Mae'r buddsoddwr technoleg profiadol Colin Batten wedi ymuno â thîm Banc Datblygu Cymru

Wedi ei gyhoeddi:
Newidwyd:

Mae Banc Datblygu Cymru wedi ehangu ei dîm buddsoddiadau technoleg ymhellach gyda chyflogai newydd, - mae gan Colin Batten dros 14 mlynedd o brofiad o weithio gyda busnesau technoleg, yn ystod camau dechreuol busnesau ac yn ystod cyfnodau ariannu Cyfres A a Chyfres B. Bydd yn gweithio o swyddfa’r Banc Datblygu yng Nghaerdydd.

Fel cyn-gyfarwyddwr y rhyngrwyd a chyfryngau techUK roedd Colin yn gweithio yng nghanol marchnadoedd technoleg defnyddwyr y DU, gan gynghori cwmnïau technoleg a chynnwys yn strategol ar sut i lywio marchnadoedd wedi eu haflonyddu o'r newydd.

Ymunodd Colin â'r Banc Datblygu ym mis Mai 2020, yn ystod y broses gloi. Wrth siarad am ei benodiad meddai:

“Mae yna wefr mentergarol go iawn o gwmpas y sȊn dechnoleg yng Nghymru. Rydym yn gweld arloesiadau newydd drwy'r adeg ar draws sectorau mor amrywiol â gwyddorau bywyd, roboteg, Deallusrwydd Artiffisial (DA), FinTech a Meddalwedd fel Gwasanaeth. Mae hyn yn arbennig o nodedig gyda'r ffordd y mae cwmnïau technoleg yma yng Nghymru wedi ymateb i'r her o ymladd pandemig Cofid 19. Rwy’n gyffrous fy mod yn gweithio gyda’r cwmnïau technoleg cam cynnar cyffrous niferus sydd wedi’u lleoli yma.”

Wrth benodi Colin i’r rôl, dywedodd Rheolwr y Gronfa Sbarduno Technoleg Carl Griffiths: “Mae Colin wirioneddol wedi dechrau yn ei swydd a mynd i'r afael â phethau gyda brwdfrydedd gwych. Ers ymuno â'r tîm yn ystod y broses gloi ym mis Mai, mae o eisoes wedi ymwneud â'r Wythnos Dechnoleg gyntaf yng Nghymru sydd ar ddod.

“Daw â phrofiad o dros 14 mlynedd o weithio yn y diwydiant technoleg i’r tîm, gan gefnogi twf busnesau cychwynnol aflonyddgar hyd at aml-wladolion arloesol. Yn sgil ei benodiad o, bellach mae 16 aelod o staff yn ein tîm technoleg, gyda phob un yn gweithio i gefnogi cwmnïau technoleg cyffrous newydd a cham cynnar yng Nghymru. Rydym yn gyffrous bod gennym Colin ar fwrdd y llong fel petai wrth i ni dyfu ein portffolio i fodloni gofynion sector technoleg Cymru sy'n tyfu.”

Wrth siarad am Wythnos Dechnoleg Cymru sydd ar ddod, ychwanegodd Colin: “Mae gan Gymru sector technoleg cyffrous sy'n llawn busnesau arloesol. Bydd Wythnos Dechnoleg Cymru yn rhoi cyfle iddynt arddangos eu busnes a chael mynediad at adnoddau am ddim. Mae wedi bod yn bleser chwarae rhan ar ddechrau’r prosiect gwych hwn sydd wir yn tynnu sylw at yr ecosystem gefnogol sydd gennym yma ar gyfer busnesau technoleg sy'n dechrau o'r newydd a rhai cam cynnar.”

Mae gan Colin radd anrhydedd mewn Gwleidyddiaeth o Brifysgol Reading, ac mae'n gymrawd o Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ac Ymddiriedolaeth Arweinyddol Windsor.