Diweddariad pwysig: newidiadau i geisiadau ar-lein  - Os nad ydych wedi dechrau neu gwblhau eich cais eto, adolygwch y wybodaeth sydd wedi'i diweddaru i osgoi unrhyw aflonyddwch os gwelwch yn dda. Darllen mwy

Mae tafarn y pentref yn ehangu gyda phorthdai newydd ar gael ar gyfer gwyliau i bobl sy’n gwirioni â bwyd

Kelly-Jones
Swyddog Portffolio
Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
Ariannu
Twf
Marchnata
Crown at Pantygelli

Mae tri porthdy moethus newydd bellach ar gael i’w harchebu yn The Crown ym Mhantygelli, Y Fenni yn dilyn benthyciad cyfalaf twf o £90,000 gan Fanc Datblygu Cymru.

Wedi'i leoli yng nghanol Sir Fynwy ac ar agor drwy'r dydd bob dydd, mae The Crown yn eiddo i Amy Norvill a Nicholas Clayton-Ford a brynodd y dafarn a'r bwyty ffyniannus sy'n boblogaidd gyda thwristiaid a'r gymuned leol ym mis Mehefin 2022. Cyn hynny bu'r cwpl yn gweithio ym maes lletygarwch ar gyrchfan dwristiaid Ynys Hamilton yn Queensland, Awstralia.

Mae’r benthyciad gan y Banc Datblygu wedi’i ddefnyddio i ariannu’n rhannol y gwaith o osod tri caban manyleb uchel sy’n cynnig profiad glampio moethus i westeion gyda golygfeydd tuag at gopaon Pen-y-fâl a Skirrid. Dyma’r ail fuddsoddiad gan y Banc Datblygu ar ôl darparu benthyciad o £110,000 yn flaenorol ym mis Awst 2023 i ariannu’n rhannol y gwaith o osod tŷ haf newydd i gynyddu nifer y seddau yn The Crown.

Dywedodd Amy a Nick: “Mae’r sector lletygarwch yn waith caled, ond rydym yn ffodus i gael y gofod a’r cyfle i arallgyfeirio fel y gallwn dyfu The Crown fel cyrchfan lle gall ein cwsmeriaid yfed, bwyta ac aros. I ni, mae’n ymwneud â meddwl yn wahanol a defnyddio ein profiad yn Awstralia i wneud y gorau o’r hyn sydd gennym yma ym Mhantygelli.

“Cawsom ein cyflwyno’n wreiddiol i’r Banc Datblygu gan Busnes Cymru. Mae eu cefnogaeth ar y cyd wedi ein helpu ni i ddatblygu’r hyn rydym yn ei gynnig pan y sefydlwyd y tŷ haf a’r porthdai newydd. Y cam nesaf yw datblygu busnes manwerthu tra’n buddsoddi’n gyson yn ein tîm fel y gallwn barhau i ddenu a chadw’r bobl orau oll sy’n rhannu ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid gwych.”

Mae Kelly Jones yn Swyddog Portffolio gyda'r Banc Datblygu. Meddai: “Mae Amy a Nick yn adeiladu busnes ffyniannus mewn rhan brydferth o Gymru sy’n boblogaidd gyda thwristiaid a phobl leol fel ei gilydd. Maent yn buddsoddi yn nhwf cynaliadwy hirdymor The Crown, gan fanteisio ar y lleoliad a’u hangerdd am letygarwch gwych. Dymunwn bob llwyddiant iddynt wrth iddynt barhau i gryfhau ac amrywio’r hyn a gynigir ganddynt.”

Mae’r benthyciad ar gyfer The Crown ym Mhantygelli yn dod o Gronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru gwerth £500 miliwn. Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r Gronfa ar gyfer bargeinion rhwng £25,000 a £10 miliwn. Mae benthyciadau, cyllid mesanîn, a buddsoddiadau ecwiti ar gael i fusnesau Cymru sydd â thymhorau o hyd at 15 mlynedd.