yng Nghaerffili, Glenside Commercials Limited, wedi dechrau gweithio ar uned £1.5 miliwn sy’n 7491 troedfedd sgwâr ar Ffordd Esperanto, Casnewydd.

Ariannwyd y safle newydd gyda benthyciad gwerth £1 miliwn o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru a reolir gan y Banc Datblygu Cymru newydd. Glenside yw'r busnes cyntaf yn ne Cymru i elwa o'r gronfa £100 miliwn. Mae'r gronfa newydd yn cynnig telerau ad-dalu o hyd at ddeng mlynedd a gall hefyd ariannu cwmnïau cyfalaf canolig.

Fe wnaeth y Rheolwr Gyfarwyddwr Mark Lovering gaffael y busnes ym 1993. Bryd hynny eu henw oedd Victa Motors cyn iddynt gael eu hailenwi yn Glenside Commercials ym 1994. A hwythau’n cyflogi dros 90 o bobl ac yn seiliedig ar Ystâd Ddiwydiannol Tŷ Bedwas, Glenside yw'r prif ddosbarthwr ar gyfer IVECO a FIAT professional yn ne ddwyrain Cymru. Bydd y safle newydd yn cael ei gwblhau yn y gwanwyn 2018.

Fel partner rhwydwaith ar gyfer Carrier Transicold, mae Glenside hefyd yn darparu gwasanaethau peirianneg arbenigol a chynnal a chadw ar draws de Cymru a de Lloegr ar gyfer unedau cludiant rheweiddio.

Meddai'r Rheolwr Gyfarwyddwr Mark Lovering: "Mae fy Nghyfarwyddwr Masnachol, Phil Williams a minnau'n credu'n gryf bod ein busnes wedi gallu goroesi am ein bod yn buddsoddi yn ein staff ac yn gwneud yn siŵr bod ein cwsmeriaid yn ganolog i bopeth a wnawn. Roedd y tîm ym Manc Datblygu Cymru yn deall ein gwerthoedd ac yn gallu cynnig pecyn cyllido hyblyg wedi ei deilwra i ddiwallu ein hanghenion penodol.

"Roedd proses ymgeisio'r banc datblygu yn glir ac yn syml. Gwelsom newyddion am y banc datblygu newydd ac roeddem yn credu y buasent yn gallu ein helpu ni. Rhoesom alwad iddynt a daeth aelod o'u tîm buddsoddi yn ôl atom yn gyflym iawn. Roedd y broses ymgeisio syml yn galluogi Phil a minnau i barhau i ganolbwyntio ar redeg y busnes gyda'r sicrwydd bod gennym bellach yr arian iawn yn ei le i yrru ein cynlluniau twf cyffrous yn eu blaen."
    

Mae Ruby Harcombe yn swyddog buddsoddi gyda Banc Datblygu Cymru. Ychwanegodd: "Mae Glenside wedi dangos twf cryf a chyson. Bydd y safle newydd yng Nghasnewydd yn galluogi’r  busnes I adeiladu cyfran o'r farchnad yn ne ddwyrain Cymru a thargedu marchnadoedd newydd hefyd. Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael y cyfle i weithio gyda nhw ar y cam datblygu nesaf hwn ... "
 
Graham Paul, Cyfrifwyr Siartredig Glenside Commercials fu’n eu cynghori. Bu Broomfield Alexander yn gweithredu ar ran Banc Datblygu Cymru.