Mae Tom Hannaby wedi cwblhau Allbryniant Rheoli cyfran mwyafrifol saith ffigur o CB Refrigeration Caerffili

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:
cb refrigeration

Mae Tom Hannaby wedi cwblhau allbryniant rheoli o CB Refrigeration sy'n seiliedig yng Nghaerffili.

Ar ôl ymuno â'r busnes bedair blynedd yn ôl yn unig, bydd Tom Hannaby yn gweithio ochr yn ochr â'r Cyfarwyddwyr Jason Beament, Andrew Hall a Simon Beament fel Rheolwr Gyfarwyddwr a chyfranddaliwr mwyafrifol. Darparwyd y cyllid saith ffigur ar gyfer yr allbryniant rheolwyr gan Fanc Datblygu Cymru ac fe ddarparwyd y gefnogaeth cynllunio olyniaeth arbenigol gan Mervyn Ham o Iridium Corporate Services.

Fe'i sefydlwyd ym 1968 fel busnes teuluol bach, ac roedd CB Refrigeration yn cyflenwi ac yn gwasanaethu offer rheweiddio masnachol ar y dechrau. Fe wnaeth y cyfarwyddwyr Jason Beament, Andrew Hall a Simon Beament gaffael CB Refrigeration yn 2016 ac ers hynny maent wedi datblygu'r busnes ochr yn ochr â'u cwmni gosod trydanol, Ayjay Group. Gyda'i gilydd, maent bellach yn darparu datrysiad troi-allwedd rheweiddio ac aerdymheru llawn.

Gyda thwf parhaus ers 2016, mae CB Refrigeration bellach yn arbenigo mewn dylunio, gosod a chynnal a chadw datrysiadau rheweiddio pwrpasol ar gyfer ystod amrywiol o sectorau ar hyd a lled y DU. Mae'r rhain yn cynnwys manwerthu, lletygarwch, diwydiannol a fferyllol. Fel Rheolwr Gyfarwyddwr, bydd Tom Hannaby yn arwain y tîm o 20 aelod o staff i sicrhau twf pellach. Meddai: “O'r diwrnod cyntaf wedi i mi ymuno â'r busnes, rwyf wedi gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwyr i wneud y buddsoddiadau cywir er mwyn cyflawni ein nodau tymor hir. Rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar gyflawni ein strategaeth dwf ac wedi dod o hyd i gymorth arbenigol tîm cynghori rhagorol i sicrhau bod gennym y gefnogaeth a'r gofod cywir i dyfu.

“Mae gennym fusnes gwych ac rydyn ni wedi aros yn gadarn wrth ein huchelgais ar y cyd i wneud yr hyn sy'n iawn i'r busnes a'n pobl. Mae cefnogaeth Banc Datblygu Cymru a Mervyn Ham o Iridium wedi ein helpu i gyrraedd y sefyllfa rydyn ni ynddi heddiw, yn enwedig ar adeg pan allai Cofid-19 fod wedi tarfu ar ein cynlluniau.”

Dywedodd Jason Beament, Cyfarwyddwr Grŵp CB Refrigeration: “Fe wnaethon ni gaffael CB Refrigeration yn 2016 ac yna penodi Tom gyda chylch gwaith i’n helpu ni i dyfu’r busnes. Mae o wedi chwarae rhan allweddol wrth drawsnewid y sefydliad dros y pedair blynedd ddiwethaf ac wedi gweithio'n agos gyda ni i gyflwyno syniadau a threfniadau effeithlonrwydd newydd sydd wedi gwella perfformiad a'r gyfran o'r farchnad.

Gyda chymorth ein cynghorwyr rydym wedi gallu datblygu a darparu strategaeth ymadael sy'n sicrhau parhad llwyr i'n staff a'n cwsmeriaid. Mae ein cefnogaeth barhaus fel Cyfarwyddwyr yn golygu y byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Tom a'r tîm rheoli newydd wrth iddynt baratoi ar gyfer cam nesaf y twf.”

Dywedodd Ruby Harcombe o Fanc Datblygu Cymru: “Mae hwn wirioneddol yn enghraifft berffaith o allbryniant rheoli graddol llwyddiannus ac rydym yn arbennig o falch bod y trafodiad wedi symud yn ei flaen yn ystod y broses gloi. Gweithiodd y Cyfarwyddwyr yn agos â'u huwch dîm rheoli i ysgogi'r allbryniant a pharatoi ar gyfer y trosglwyddo mewn modd amserol. Nawr fe fyddant yn parhau i chwarae rhan agos i sicrhau cefnogaeth barhaus.

Gan weithio gyda'r tîm, rydym yn falch iawn ein bod wedi darparu'r cyllid angenrheidiol a bod gennym bob hyder y bydd y busnes yn parhau i ffynnu wrth iddynt fwrw ymlaen gydag agwedd benderfynol a llawer iawn o gydnerthedd. Mae'n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill."

Ychwanegodd Mervyn Ham o Iridium: “Mae'r rhain yn amseroedd anodd i lawer o fusnesau. Nawr yn fwy nag erioed, y rhai sydd â chynlluniau olyniaeth wedi'u hystyried yn ofalus ac wedi'u paratoi'n dda a fydd yn cyflawni'r strategaethau ymadael gorau a reolir.

Roedd Coronafirws yn golygu bod y gwerthwyr a’r prynwr wedi pwyso'r botwm oedi ar adeg y cyfnod cloi, ond ar ôl iddynt ail asesu risg a dadansoddi sefyllfa’r farchnad roedd y busnes yn ddigon amrywiol i ail gyfeirio adnoddau i feysydd eraill. Ategwyd hyn gan gadernid y busnes a'i dîm. Gyda strwythur wedi'i addasu i leihau risg ar bob agwedd, rydym wedi gallu gweithio gyda'r tîm yn CB Refrigeration a Banc Datblygu Cymru i gytuno ar strwythur sy'n gweithio i bawb ac yn diogelu llwyddiant hirdymor y busnes.”

Cafodd Tom Hannaby gyngor gan Bethan Darwin o Thompson Darwin.

Be' nesaf?

Cysylltwch gyda’n tîm buddsoddi ymroddedig i ddarganfod sut y gallem gefnogi'ch busnes neu os ydych chi'n meddwl eich bod yn barod i gael cyllid, gwnewch gais heddiw.

Cysylltwch â'n tîm Ymgeisio nawr